Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 77902168# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones. Roedd y Cynghorydd Dai Thomas yn bresennol yn y cyfarfod fel Aelod Dirprwyol.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 2AIL MAWRTH, 2020 pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2020, gan eu bod yn gywir.

 

4.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2019 - 31 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r sefyllfa derfynol o ran y gyllideb fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2020. Nodwyd bod tanwariant o'i gymharu â'r gyllideb o £3.0m ar eitemau arian parod.  Roedd cyfanswm gwariant o £101.1m a chyfanswm incwm o £104.1m wedi arwain at sefyllfa llif arian cadarnhaol o £3.0m.

 

O ran gwariant o'r gronfa, adroddwyd mai effaith net y Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau oedd gorwariant o £11.2 m o'i gymharu â'r gyllideb. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i gyfandaliadau pensiynwyr gohiriedig a oedd wedi arwain at gynnydd uwch na'r disgwyl yn y pensiwn, a hefyd cyfandaliadau buddion marwolaeth a chyfandaliadau buddion ymddeol. Mae taliadau rhodd (£4.8m), Blynyddoedd Ychwanegol Digolledu, ac Athrawon sy'n Ymddeol Cyn Pryd wedi cael eu cynnwys. Roedd gorwariant o £2.2m ar dreuliau rheolwyr. 

 

O ran incwm y gronfa, bu cynnydd o £16.3m o ran effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau yn bennaf oherwydd gostyngiad o £2.7m mewn incwm buddsoddi, cynnydd o £5.3m mewn trosglwyddiadau ynghyd â chynnydd o £8.3m mewn cyfraniadau a oedd yn cynnwys taliadau rhodd (£4.8m), Blynyddoedd Ychwanegol Digolledu, ac Athrawon sy'n Ymddeol Cyn Pryd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill, 2019 i 31 Mawrth, 2020.

 

5.

DATGANIAD CYFRIFON 2019-20 HEB EU HARCHWILIO pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon Heb eu Harchwilio Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2019/20, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2018-19, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2019-20 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. – atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.

 

Nodwyd bod sefyllfa'r gronfa, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2020, yn nodi mai gwerth y cyfanswm asedau oedd £2.384bn, i lawr o £2.575bn yn 2018/19. Roedd hwn yn ostyngiad o £191m mewn asedau net o 2018/19 i 2019/20 gyda gwariant y gronfa, buddion taladwy a throsglwyddiadau yn dod i gyfanswm o £93m.

 

Nodwyd nad oedd y cyfrifon yn ystyried rhwymedigaethau i dalu pensiynau a buddion oedd yn cwympo wedi diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Archwilio Cymru o fewn y terfyn amser statudol ac y byddai Archwilio Cymru yn adrodd eu canfyddiadau'n ôl maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Heb eu Harchwilio Cronfa Bensiwn Dyfed 2019/20.

 

6.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Nodwyd ar 31 Mawrth, 2020 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2020.

 

7.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-2021 pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.

 

Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith.  Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.  Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.

 

O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

8.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU 2020-2023 pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2020-2023, a oedd yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2020/23.

 

9.

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru, ynghylch cynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â daliadau'r gronfa bresennol, cynnydd o ran lansio'r gronfa, a diweddariad corfforol ac ymgysylltiad o ran yr LFS.

 

·         Tranche 3 - Incwm Sefydlog

·         Tranche 4 - Marchnadoedd sy'n Amlygu

·         Tranche 5  - Marchnadoedd Preifat

 

Hefyd cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 a'r Protocol Ymgysylltu, gan gynnwys dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd allweddol.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod Diweddariad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.

 

10.

HYSBYSIAD O GYNNIG GAN CYNGOR Y SIR 9 HYDREF 2019 I DDADFUDDSODDI O DANWYDDAU FFOSIL pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi manylion yr Hysbysiad o Gynnig o gyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2019, i dynnu buddsoddiad yn ôl o danwyddau ffosil, a oedd i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ddyletswydd ymddiriedol i geisio cael yr enillion ariannol gorau posibl ar gyfer ei aelodau.  Nodwyd bod hyn yn un o egwyddorion sylfaenol y broses o reoli Cronfeydd Pensiwn a sefydlwyd o dan y gyfraith. Fodd bynnag, fel buddsoddwr tymor hir sy'n gyfrifol am ofalu am fuddiannau'r buddiolwyr dros nifer o ddegawdau yn y dyfodol, roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn ffactor risg sylweddol ar gyfer buddsoddiadau'r gronfa bensiwn.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y gronfa'n rhannu llawer o'r pryderon ynghylch materion o ran yr hinsawdd a charbon, ac yn gweithio ar lefel cronfa a lefel gyfunol (boed drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru neu gyda Chronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i gymryd rhagor o gamau o ran yr hinsawdd).

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu bod y Gronfa o'r farn mai ymgysylltu â chwmnïau buddsoddi oedd yr opsiwn a ffefrir i greu newid wrth reoli materion risg cyffredinol o ran buddsoddi, yn hytrach na thynnu buddsoddiad yn ôl yn llwyr.
  Nodwyd hefyd fod gan Gronfa Bensiwn Dyfed lefel gynyddol o fuddsoddiadau mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel drwy gronfeydd ar y cyd a byddai'n  parhau i wneud buddsoddiadau o'r fath lle bydd y proffil risg/elw yn cyd-fynd â strategaeth fuddsoddi'r gronfa bensiwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Rhybudd o Gynnig y Cyngor Sir (9 Hydref, 2019) i dynnu buddsoddiad yn ôl o danwyddau ffosil, ac mae Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn parhau i ystyried tynnu buddsoddiad yn ôl o danwyddau ffosil lle mae'r proffil risg/enillion yn cyd-fynd â strategaeth fuddsoddi'r gronfa bensiwn.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 MAWRTH 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2020.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2020.

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2020.

 

14.

ADRODDIAD MYNEGEION CARBON ISEL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiadau canlynol gan BlackRock a Baillie Gifford ar Fynegrifau Carbon Isel, a chafodd gyflwyniadau arnynt. 

 

  • BlackRock Low carbon equity tracker fund
  • Baillie Gifford Global Alpha Paris Aligned

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiadau gan BlackRock a Baillie Gifford ar Fynegrifau Carbon Isel.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau