Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann 

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 74174466# (For call charges contact your service provider). 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), y Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Abertawe), y Cynghorydd Eifion Evans (Cyngor Sir Ceredigion) a Mark Campion (Estyn). Roedd y Cynghorydd Jen Raynor (Cyngor Abertawe) a'r Cynghorydd Guy Woodham (Cyngor Sir Penfro) yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. ap Gwynn

7 - Llythyr Ceredigion

Awdur y llythyr

 

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 425 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor ERW oedd wedi ei gynnal ar 9 Chwefror 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnod Rhif 7

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Abertawe wedi diddymu eu rhybudd i adael y Consortiwm dros dro er mwyn i'r dyddiad gweithredu newydd gael ei ymestyn i 31 Awst 2021.

 

5.

CYLLIDEB ERW 2021-22 (EBRILL - AWST) pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb ddrafft ar gyfer mis Ebrill i fis Awst 2021, yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

·         Amlinelliad o'r gyllideb ddrafft ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

·         Amlinelliad o Gyfraniadau Awdurdodau Lleol ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

·         Amlinelliad o Ddyraniadau Grant sy'n ofynnol gan Awdurdodau Lleol i ERW ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

·         Amlinelliad o'r risgiau ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021.

 

Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor nad oedd unrhyw gynnydd yng Nghyfraniadau Awdurdodau Lleol wedi'i ychwanegu i gyfrif am y ffaith bod Cyngor Sir Ceredigion yn tynnu yn ôl yn unol â'r dull gweithredu ar ôl i CNPT dynnu'n ôl, lle ariannwyd y diffyg gan gyllid na ddefnyddiwyd a oedd wedi ei gario ymlaen.

 

O ran cyllid grant, rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod y byddai cyllid Grant Datblygu Disgyblion a Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol yn cael ei ddadgyfuno i bob Awdurdod Cyfansoddol ac na fyddai'n cael ei dalu i ERW yn uniongyrchol fel y gwnaed mewn blynyddoedd blaenorol. Er mwyn ariannu ERW a chaniatáu i'r Cynllun Busnes gael ei gyflawni tan 31 Awst 2021, byddai angen i bob Awdurdod Lleol drosglwyddo cyfran o'r arian grant a dderbyniwyd i ERW fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd yr un peth yn wir am y Grant Datblygu Disgyblion Plant sy'n Derbyn Gofal, ar yr amod bod y cyllid yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd risgiau yn parhau i gael eu nodi o ran dibyniaeth ar grantiau, ôl troed ERW yn y dyfodol a chronfeydd wrth gefn sy'n lleihau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod yr amcangyfrifwyd risgiau'n ymwneud â chyfleoedd staffio/diswyddiadau posibl ond na fyddai'r rhain yn effeithio ar y gyllideb ddrafft ar gyfer Ebrill i Awst 2021.

 

PENDERFYNWYD

5.1.        Nodi'r rhagdybiaethau a'r amcangyfrifon a wnaed wrth lunio'r gyllideb amlinellol ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

5.2.        Nodi'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r ansicrwydd ynghylch ERW o 1 Medi 2021 ymlaen;

5.3.        Cymeradwyo'r cyllidebau amlinellol ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

5.4.        Cymeradwyo Cyfraniadau'r Awdurdod Lleol ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

5.5.        Cymeradwyo'r defnydd o gronfeydd wrth gefn a chyllid na ddefnyddiwyd a oedd wediei gario ymlaen i gefnogi cyllideb amlinellol y tîm canolog craidd ar gyfer 1 Ebrill i 31 Awst 2021;

5.6.        Cymeradwyo trosglwyddo Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol, gan gynnwys Grant Gwella Addysg, a chyllid Grant Datblygu Disgyblion o bob Awdurdod Lleol i ERW fel yr amlinellir yn yr adroddiad;   

5.7.        Cymeradwyo trosglwyddo cyllid Grant Datblygu Disgyblion Plant sy'n Derbyn Gofal o bob Awdurdod Lleol i ERW fel yr amlinellir yn yr adroddiad; 

5.8.        Awdurdodi Swyddog Adran 151 ERW i wneud diwygiadau i'r gyllideb amlinellol wrth i ragdybiaethau ac amcangyfrifon gael eu cadarnhau.

 

6.

LLYTHYR CASTELL NEDD PORT TALBOT- PWRCASU GWASANAETHAU pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor lythyr gan Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CNPT). Dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod y llythyr yn gofyn am barhau i ddarparu'r gwasanaethau presennol i ysgolion CNPT tan 31 Mawrth 2022 neu tan ddyddiad diddymu'r consortiwm presennol, os yw'n gynharach. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod nad oedd yr Amrywiad i'r Cytundeb Cyfreithiol wedi'i lofnodi eto a bod nodiadau atgoffa wedi'u hanfon at yr Awdurdodau Cyfansoddol. Dim ond ar ôl cwblhau hyn y gallai gwaith ar baratoi cytundeb cyfreithiol ar wahân rhwng CNPT a gweddill yr Awdurdodau Cyfansoddol ddechrau.

 

PENDERFYNWYD

6.1.        Ymestyn y trefniadau presennol i roi mynediad i ysgolion Castell-nedd Port Talbot at wasanaethau y cytunwyd arnynt tan 31 Mawrth 2022 (neu ar ôl diddymu'r consortiwm presennol, os yn gynharach) ar y telerau presennol ac yn amodol ar gytundeb contractiol ffurfiol;

6.2.        Sefydlu llinellau cyfathrebu clir gyda'r consortiwm dros y cyfnod nesaf, yn enwedig o ran ei atebolrwydd ariannol sy'n gysylltiedig â diddymu'r trefniadau presennol.

 

7.

LLYTHYR CEREDIGION- PWRCASU GWASANAETHAU pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd E. ap Gwynn wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac nid oedd yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.]

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor lythyr gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ynghylch darparu gwasanaethau i ysgolion Cyngor Sir Ceredigion. Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod y byddai Cyngor Sir Ceredigion yn gadael Consortiwm ERW ar 31 Mawrth 2021 a'i bod wedi gofyn am ymestyn y ddarpariaeth o raglenni a gwasanaethau penodol tan 31Awst 2021.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd ap Gwynn am ei chyfraniadau at y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

  7.1.        Cytuno i ddarparu rhaglenni a gwasanaethau i ysgolion Cyngor Sir Ceredigion fel y nodir yn yr adroddiad tan 31 Awst 2021;

  7.2.        Datblygu cytundeb contractiol ffurfiol i gytuno ar delerau ac amodau darparu'r gwasanaethau dros dro i Gyngor Sir Ceredigion.

 

8.

LES Y LLWYFAN pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad ynghylch cytundeb prydles ar swyddfa yn y Llwyfan. Rhoddwyd gwybod y byddai angen rhoi hysbysiad cyn 30 Ebrill 2021 i derfynu'r cytundeb prydlesu presennol a gadael y swyddfeydd erbyn 31 Hydref 2021.

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod y byddai angen i'r bartneriaeth gael safle gyda nifer cyfyngedig o swyddfeydd, cyfeiriad post cofrestredig a lle storio i gyflawni ei gweithgareddau o 1 Medi 2021 ymlaen. Cafwyd dyfynbris gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i brydlesu swyddfeydd llai yn Y Llwyfan o 1 Medi 2021, ond dim ond pe bai'r brydles bresennol yn cael ei dwyn ymlaen yn hytrach na'i therfynu erbyn 31 Hydref 2021 y gellid sicrhau bod y swyddfeydd ar gael. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r bartneriaeth newydd barhau â'r brydles bresennol a'i hysgwyddo o 1 Medi 2021. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod fod y brydles bresennol yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Powys ar ran ERW. Gan y byddai Cyngor Sir Powys yn gadael y bartneriaeth erbyn 31 Awst 2021, byddai angen trosglwyddo'r brydles i Awdurdod Lleol arall.

 

PENDERFYNWYD bod Arweinwyr yr Awdurdodau Cyfansoddol yn trafod y trefniadau prydlesu ymhellach cyn dyddiad cau'r hysbysiad ar 30 Ebrill 2021.

 

9.

TREFNIADAU CYFREITHIOL A MONITRO EBRILL - AWST 2021. pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor adroddiad ar ddarparu trefniadau gwasanaeth Cyfreithiol a Monitro rhwng 1 Ebrill a 31 Awst 2021.

 

Derbyniwyd cynnig i benodi Cyngor Abertawe fel yr Awdurdod Arweiniol sy'n gyfrifol am Wasanaethau Swyddogion Cyfreithiol a Monitro am y cyfnod a bennwyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Elin Prysor am ei chefnogaeth fel Swyddog Monitro y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD penodi Cyngor Abertawe fel yr Awdurdod Arweiniol sy'n gyfrifol am Wasanaethau Swyddogion Cyfreithiol a Monitro o 1 Ebrill i 31 Awst 2021. 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Abertawe i wedi diddymu eu rhybudd i adael y Consortiwm dros dro. Byddai'r bartneriaeth bresennol yn parhau o 1 Ebrill i 31 Awst 2021 gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, i hwyluso'r gwaith o weithredu model partneriaeth newydd o 1 Medi 2021. 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau