Agenda a Chofnodion

Panel yr Aelodau o ran Apeliadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. - Dydd Iau, 16eg Rhagfyr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

COFNODION

3.1

18 TACHWEDD, 2021 (10.00 Y.B.) pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 (10:00am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.2

18 TACHWEDD, 2021 (10.20 Y.B.) pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 (10:20am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.3

18 TACHWEDD, 2021 (10.30 Y.B.) pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 (10:30am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.4

18 TACHWEDD, 2021 (10.40 Y.B.) pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 (10:40am) gan eu bod yn gofnod cywir.

3.5

18 TACHWEDD, 2021 (10.50 Y.B.) pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 (10:50am) gan eu bod yn gofnod cywir.

4.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

 

OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

5.

I YSTYRIED APÊL GAN YMGEISYDD P.S YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD SEF PEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol. Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad, ond ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd na'i deulu.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd ynghylch penderfyniad Panel Adolygu Cam 1 i wrthod rhoi cludiant ysgol am ddim i P.S. i ysgol nad oedd yn ysgol agosaf nac ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, ac felly nid oedd yn bodloni'r meini prawf a amlinellir ym mholisi'r Cyngor ar gyfer darparu cymorth.

 

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau unigol yr achos, ynghyd â sylwadau'r swyddogion adrannol.

 

PENDERFYNWYD yn unol â Pholisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, wrthod yr apêl am nad oedd P.S yn mynychu'r ysgol agosaf nac ysgol ddynodedig yr Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer cyfeiriad y cartref, a hynny oherwydd dewis y rhieni.