Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||
DATGAN BUDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD MAI, 2018 PDF 128 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 4 Mai, 2018 gan eu bod yn gywir.
|
|||
MONITRO CYLLIDEB 1AF EBRLL 2017 - 31AIN MAWRTH 2018 PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn cyflwyno'r union sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd y flwyddyn fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â 2017/18.
Dywedwyd, ar 31 Mawrth 2018, fod cyfanswm gwariant o £84.1m a chyfanswm incwm o £85.2m wedi arwain at lif arian cadarnhaol o £1.1m.
Datganodd yr adroddiad diwedd blwyddyn o ran gwariant, fod effaith net Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau wedi arwain at orwariant o £1.4m, y dylanwadwyd arno'n bennaf gan natur afreoladwy'r cyfandaliadau a throsglwyddiadau allan o'r Gronfa.
Roedd Trosglwyddiadau, Cyfraniadau ac Incwm Buddsoddi wedi cyfrannu at danwariant o £0.9m.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lefelau staffio presennol y tîm Buddsoddiadau Pensiwn, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn, yn dilyn hysbysebu am Gyfrifydd Cynorthwyol, fod penodiad ar fin cael ei wneud a bod y Swyddog Buddsoddiadau Pensiwn yn dal i fod ar gyfnod salwch hirdymor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018.
|
|||
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31AIN MAWRTH, 2018 PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.
Nodwyd ar 31 Mawrth, 2018 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £4.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||
ADRODDIAD TORRI AMODAU 2017-2018 PDF 64 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.
Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.
O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
·
na chydymffurfir – neu
na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n
berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun; · bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.
|
|||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||
ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31AIN MAWRTH, 2018 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2018.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018.
|
|||
GWEITHREDU STRATEGAETH DDIWYGIEDIG (BLACK ROCK SAIF) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Weithredu'r Strategaeth Ddiwygiedig mewn perthynas â Chronfa Incwm Amgen Strategol (SAIF) Black Rock.
Cyflwynwyd yr adroddiad ar ôl i'r Pwyllgor gymeradwyo'r strategaeth ddiwygiedig, a oedd yn ddetholiad o adroddiad Diwygio Dyraniad Asedau Strategol Cronfa Bensiwn Dyfed, a oedd yn fwy cynhwysfawr ac a ysgrifennwyd gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol ym mis Gorffennaf 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad ar Weithredu'r Strategaeth Ddiwygiedig (BlackRock SAIF).
|
|||
ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31AIN MAWRTH, 2018 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2008.
|