Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Llun, 2ail Mawrth, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Croesawodd y Cadeirydd aelodau o'r cyhoedd i'r cyfarfod a dywedodd ei fod wedi penderfynu ar yr achlysur hwn ddefnyddio ei ddisgresiwn a chaniatáu iddynt ofyn cwestiynau y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu ar eu cyfer, yn amodol ar gyflwyno'r cwestiynau hynny yn ysgrifenedig ar ôl y cyfarfod.

 

Cyflwynwyd y ddau gwestiwn canlynol (ar ddiwedd eitem 13:):-

 

1.     Pam y byddai rhannu adroddiad perfformiad yr Ymgynghorydd Annibynnol ac adroddiad perfformiad Northern Trust â'r cyhoedd yn debygol o achosi niwed ariannol?

2.     Beth yw prawf budd y cyhoedd? A sut y gellir ei herio?

 

Croesawodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Mr Adrian Brown (sylwedydd) i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei benodi o bosibl yn Ymgynghorydd Annibynnol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 28AIN TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CYNLLUN ARCHWILIO 2019-2020 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Archwilio 2020 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a nodwyd y byddai'n cael ei gyflwyno i'w fabwysiadu'n ffurfiol i Bwyllgor Archwilio y Cyngor ar 20 Mawrth 2020.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y Cynllun yn dilyn yr un fformat, yn yr un modd â'r blynyddoedd blaenorol, roedd Atodiad 2 yr adroddiad yn tynnu sylw at y risgiau hynny o ran camddatganiad perthnasol yr oedd yr Archwilydd yn ystyried eu bod yn sylweddol ac yn gofyn am ystyriaeth archwilio arbennig. Roedd y rheiny'n ymwneud â Rheolwyr yn diystyru rheolaethau, Prisiad Tair Blynedd a Dyfarniad McCloud.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd, er mai'r amserlen ar gyfer cyflawni Archwiliad o'r Cyfrifon 2019-2020 oedd 1 Rhagfyr 2020, yn unol â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio, roedd yr Archwilydd yn cynnig cwblhau'r gwaith archwilio erbyn mis Medi 2020, ar ôl cwblhau cyfrifon y Cyngor.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, er na fyddai Archwiliad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei gwblhau tan fis Medi, ei fwriad oedd cyflwyno rhai oedd yn barod i'w harchwilio ar yr un pryd â Chyfrifon y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at y risg a nodwyd gan yr archwilydd mewn perthynas â'r Prisiad Tair Blynedd a dywedodd bod y gwaith prisio wedi'i gwblhau, a bod disgwyl i'r adroddiad terfynol ddod i law yn fuan.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Archwilio 2020.

 

 

5.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2019 - 31 RHAGFYR 2019 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran 2019/20 fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2019. Nodwyd, gan fod amcangyfrif o gyfanswm gwariant o £92.4m ac amcangyfrif o gyfanswm incwm o £92.6m, bod y gronfa yn nodi tanwariant o £0.2m yn y gyllideb o ran arian parod.

 

O ran gwariant y gronfa, dywedwyd mai effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau oedd gorwariant o £1,590k, yn bennaf o achos cyfandaliadau pensiynwyr gohiriedig a oedd wedi arwain at gynnydd pensiwn uwch na'r disgwyl. Rhagwelwyd hefyd y byddai treuliau rheoli £2,326k yn uwch na'r gyllideb.

 

O ran incwm y gronfa, bu cynnydd o £4.9m o ran effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau yn bennaf oherwydd gostyngiad o £0.6m mewn incwm buddsoddi, cynnydd o £3.7m mewn trosglwyddiadau ynghyd â chynnydd o £1.8m mewn cyfraniadau.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at yr elfen o'r adroddiad a oedd yn ymwneud â buddion taladwy a dywedodd fod hynny'n ymwneud â'r taliadau sy'n cael eu gwneud i bensiynwyr presennol y gronfa. Gan na fyddai dechreuwyr newydd i'r gronfa yn derbyn pensiwn am oddeutu 40 mlynedd, roedd yn bwysig bod y gronfa yn cynnal digon o asedau i gyflawni ei rhwymedigaethau presennol ac yn y dyfodol. Roedd hynny'n golygu bod angen buddsoddi mewn portffolio amrywiol a oedd yn cynnwys ystyried buddsoddiadau carbon isel.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill - 31 Rhagfyr, 2019.

 

6.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2020 - 2021 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020/21. Nodwyd bod y gwariant cysylltiedig ag arian parod ar gyfer 2020/21 a oedd wedi'i bennu ar £96.2m yn erbyn incwm cysylltiedig ag arian parod o £96.2m wedi arwain at gyllideb net o £0 gan roi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

Nododd y Pwyllgor, o ran lefelau gwariant, fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £85.1m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 1.7% mewn pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr Medi 2019, ynghyd ag effaith net o 3.0% ar gyfer aelodau newydd y cynllun pensiwn. Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £8.5m, ac o blith hwn roedd £6.6m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi.

 

Nodwyd ymhellach fod cyfraniadau incwm wedi cael eu hamcangyfrif yn £80.9m a oedd yn cynnwys £59.8m gan y cyflogwr a £21.1m yn gyfraniadau gan y gweithwyr, roedd y cyfraddau hynny ar sail prisiad 2019, 2.75% ar gyfer codiadau cyflog a 2% pellach o gynyddrannau tâl yn 2020/21. Amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £14m a oedd felly yn cynnal cyllideb niwtral o ran arian parod a sicrhau nad oedd yn Gronfa yn cadw arian parod dros ben y byddai modd ei fuddsoddi.

 

Roedd y gyllideb nad oed yn gysylltiedig ag arian parod wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod mwy o bensiynwyr na chyfranwyr yn y Gronfa ac o ganlyniad roedd monitro llif arian cadarn yn dod yn fwy hanfodol. Ymhlith y ffactorau eraill oedd yn effeithio ar y Gronfa oedd darparu ar gyfer pensiynau dileu swydd/ymddeol, a hynny heb wybod o reidrwydd y cynlluniau manwl sydd gan gyrff cyflogi o ran lefelau staffio. O ganlyniad, roedd yn bwysig bod y Gronfa'n cadw digon o arian parod. Cadarnhaodd hefyd, er bod pobl yn byw'n hwy, fod actiwarïaid y Gronfa wedi dweud bod y cyfraddau byw'n hirach wedi sefydlogi. 

 

PENDERFYNWYD derbyn Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020/21.

 

 

 

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 RHAGFYR 2019 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Nodwyd ar 31 Rhagfyr, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw cyfanswm o £17.7m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau. Roedd y balans hwnnw'n uwch na'r arfer gan fod rhai cyrff cyflogi yn talu eu cyfraniadau ymlaen llaw. Fodd bynnag, byddai'n lleihau'n sylweddol erbyn diwedd mis Mawrth, 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2019.

 

 

8.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2019-2020 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.

 

Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.

 

O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau'r cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn mewn pryd; fodd bynnag, nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

9.

COFRESTR RISG 2020-2021 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg 2020-21, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. Roedd y gofrestr, a gâi ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd, yn cynnwys gwybodaeth am y meysydd canlynol:

 

·         Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·         Asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a lefel y risg

·         Mesurau rheoli risg sydd ar waith

·         Y swyddog cyfrifol

·         Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Cafodd y risgiau eu hadolygu a gwnaed rhai mân addasiadau. Byddent yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Gofrestr Risg

 

10.

DRAFFT DATGANIAD STRATEGAETH ARIANNU pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Ddatganiad Strategaeth Gyllido Drafft i'w ystyried a oedd â'r nod o nodi strategaeth gyllido glir a thryloyw o ran sut yr oedd pob un o rwymedigaethau pensiwn Cyflogwyr y Gronfa yn cael eu bodloni yn y dyfodol yn dilyn y prisiad tair blynedd fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2019. Roedd y Datganiad Drafft wedi bod yn destun cyfnod ymgynghori, a ddaeth i ben ar 28 Chwefror, 2020 ac ar ôl gwerthuso'r ymatebion a ddaeth i law, byddai datganiad terfynol yn cael ei gyhoeddi. Nodwyd bod y Gronfa yn cael ei hariannu 104% ar hyn o bryd, a'i bod yn un o'r cronfeydd a oedd yn perfformio orau yn y wlad.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor y byddai'r Gronfa hefyd yn edrych ar ei Strategaeth Prisio Asedau a lle'r oedd yr asedau hynny'n cael eu buddsoddi yn y marchnadoedd. Byddai'r adolygiad hwnnw'n cynnwys archwilio marchnadoedd moesegol, carbon isel ac ynni adnewyddadwy gan hefyd archwilio sut i arallgyfeirio o danwyddau ffosil, fel y gofynnwyd yn y Rhybudd o Gynnig a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Hydref, 2019.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Strategaeth Gyllido Drafft.

 

11.

CYNLLUN BUSNES 2020-2021 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried ar gyfer y cyfnod 2020-2021, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2020/21.

 

12.

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru gan Link a Russell ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru, ynghylch cynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â'r Protocol Ymgysylltu a'r Dyddiadau Allweddol:-

 

·         Tranche 1 – Ecwiti Byd-eang

·         Tranche 2 – Ecwitis y DU ac Ewrop

·         Tranche 3 – Incwm Sefydlog

·         Tranche 4 – Marchnadoedd Preifat.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr Ecwiti Twf Byd-eang presennol yn gyfanswm o £2.4b ac yn sicrhau bod 0.23% o elw dros ben. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at weithredu'r Gronfa Ecwiti Byd-eang a phwysigrwydd annog Rheolwyr Cronfeydd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy gan ystyried yr angen i gael yr elw gorau posibl o'r buddsoddiadau hynny.

 

PENDERFYNWYD derbyn y diweddariad gan Link a Russel ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

 

13.

CONTRACT CYNGHORYDD ANNIBYNNOL pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Adrian Brown, sydd â chysylltiad i M.J. Hudson, wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Annibynnol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed yn dilyn ymarfer tendro diweddar.

 

Wrth groesawu Mr Brown i'r cyfarfod, cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol at y gwaith a'r cyngor a ddarparwyd gan ymgynghorydd blaenorol y Gronfa, Mr Lambert, dros nifer o flynyddoedd a mynegodd ei werthfawrogiad am y cyngor hwnnw.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

14.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU  BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 14 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr, 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2019.

 

 

16.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad ar lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi ar gyfer y cyfnodau hyd at ei ddechreuad.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2019.