Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dai Thomas a Mr Randal Hemingway.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Math o Fuddiant

D.E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

T.J. Jones

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

R. Evans

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

COFNOFION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED MEDI 2018 pdf eicon PDF 161 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 yn gofnod cywir.

 

4.

MONITRO CYLLIDEB FEL YR OEDD AR 31AIN RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2018/19. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, ar 31 Rhagfyr 2018, yn rhagweld tanwariant o £2,815k o ran arian parod. O ran gwariant, roedd yr effaith net o'r buddion sy'n daladwy a throsglwyddiadau allan yn cynrychioli gorwariant o £258k yn bennaf oherwydd natur aflywodraethus cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r gronfa. Roedd tanwariant o ran treuliau rheolwyr o £37k. O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn cynrychioli tanwariant o £3m. Yn gyffredinol, rhagwelwyd cyfanswm gwariant o £86.7m a chyfanswm incwm o £89.5m sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £2.8m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

5.

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2019 - 2020 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2019-20. Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2019-20 wedi'i bennu ar £87.8m a'r incwm arian parod cysylltiedig wedi'i bennu ar £87.8m, gan arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

O ran lefelau gwariant, nododd y Pwyllgor fod y buddion sydd i'w talu wedi cael eu hamcangyfrif i fod yn £79.5m a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd o 2.4% yn y pensiynau, ar sail Mynegai Prisiau Defnyddiwr mis Medi 2018, ynghyd ag effaith net o 2% ar gyfer aelodau newydd y pensiwn. Amcangyfrifwyd bod treuliau rheoli yn £5.6m, ac o blith hwn roedd £3m wedi cael ei glustnodi ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi. Nodwyd ymhellach fod cyfraniadau incwm wedi cael eu hamcangyfrif yn £72.1m a oedd yn cynnwys £52.8m gan y cyflogwr a £19.3m yn gyfraniadau gan y gweithwyr, a bod cyfraddau'r cyflogwyr ar sail prisiad 2016 a oedd yn cynnwys 2% ar gyfer codiadau cyflog yn 2019-20. Amcangyfrifwyd bod incwm buddsoddi yn £14m er mwyn cynnal cyllideb niwtral yn ariannol a sicrhau nad oedd y gronfa yn cadw arian dros ben y byddai modd ei fuddsoddi. Roedd y gyllideb gysylltiedig ar gyfer eitemau nad ydynt yn rhai arian parod  wedi'i gosod ar £50m ar sail amcangyfrif yr enillion a'r colledion a gafwyd o ran portffolios rheolwyr unigol a gwerthiannau a phryniannau o fewn y portffolios eiddo.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr arian a reolir gan Columbia Threadneedle a Baillie Gifford wedi cael ei drosglwyddo i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ym mis Ionawr/Chwefror 2019. Dywedwyd bod yr ystadegau sy'n ymwneud â chostau Cronfa Bensiwn Dyfed i Bartneriaeth Pensiwn Cymru yn rhannol seiliedig ar amcangyfrifon a byddai data mwy dibynadwy ar gael yn y flwyddyn ariannol nesaf. Byddai gwaith monitro'r gyllideb ynghylch y gronfa yn cael ei gyflawni yn chwarterol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2019-20.

 

6.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31AIN RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Rhagfyr, 2018 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £8.7m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

7.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer Rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

8.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried. Roedd y gofrestr, a gâi ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd, yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

·         Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·         Asesiad o'r effaith bosibl, y tebygolrwydd a'r statws risg

·         Y mesurau rheoli risg sydd ar waith

·         Y swyddog cyfrifol

·         Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Byddai'r risgiau yn parhau i gael eu hadolygu'n chwarterol, a byddai unrhyw newidiadau yn cael eu dwyn at sylw'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Gofrestr Risg.

 

9.

YMGYNGHORIAD GAN Y WEINYDDIAETH TAI, CYMUNEDAU A LLYWODRAETH LEOL (MHCLG) AR GANLLAWIAU STATUDOL DRAFFT YNGHYLCH CYFUNO ASEDAU YN Y CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ymgynghoriad gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar ganllawiau statudol drafft ynghylch cyfuno asedau yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac roedd nodyn gan Hymans Robertson LLP, ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, ynghlwm wrth y ddogfen.

 

Nododd y Pwyllgor fod canllawiau statudol drafft yn cynnwys amod a fyddai'n disgwyl i aelodau'r gronfa wneud buddsoddiadau newydd o 2020 ymlaen. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai Cronfa Bensiwn Dyfed wedi gwneud y rhan fwyaf o'i buddsoddiadau erbyn 2020. Awgrymwyd y gallai'r Pwyllgor dynnu sylw at effaith negyddol bosibl y ddarpariaeth hon ar fuddsoddiadau mewn llythyr ymateb. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod angen cyflwyno ymatebion erbyn 28 Mawrth a byddai ymateb drafft yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor a byddai'r Cadeirydd yn cytuno arno erbyn canol mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi ymgynghoriad y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a'r nodyn gan Hymans.

 

10.

CYFLWYNIAD GAN YR AWDURDOD CYNNAL AR GERRIG MILLTIR A’R CYNNYDD O RAN PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cerrig milltir a'r cynnydd o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nododd y Pwyllgor fod y gwaith o gyflwyno a throsglwyddo asedau i ddau is-gronfa Ecwiti Byd-eang (£3.5bn) wedi'i gwblhau. Nodwyd bod y dangosyddion cychwynnol yn awgrymu bod y gwaith masnachu wedi mynd rhagddo fel y disgwylid a byddai dadansoddiad yn cymharu'r adroddiad cyn-masnachu â'r adroddiad ôl-masnachu yn cael ei ddarparu erbyn diwedd mis Mawrth 2019.  Gallai dyddiad targed ar gyfer lansio Tranche 2 (Ecwitïau'r DU ac Ecwitïau Ewrop, oddeutu £700m) gael ei ohirio o bosibl i fis Ebrill 2019. O ran Tranche 3 (Incwm Sefydlog , oddeutu £3bn), dywedyd wrth y Pwyllgor nad oedd Cydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi cytuno ar is-gronfeydd, gan ohirio o bosibl y lansiad tan fis Medi 2019. Roedd hyn gan fod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Lywodraethu ym mis Ionawr 2019 wedi cael ei ganslo oherwydd materion yn ymwneud â'r tywydd. Yn gyffredinol, roedd yr ymarfer cyfuno yn gwneud cynnydd da.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(b) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU  SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

13.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL RHAGFYR 2018

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 12 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2018.

 

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 12 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2018.

 

15.

BENTHYCA GWARANNAU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 12 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais ynghylch benthyca gwarannau ar gyfer buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed mewn Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd y cais yn cynnwys adroddiad Mercer ynghylch benthyca gwarannau a chynnig Northern Trust. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod mabwysiadu'r ateb masnachu arfaethedig yn amodol ar gael cymeradwyaeth gan bob un o 8 cronfa y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a byddai'r Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn chwarterol os byddai'r ateb yn cael ei fabwysiadu. Cytunodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol â'r egwyddor o fenthyca gwarannau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais am fenthyca gwarannau, ar yr amod bod yr ateb masanachu yn cael ei fonitro'n rheolaidd ac ond yn cael ei roi ar waith yn y lle cyntaf i Gronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau