Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Rob Evans a Beverley Owen. Roedd y Cynghorydd Dai Thomas yn bresennol yn y cyfarfod fel Aelod Dirprwyol.

 

NEWID TREFN Y MATERION

Cytunodd y Pwyllgor, ar gais y Cadeirydd, i newid trefn materion yr agenda er mwyn dod ag Eitem 10 (Cyflwyniad Link a Russell) yn ei blaen i'w thrafod ar ôl Eitem 2 (Datgan Buddiannau Personol), ac er mwyn dod ag Eitem 3 (Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2019) yn ei blaen.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Y Math o Fuddiant

D.E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

T.J. Jones

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

D. Thomas

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

CYFLWYNIAD LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Duncan Lowman o Link Asset Services a Jim Leggate a Sasha Mandich o Russell Invesments, a roddodd gyflwyniad ynghylch cerrig milltir allweddol a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru, gan gynnwys penodi a goruchwylio rheolwyr buddsoddi, monitro buddsoddiadau, goruchwylio'r Gweinyddwr (Northern Trust) a'r cerrig milltir allweddol. Yn ogystal, rhoddodd y cyflwyniad wybodaeth am fuddion a gofynion rheoleiddiol strwythur y Cynllun Contractiol Awdurdodedig, a oedd wedi'i fabwysiadu gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch atal Cronfa Woodford, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Link yn darparu gwasanaethau ased i'r gronfa ond nad oedd yr ataliad yn cael effaith ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i gweithrediadau. Dywedwyd hefyd y byddai rheolwyr buddsoddi ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu cyflogi ar sail cyfrifon ar wahân lle bo'n bosibl a bod systemau ar waith i fonitro hylifedd y gronfa.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y Gronfa Tyfu Byd-eang yn cael ei gweithredu gan Link a bod y Gronfa Cyfleoedd Byd-eang yn cael ei gweithredu gan Russell oherwydd ei strwythur buddsoddi mwy cymhleth.

 

Gwnaed ymholiad ynghylch buddsoddi cyfrifol a newid yn yr hinsawdd. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod cyfarfod adeiladol wedi'i gynnal gyda Chyfeillion y Ddaear yn ddiweddar, lle trafodwyd gwerth strategaethau buddsoddi o ran dylanwadu ar gwmnïau ac ymgysylltu â nhw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

 

4.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 19EG MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 330 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 19 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.

 

5.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2019 - 30 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2019/20. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019, yn rhagweld tanwariant o £0.8m o ran arian parod. O ran gwariant, roedd effaith net y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau allan yn orwariant o £648k, yn bennaf wedi'i achosi gan gynnydd yn y buddion taladwy. Roedd gorwariant o ran treuliau rheolwyr o £616k. O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn cynrychioli cynnydd o £2m. Yn gyffredinol, rhagwelwyd cyfanswm gwariant o £89.0m a chyfanswm incwm o £89.8m sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £0.8m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

6.

ADRODDIAD YNGHYLCH YR ARCHWILIAD O DDATGANIADAU ARIANNOL 2018-19 (ISA260) pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawydd y Pwyllgor Jason Garcia o Swyddfa Archwilio Cymru i'r cyfarfod a gyflwynodd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, gan fanylu ar y materion a oedd yn codi o'r archwiliad yr oedd angen eu hadrodd o dan Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. 

 

Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2019, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi a bod y Pwyllgor Archwilio wedi ystyried yr adroddiad terfynol ar 13 Medi 2019.

 

Canfuwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd heb gael eu cywiro o hyd, ond roedd rhywfaint o oedi o ran derbyn y cyfrifon. Roedd nifer o fân gamddatganiadau wedi'u cywiro gan y rheolwyr, fel y'u rhestrir yn Atodiad 3.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2018–19.

 

7.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Mehefin, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £13.8m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y ffigur presennol yn rhannol oherwydd bod y Cyngor yn talu cyfraniadau cyflogwr ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn gyfan, a disgwylir iddo ostwng dros y misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

8.

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2019-20 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                     

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

9.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. Roedd y gofrestr, a gâi ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd, yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

·         Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·         Asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a'r statws risg

·         Y mesurau rheoli risg sydd ar waith

·         Y swyddog cyfrifol

·         Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Gofrestr Risg yn amodol ar fân newidiadau i'r golofn "wedi'i neilltuo i".

 

10.

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cerrig milltir a'r cynnydd o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedodd fod gwerth yr Is-gronfa Tyfu Byd-eang a'r Is-gronfa Cyfleoedd Byd-eang wedi cynyddu ers iddynt gael eu lansio. Roedd gwaith ar is-gronfeydd Incwm Sefydlog yn cael ei wneud ac roedd pob un o'r wyth cronfa gyfansoddol wedi ymrwymo i gwblhau hyn erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd is-gr?p o Weithgor y Swyddogion yn archwilio opsiynau ynghylch Marchnadoedd Preifat. Yn dilyn cyfarfodydd adolygu gyda Link, penderfynwyd y byddai un o'i weithwyr wedi'i neilltuo'n llawn i weithio ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd y byddai gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei lansio ar 20 Medi 2019 ac y byddai ar gael i'r cyhoedd ar 23 Medi 2019. Byddai polisi cyfathrebu'n cael ei lunio a byddai gweithdy llywodraethu'n cael ei gynnal ar ôl cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ar 20 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU  BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

12.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL MEHEFIN 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019.

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEHEFIN 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau