Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 16 HYDREF 2020 pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2020 yn gywir.

4.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2020 - 30 MEDI 2020 pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Medi 2020, yn rhagweld tanwariant o £3m o ran arian parod. O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn dangos tanwariant o £1.5m. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cynnydd o 3% wrth bennu'r gyllideb ar gyfer pensiynwyr, y cynnydd gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn hyd yma oedd 1.5%. Roedd tanwariant o ran treuliau rheolwyr o £312k.

O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn dangos cynnydd o £1.2m, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd o £1.5m mewn incwm buddsoddi. Yn gyffredinol, y cyfanswm gwariant oedd oddeutu £99.3m a chyfanswm incwm o oddeutu £102.3m a olygai sefyllfa llif arian cadarnhaol o £3m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 - 30 Medi 2020.

5.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Tachwedd, 2020 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £23.1m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

6.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-2021 pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oedd achos rhesymol i gredu'r canlynol:

·       na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·       bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

Nododd y Pwyllgor fod sawl achos wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Roedd y rheini bellach wedi dod i law felly nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

7.

COFRESTR RISG 2020-2021 pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai dogfen waith oedd y Gofrestr Risg a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed. Cafodd hyn ei adolygu ac ni chafwyd unrhyw newidiadau i'r Gofrestr Risg a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar 2 Mawrth 2020. Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y gofrestr risg ar gyfer 2020-2021 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi a'u hasesu.

8.

DIWEDDARIAD GWEITHREDWR pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r manylion diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru (WPP), ar gynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â thaliadau cyfredol y gronfa, cynnydd lansio'r gronfa ac Ymgysylltiad a Diweddariad Corfforaethol Link / Russel Investments.

·       Tranche 3 - Incwm Sefydlog

·       Tranche 4 – Marchnadoedd Datblygol.

·       Tranche 5 - Datblygu Strategaeth Marchnadoedd Preifat

Hefyd cafodd y Pwyllgor yr adroddiad diweddaraf am y Protocol Ymgysylltu ynghyd â dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd allweddol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y newyddion diweddaraf ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.

9.

AILSTRWYTHURO ECWITI pdf eicon PDF 383 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar gynigion ar gyfer ailstrwythuro portffolio ecwiti Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi sylw i'r risg yn ymwneud â'r hinsawdd a bod portffolios Partneriaeth Pensiwn Cymru bellach wedi'u creu. Yn unol â hynny, rhoddwyd gwybod ei bod bellach yn ymddangos yn briodol i strwythur y portffolio Ecwiti BlackRock £1.27Bn gael ei adolygu i'w alluogi i fod yn fwy effeithiol i gyflawni nod y Gronfa o ran perfformiad yn y tymor hir a risg hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

9.1

Bod y Gronfa yn dyrannu 10% o'i hasedau i strategaeth ecwiti byd-eang goddefol “Lleihau Tanwyddau Ffosil” BlackRock i'w hariannu o o bortffolio gweithredol BlackRock yr UD a phortffolio goddefol y DU;

9.2

Bod y Gronfa yn cynyddu dyraniad o 5% i Dyfiant Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ariannu o bortffolio gweithredol BlackRock yr UD a phortffolio goddefol y DU

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD UN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2020.

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2020.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau