Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd R. Sparks.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

3.

COFNODION

3.1

19FED HYDREF 2022 10:00YB pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19  Hydref 2022 (10:00am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.2

19FED HYDREF 2022 10:10YB pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19  Hydref 2022 (10:10am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.3

19FED HYDREF 2022 10:20YB pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 (10:20am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.4

19FED HYDREF 2022 10:30YB pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19  Hydref 2022 (10:30am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.5

19FED HYDREF 2022 10:40AM pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19  Hydref 2022 (10:40am) gan eu bod yn gofnod cywir.

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD E.H.T. YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried sylwadau ysgrifenedig yr apelydd mewn perthynas â phenderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod darparu cludiant am ddim i E.H.T i ysgol ddynodedig agosaf yr Awdurdod Addysg Lleol a oedd o fewn y pellter cerdded statudol, ac nad oedd felly'n cydymffurfio â'r meini prawf ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos a'r asesiad o'r llwybr cerdded posibl o gyfeiriad cartref E.H.T i'r ysgol ddynodedig.   

 

PENDERFYNWYD, yn unol â Pholisi'r Awdurdod ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, wrthod yr apêl oherwydd bod cyfeiriad cartref E.H.T. o fewn y pellter cerdded statudol i'r ysgol a ddynodwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol a bod y llwybr cerdded yn addas yn ôl yr asesiad a wnaed yn unol â Meini Prawf Llywodraeth Cymru.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau