Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mawrth, 8fed Hydref, 2024 10.50 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G. R. Jones

4 - Ystyried apêl gan yr ymgeisydd JCT yn erbyn penderfyniad gan swyddogion i beidio â darparu cludiant am ddim i'r ysgol

Roedd wedi bod mewn cyfarfod cymunedol lle'r oedd y plentyn wedi cael ei drafod.  O ganlyniad, datganodd fuddiant rhagfarnol a phersonol. 

 

3.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER

CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG

FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I

DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN

ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH)

(AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN

PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN

BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN

YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

I YSTYRIED APEL GAN YMGEISYDD JCT YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO A DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd G.R. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach. Arhosodd yn y cyfarfod ond ni bleidleisiodd)

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd.Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod rhoi cludiant am ddim i J.C.T. i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol o gyfeiriad y cartref, sef 3 milltir, ac felly nid oedd yn cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer darparu cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau unigol yr achos, ynghyd â sylwadau'r swyddogion adrannol.

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr apêl, yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ar y sail bod cyfeiriad cartref J.C.T. o fewn pellter cerdded statudol i ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol.