Agenda a chofnodion drafft

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Mercher, 5ed Chwefror, 2025 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION

3.1

9 IONAWR, 2025 - 10.00YB pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr, 2024 (10.00yb) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

3.2

9 IONAWR, 2025 - 10.10YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr, 2025 (10.10yb) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

3.3

9 IONAWR, 2025 - 10.20YB pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ionawr, 2025 (10.20yb) gan eu bod yn gofnod cywir.

 

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

THE REPORT RELATING TO THE FOLLOWING ITEM IS NOT FOR PUBLICATION AS IT CONTAINS  EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 12 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007.

 

IF FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE PANEL RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THIS  ITEM IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

I YSTYRIED APEL GAN YMGEISYDD MH YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO A DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

 

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd.Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd ynghylch penderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod rhoi cludiant ysgol am ddim i M.H. i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol o gyfeiriad y cartref, sef 3 milltir, ac felly nid oedd yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ym mholisi'r Cyngor ar gyfer darparu cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau unigol yr achos, ynghyd â sylwadau'r swyddogion adrannol.

 

PENDERFYNWYD bod yr apêl a gyflwynwyd gan M.H. am gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.