Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd S.L. Davies.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

COFNODION

3.1

8 HYDREF 2024 - 10.00YB pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 10.00yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

3.2

8 HYDREF 2024 - 10.10YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 10.10yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

 

3.3

8 HYDREF 2024 - 10.20YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 10.20yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

3.4

8 HYDREF 2024 - 10.30YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 10.30yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

3.5

8 HYDREF 2024 - 10.40YB pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 10.40yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

 

3.6

8 HYDREF 2024 - 10.50YB pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 10.50yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

3.7

8 HYDREF 2024 - 11.00YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 11.00yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

3.8

8 HYDREF 2024 - 11.10YB pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 11.10yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

 

3.9

8 HYDREF 2024 - 11.20YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi ei gynnal am 11.20yb ar 8 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD G.S.A YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd.Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd o ran gwrthod Cam 1 y Panel Adolygu i ganiatáu trafnidiaeth ysgol am ddim i G.S.A. i'r ysgol agosaf a dynodedig gan yr AALl a oedd wedi'i lleoli o fewn pellter cerdded statudol, ac felly nid oedd yn cydymffurfio â'r meini prawf a amlinellwyd ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos a'r asesiad o'r llwybr cerdded posibl o gyfeiriad cartref G.S.A i'r ysgol ddynodedig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr apêl, yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, ar y sail bod cyfeiriad cartref G.S.A. o fewn pellter cerdded statudol i ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol a bod y llwybr cerdded hwnnw wedi'i asesu'n addas, yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru.