Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), a'r Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Abertawe). Roedd y Cynghorydd Guy Woodham (Cyngor Sir Penfro) a'r Cynghorydd Rob Smith (Cyngor Dinas a Sir Abertawe) yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 337 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Codwyd y cywiriad canlynol:

 

  • Cofnod 10 - Unrhyw Fater Arall

Dileu’r cyfeiriad at Gyngor Sir Powys, gan nad oeddent wedi cyflwyno rhybudd yn rhoi gwybod y byddent yn dymuno gadael y consortiwm.

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor ERW oedd wedi ei gynnal ar 30 Mawrth 2021 yn gywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.

 

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnod 8 – Prydles y Llwyfan

 

Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â Phrydles y Llwyfan.  Dywedodd Mr Morgans ei fod wedi cyfathrebu'n ddiweddar â'r tri Phrif Weithredwr yn gofyn a fyddai un o'r Cynghorau yn hapus i ymgymryd â'r brydles gan Gyngor Sir Powys.  Yn ogystal, dywedwyd y byddai'r bartneriaeth newydd, gan gynnwys prydles y Llwyfan, yn cael ei thrafod yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Cysgodol sydd ar y gweill, y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor hwn yn dilyn y cyfarfod.

 

Cofnod 6 – Llythyr Castell-nedd Port Talbot – Caffael Gwasanaethau a

Cofnod 7 – Llythyr Ceredigion – Caffael Gwasanaethau

 

Dywedodd y Cadeirydd fod rhaglenni penodol yn cael eu cyflwyno i Ysgolion Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion fel y cytunwyd.

 

Yn ogystal, dywedwyd bod y brydles ar gyfer 'Y Llwyfan' wedi'i hymestyn er mwyn creu lle ychwanegol ar gyfer y bartneriaeth newydd ond roedd Swyddogion wedi lleihau nifer yr ystafelloedd oedd eu hangen o fis Medi a oedd felly wedi lleihau cost y brydles.

 

 

5.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor yr ohebiaeth ganlynol:

 

·      Llythyr gan Gadeirydd y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor yn ystyried sylwadau yn dilyn cyfarfod diwethaf y Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW ar 1 Mawrth 2021.

·      Ymateb gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor mewn i Gadeirydd Gr?p Craffu ERW

 

Mynegwyd pryder yn benodol mewn perthynas â pharagraff 3 yn y llythyr gan Gadeirydd Gr?p Cynghorwyr Craffu ERW a oedd yn awgrymu bod y rhai nad oeddent yn rhan o'r bartneriaeth newydd yn dewis comisiynu.  Pwysleisiwyd nad oedd o ddewis y byddai gwasanaethau'n cael eu comisiynu o fis Medi ymlaen, y ffaith oedd bod diwedd y bartneriaeth yn agosáu ac felly bod trefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith.  Roedd y pryder yn ymwneud â'r argraff ganfyddedig a oedd yn cael ei chyfleu i'r Gr?p Craffu ac eraill ar y mater hwn.  Dywedwyd bod yr ymateb gan y Cadeirydd yn gytbwys gan ddweud na fyddai'r bartneriaeth newydd dan anfantais ariannol. 

At hynny, nodwyd y dylid darparu tegwch i'r partneriaid hynny nad ydynt yn rhan o'r bartneriaeth newydd o ran mynediad i'r trefniadau y byddai eu hangen i sicrhau gwasanaeth teg i Benaethiaid Ysgolion.

 

Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd, cynigiwyd y dylid ysgrifennu llythyr pellach at Gadeirydd Pwyllgor Craffu ERW yn rhoi gwybodaeth am yr amgylchiadau cefndirol sy'n nodi beth fyddai'r trefniadau'r bartneriaeth newydd.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

5.1      Derbyn y llythyr gan Gadeirydd Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor, dyddiedig 23 Mawrth 2021.

 

5.2      Derbyn ymateb Cadeirydd y Cyd-bwyllgor, dyddiedig 20 Ebrill 2021, mewn ymateb i'r llythyr gan Gadeirydd Gr?p - Craffu ar ERW yn 5.1.

 

5.3      Bydd Cadeirydd Cyd-bwyllgor ERW yn ysgrifennu llythyr ychwanegol at Gadeirydd Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW yn darparu eglurder ar yr amgylchiadau cefndir a gwybodaeth am y trefniadau newydd yn y dyfodol.

 

 

6.

DIWEDDARIAD ERW - PRIF SWYDDOGION ERW pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor werthusiad ERW o Gynllun Busnes 2020-21 a'r Cynllun Busnes drafft Ebrill-Awst 2021 i'w hystyried.

 

Mynegodd y Cyfarwyddwr Arweiniol ei ddiolchgarwch i'r holl staff am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion drwy gydol y cyfnod anodd a heriol.

 

Codwyd yr ymholiadau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at dudalennau 3 Gwerthusiad Cynllun Busnes ERW.

Codwyd ei bod yn hanfodol bod Cyngor Sir Powys yn parhau i gael mynediad at y Rhaglenni Arweinyddiaeth Cenedlaethol..  Dywedwyd y byddai'r Academi Genedlaethol yn delio â'r Consortiwm yn unig.  Er y byddai Powys yn gallu cael mynediad at wasanaethau'r Consortiwm newydd, mynegwyd pryder y byddai hyn am gost ychwanegol.  Codwyd y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru.  Dwedwyd na fyddai modd cael mynediad i rai o'r rhaglenni yng Nghymru, a'r opsiwn arall fyddai edrych i Loegr.  I grynhoi, cydnabuwyd y byddai Powys, o fis Medi 2021, yn wynebu anawsterau wrth gael mynediad i'r rhaglenni y mae Penaethiaid ac Athrawon yn dibynnu arnynt.


 

Cyfeiriwyd at dudalen 19 Gwerthusiad Cynllun Busnes ERW.  Dywedwyd bod 'Dolen' yn adnodd hanfodol yr oedd pob un o'r 6 Awdurdod Lleol wedi cyfrannu tuag ato dros nifer o flynyddoedd. Gan fod hwn yn adnodd ar y cyd, gofynnwyd beth fyddai'r trefniadau o fis Medi 2021 ymlaen?

 

Mewn ymateb i'r ymholiadau uchod, dywedodd y Cyfarwyddwr Arweiniol y byddai mynediad i raglenni i bobl nad ydynt yn aelodau o'r Consortiwm yn cael ei ystyried ac y byddai'n ddoeth sicrhau ei fod ar gael fel darpariaeth ranbarthol.  Mewn perthynas â'r gwasanaeth 'Dolen', roedd trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd mewn perthynas â mynediad at adnoddau a grëwyd gan y consortiwm.  Esboniwyd bod Dolen yn llwyfan y talwyd amdano ar wahân ac y gallai fod posibilrwydd o ddatblygu cytundeb tymor byr i gynnal y llwyfan.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai llwyfan Dolen yn hygyrch i bawb.

 

·      Cyfeiriwyd at elfennau Llesiant y cynllun. Mynegwyd pryder yngl?n â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl i ddysgwyr.  Gofynnwyd a oedd y cynnydd hwn ar draws y rhanbarth ac os felly, a ellid ystyried cefnogi ysgolion drwy ddefnyddio dull rhanbarthol?

Eglurodd y Prif Swyddog, mewn ymateb, fod hyn wedi bod yn flaenoriaeth dros y 18 mis diwethaf a bod ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i barhau fel blaenoriaeth. Yn ogystal, roedd rhaglenni ar draws y rhanbarth i gefnogi iechyd meddwl staff a disgyblion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

6.1     Derbyn Gwerthusiad Cynllun Busnes ERW 2020-21;

6.2     Cymeradwyo Cynllun Busnes ERW hyd Ebrill - Awst 2021.

 

 

7.

DATBLYGIAD ERW - GARETH MORGANS pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a ategwyd gan ddiweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Arweiniol ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer darparu rhaglenni Llywodraeth Cymru a gwasanaethau Consortia o 1 Medi 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb byr o drefn ERW a bod Gweithred Amrywio yn cael ei dosbarthu ar hyn o bryd ymhlith y 4 Awdurdod partner presennol i ganiatáu i'r holl awdurdodau sy'n weddill dynnu'n ôl o ERW ar yr un pryd a chyda Chonsortiwm presennol ERW yn dod i ben.  Byddai'n ofynnol i'r partneriaid sy'n weddill wneud trefniadau amgen ar gyfer cyflawni gwelliannau mewn addysgu a dysgu er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i bob dysgwr.

 

Dywedwyd bod trafodaethau'n cael eu cynnal rhwng gweddill yr awdurdodau lleol o ran cyflawni'r swyddogaethau y cytunwyd arnynt yn y dyfodol.

 

Nododd y Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe wedi cytuno i ffurfio partneriaeth newydd a fyddai'n weithredol o 1 Medi 2021 ac roedd Powys yn gwneud eu trefniadau lleol eu hunain a oedd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Cheredigion ar rai agweddau ar wella ysgolion.

 

Tynnodd y Cadeirydd a'r Cyfarwyddwr Arweiniol sylw at y ffaith bod strwythur staffio presennol ERW wedi'i greu i wasanaethu ysgolion mewn 6 Awdurdod Lleol ac er bod rhai swyddi'n wag, roedd eraill yn cael eu llenwi gan secondiadau.  Roedd rhai aelodau o staff wedi llwyddo i sicrhau swyddi newydd ac roedd yn debygol y byddai symud i drefniadau newydd yn arwain at rai diswyddiadau, ond byddai hyn yn cael ei gyfyngu cyn lleied â phosibl.

 

Codwyd yr ymholiadau canlynol:-

 

·      Dywedwyd bod Powys wedi rhoi trefniadau ar waith ar ôl mis Awst 2021, ond nid oedd yn glir y byddai costau ychwanegol ynghlwm wrth fynediad at wasanaethau/rhaglenni o fis Medi ymlaen.  Er y byddai'r gronfa grant yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru, nid oedd y pwysau o'r costau ychwanegol o 1 Medi 2021 wedi'u rhagweld.  Byddai'n fuddiol pe bai costau ychwanegol yn cael eu gwneud yn glir a sut y byddai'r cyfraniadau'n cael eu gwneud.  At hynny, byddai'n fuddiol cael gwybod faint o aelodau staff fyddai ar ôl ar gyfer y trefniadau newydd ym mis Medi 2021.

 

Yn ogystal, y gobaith oedd y byddai ymrwymiad yn y cytundeb y byddai Ceredigion a Chastell-nedd Port Talbot hefyd yn cyfrannu at unrhyw gost ychwanegol wrth ddod â'r trefniant i ben.  Dylid rhannu'r costau hyn gan ddefnyddio'r fformiwla gyfrifedig.

 

Esboniodd y Cadeirydd y byddai'r costau terfynol yn berthnasol i bob partner ac y byddai'r costau'n seiliedig ar y fformiwla flaenorol o gyfraniadau.

 

Dywedwyd bod gan bob parti, gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion, rwymedigaeth ddigwyddiadol hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022 lle byddai costau'n cael eu hadennill.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Arweiniol, o ran y costau ychwanegol, ei fod yn gweithio'n agos gyda Swyddog Adran 151 i fodelu beth fyddai'r costau ar ddiwedd y broses ac mai'r bwriad oedd ysgrifennu at bob partner cyn diwedd mis Awst i rannu'r wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD:-

 

7.1     Derbyn y diweddariad ar lafar yngl?n â darparu Gwasanaethau       Consortia cyfredol ar ôl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD ARIANNOL ERW pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Alldro Diweddariad Ariannol ERW 2020-21 yn ymwneud â'r meysydd canlynol:-

 

·       Cyllideb y Tîm Canolog

·       Cytundebau Lefel Gwasanaeth

·       Cyfraniadau Awdurdodau Lleol

·       Dyraniadau Grant

·       Grant Datblygu Disgyblion

·       Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol)

·       Grantiau – Cwricwlwm, Digidol, Cymraeg, Arweinyddiaeth, Dysgu Proffesiynol, a Thegwch a Llesiant

·       Risgiau

·       Cronfeydd wrth gefn

 

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod y Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2020/21 yn dod i gyfanswm o £139,000 a chyfanswm cyfraniadau'r Awdurdod Lleol ar gyfer yr un cyfnod oedd £480,356 a bod yr holl gyfraniadau wedi'u talu.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y tabl ar dudalen 3 yr adroddiad a oedd yn nodi mai £300k oedd yr Arian Wrth Gefn. Dywedwyd bod gwariant ychwanegol o £30k yn yr cyflogau wedi'i ganfod ers cyhoeddi'r adroddiad hwn, wrth gynhyrchu'r datganiad cyfrifon drafft.  Felly, dylid nodi'r Arian Wrth Gefn fel £270k.

 

Cafwyd cadarnhad i'r Pwyllgor y defnyddiwyd yr hyblygrwydd grant o £500k a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020/21.

 

Gan gyfeirio at dabl Dyrannu Grantiau 2020-21 ar dudalen 4 yr adroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd cyfanswm incwm y Grant o £56.288m, £607,063 RCSIG a £14,384 o gyllid y Grant Datblygu Disgyblion wedi'i wario yn ystod 2020-21 a'i fod wedi'i gario ymlaen i'w ddefnyddio yn 2021-22.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Alldro Ariannol ERW ar gyfer 2020/21.

 

9.

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL 2020-21 pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar y Rhaglen Waith Archwilio Mewnol ar gyfer 2020/21 a roddodd ganfyddiadau adolygiad Archwilio Mewnol Consortiwm ERW 2020-21.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y gwaith wedi'i gwblhau ym mis Ebrill-Mai 2021 a'i orffen yn derfynol ym mis Mehefin 2021.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion a dim ond sicrwydd cyfyngedig cyffredinol y gellid ei roi ar effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rheoli risg, rheolaeth fewnol a rheolaeth ariannol sydd ar waith.  Nododd y Pwyllgor mai hon oedd y bedwaredd flwyddyn o ddarparu barn sicrwydd cyfyngedig ac yn unol â'r ymrwymiad y llynedd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol i gynnal yr adolygiad gwersi a ddysgwyd, awgrymwyd y dylid cynnwys Adroddiadau Archwilio Mewnol y flwyddyn flaenorol yn yr adolygiad hwnnw er mwyn cryfhau'r trefniadau wrth symud ymlaen i'r bartneriaeth newydd.

 

Er bod yr adroddiad hwn yn perthyn i Gonsortia presennol ERW, nododd y Pwyllgor y byddai'n ddoeth i'r bartneriaeth newydd gynnwys yr argymhellion hyn o fis Medi ymlaen.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Archwilio Mewnol Consortiwm ERW 2020-21.

 

 

10.

Y GOFRESTR RISG ERW pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Cyd-bwyllgor y Gofrestr Risg yn manylu ar y prif risgiau busnes strategol i amcanion ERW. Dywedwyd bod y risgiau mewn perthynas â chymwysterau 2021 wedi'u diweddaru.

 

PENDERFYNWYD derbyn y gofrestr Risg a nodi'r newidiadau yn y proffil risg.

 

 

11.

GWEITHRED AMRYWIO DDRAFFT I GYTUNDEB Y CYD-BWYLLGOR DYDDIEDIG 16 GORFFENNAF 2014 pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys y Weithred Amrywio ddrafft a atodir i'r adroddiad.  

 

Roedd telerau'r Weithred Amrywio ddrafft wedi'u datblygu i ganiatáu i bartïon presennol y Consortiwm adael y trefniadau rhanbarthol a therfynu Cytundeb y Cyd-bwyllgor dyddiedig 16 Gorffennaf 2014.

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro newydd o Gyngor Dinas Abertawe ei hun a'i chydweithiwr Dirprwy Swyddog Monitro, hefyd o Gyngor Dinas Abertawe, a oedd wedi bod yn gweithio ar y trefniadau cytundebol mewn perthynas â'r Weithred Amrywio.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor y cytunwyd ar newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd 2020, gan ganiatáu i Gynghorau Castell-nedd a Phort Talbot a Cheredigion gael mynediad at wasanaethau y cytunwyd arnynt.  Yn ogystal, mewn perthynas â threfniadau llywodraethu, roedd y newidiadau y cytunwyd arnynt yn galluogi hwyluso, diddymu a therfynu ERW i fynd i'r afael ag unrhyw rwymedigaethau neu indemniadau dilynol yr holl Awdurdodau presennol a blaenorol ac i hwyluso cyfnod rhybudd llai.  Yn dilyn cytundeb y Pwyllgor, adroddwyd bod pob Awdurdod Etholaethol wedi cyflwyno adroddiad i'w Gabinet lle rhoddwyd Awdurdod Dirprwyedig i'r Prif Swyddogion Cyfreithiol ac mewn rhai Awdurdodau'r Cyfarwyddwr Addysg i'w roi yn y Weithred Amrywio ac unrhyw eiriad angenrheidiol i gyflawni'r penderfyniad

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn am arweiniad gan y Cyd-bwyllgor i'r Cynghorau Cyfansoddol weithredu drwy gwblhau telerau'r Weithred Amrywio a rhoi hysbysiad gan ddefnyddio'r pwerau dirprwyedig a gymeradwywyd yn flaenorol.

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol:-

 

·      Mynegwyd pryder yngl?n â'r amserlen fer sydd ar gael i'r pedwar Cabinet gymeradwyo'r Weithred Amrywio.  Gofynnwyd am eglurder ynghylch rhai o'r elfennau er mwyn gallu cyflawni hyn. 

·      Yn ogystal, awgrymwyd y dylid ei gwneud yn glir o fewn y Weithred y byddai'r holl bartneriaid yn terfynu'r trefniadau ar yr un diwrnod ddiwedd mis Awst.

 

·      Codwyd pwynt pellach y byddai angen datrys rhai materion sy'n weddill cyn llofnodi'r Weithred Amrywio a/neu fod angen eglurder cyn eu cymeradwyo.

 

Roedd y Swyddog Monitro, mewn ymateb i'r pwyntiau a godwyd uchod, yn cyfeirio at y ddirprwyaeth a oedd ar waith a oedd yn galluogi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gymeradwyo yn amodol ar awdurdodiad yr Awdurdod Etholaethol, gan ddileu'r angen i gyfeirio at y Cabinet. 

 

O ran dyddiad dod i ben ddiwedd mis Awst, dywedwyd bod adroddiad eisoes wedi'i dderbyn a oedd yn nodi y byddai'r Datganiad Cyfrifon yn cael ei ddychwelyd i'r consortiwm hwn i'w gymeradwyo.  Fodd bynnag, tynnwyd sylw at y ffaith ei bod yn annhebygol na fyddai hyn yn digwydd cyn diwedd mis Awst 2021, gan ei gwneud yn ofynnol i ERW barhau am dymor byr ar ôl diwedd mis Awst.  Yn ogystal, o ran y consortiwm rhanbarthol newydd, byddai'n ofynnol cwblhau Cytundeb Cyd-bwyllgor newydd a fyddai'n gofyn am gymeradwyaeth yn dilyn ystyriaeth a chymeradwyaeth pob Awdurdod Etholaethol.

 

Esboniwyd na fyddai Awdurdod Etholaethol yn gallu gadael y consortiwm yn unochrog ac y byddai'n rhaid cytuno arno yn unol â'r Weithred Amrywio.  Ar hyn o bryd, drafftiwyd y Weithred Amrywio y bydd pob awdurdod yn gadael ar yr un pryd.  Fodd bynnag, roedd lle, yn amodol ar gytundeb pob parti, i ganiatáu i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau