Agenda a chofnodion drafft

Cyd-Gyfarfod o'r Pwyllgorau Craffu Addysg & Phlant a Gofal Cymdeithasol & Iechyd - Dydd Mercher, 4ydd Gorffennaf, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLbenodi'r Cynghorydd Darren Price yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Jones, G. Thomas a Mrs G. Cornock-Evans (Rhiant-lywodraethwr).

 

3.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd/Yr Aelod

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

 

D. Jones

 

6 - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mae ganddi berthnasau sy'n gweithio yn yr Adran Addysg.

 

B.A.L. Roberts

 

6 - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Mae ei merch yn ymwelydd iechyd.

 

 

Mrs V. Kenny

 

 

6 - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mae ei merch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

 

 

4.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2017/18. pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr D. Jones a B.A.L. Roberts a Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2017/18. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol.  Roedd yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y byddai'n mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.

 

Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2017/18, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2018/19.  Roedd yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad.  Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig. Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr, a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu.  Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Nododd y swyddogion ei fod yn adroddiad cadarnhaol iawn ar y cyfan, ond ni fyddai'r swyddogion yn gallu ysgogi arbedion effeithlonrwydd cyn bo hir, ac roedd edrych ar sut y mae'r galw'n cael ei ariannu yn hanfodol. 

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder gan fod 462 o adolygiadau heb eu cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn yr Is-adran Oedolion H?n, a nodwyd bod y staff o dan bwysau enfawr a bod angen mwy o staff.  Cytunai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod y nifer yn rhy uchel, ond dywedodd mai dyna'r gorau y mae'r adran wedi'i wneud erioed.  Mae'r gwasanaeth wedi gwneud ymdrech aruthrol o ran hyn, a chwblhawyd y rhan fwyaf o'r adolygiadau hynny ond ychydig yn hwyrach na'r terfyn amser.  Esboniodd fod y gwasanaeth yn wynebu her wrth ddangos ei fod yn cynnal adolygiadau mewn modd effeithlon ac effeithiol ac os nad yw'n gallu parhau â'r gwaith hwnnw, byddai rhaid i ni naill ai dderbyn perfformiad nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol, neu ychwanegu adnoddau.

·       Cyfeiriwyd at gyllidebau cyfun a phartneriaethau rhanbarthol, a gofynnwyd i'r swyddogion roi rhagor o wybodaeth am yr heriau.  Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddefnyddio cyllidebau cyfun mewn nifer o feysydd. Bydd y gyllideb gofal cymdeithasol yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.