Agenda a Chofnodion

Pwyllgor ar y Cyd ERW - Dydd Llun, 20fed Chwefror, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Emlyn Dole (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rob Stewart (Dinas a Sir Abertawe), Mr Jeremy Patterson (Cyngor Sir Powys) a Mr Ian Westley (Cyngor Sir Penfro).

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o fuddiant personol.

3.

COFNODION - 2 TACHWEDD 2016 pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Cafwyd cais i'r rhestr presenoldeb gael ei diwygio i restru Ms Jo Hendy fel cynrychiolydd o Gyngor Sir Penfro, nid ERW.

 

CYTUNWYD i lofnodi'n gywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016, yn amodol ar y diwygiad uchod.

4.

COFRESTRE RISG pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd copi o'r Gofrestr Risgiau i'r Cyd-bwyllgor, a oedd yn tynnu sylw at y prif risgiau yn y meysydd Corfforaethol, Ariannol a Gwella Ysgolion, gan alluogi ERW i leihau'r potensial o risgiau lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Arweiniol ERW sylw at y gwaith a oedd wedi cael ei wneud mewn perthynas ag arolygu'r Rhanbarth, a'r ffaith bod Cyfarwyddwyr unigol wedi ysgwyddo cyfrifoldeb am oruchwylio argymhellion penodol. Roedd cynnydd yn erbyn yr argymhellion yn cael ei fonitro'n rheolaidd.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y risg o ddiffyg gallu'r Tîm Canolog a Thîm yr Ymgynghorwyr Her i gyflawni'r Cynllun Busnes i safon uchel wedi cael ei thargedu.

 

Nodwyd y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016, i dynnu eitem 1 oddi ar y gofrestr risgiau – methiant i gydymffurfio ag argymhelliad gan y Tîm Archwilio Mewnol, neu weithredu'n unol â'r argymhelliad hwnnw. Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW y byddai'r eitem honno yn cael ei dileu.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

5.

DIWEDDARIAD GAN Y CYFARWYDDWR ARWEINIOL A'R RHEOLWR GYFARWYDDWR pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar lafar ar weithgareddau i'r Pwyllgor gan Gyfarwyddwr Arweiniol a Rheolwr Gyfarwyddwr ERW.

 

Eglurwyd bod unigolyn annibynnol, a fu'n Gyfarwyddwr Addysg yng Nghyngor Caerffili, wedi cael ei gomisiynu i adolygu strwythur a chapasiti ERW. Diben yr adolygiad oedd sicrhau bod y model cywir ar waith ar gyfer y dyfodol, yn enwedig gyda golwg ar ddatblygu'r cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus newydd. Nodwyd y gallai fod rhai newidiadau o ran cyflogaeth a nifer yr Ymgynghorwyr Her a'r staff cymorth yn yr ardal.

 

Dywedwyd bod rhai cyfarfodydd cynhyrchiol wedi cael eu cynnal ag Estyn ynghylch newidiadau i'r prosesau arolygu, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn well â'r ymweliadau ag ysgolion a oedd eisoes yn cael eu cynnal. Nodwyd hefyd fod Estyn yn barod i drafod mesurau atebolrwydd.

 

Mynegwyd pryder yngl?n â bod Lefel 2+ yn ffocws addysgol cenedlaethol, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ddisgyblion mwy abl a thalentog. Gofynnwyd sut yr oedd ERW yn bwriadu mynd i'r afael â hyn. Cytunwyd bod hyn yn wir, gan fod y trothwy wedi cael ei osod ar radd C, ac y byddai ysgolion yn canolbwyntio ar geisio sicrhau bod disgyblion yn cyflawni'r radd hon. Hefyd, roedd dangosyddion cynnar canlyniadau'r PISA yn dangos mai nifer bach o blant yng Nghymru oedd yn cyflawni'r deilliannau uwch (lefel 7). Cydnabyddid ei bod yn bwysig manteisio i'r eithaf ar botensial pob plentyn, ac y byddai darn o waith yn cael ei wneud i geisio sicrhau bod y broses o osod targedau yn cael ei defnyddio mewn ffordd fwy dynamig, yn hytrach na'i bod yn ymarfer ôl-weithredol. Eglurwyd hefyd fod angen sicrhau bod systemau tracio mewn ysgolion yn gweithio'n dda, fel eu bod yn nodi pa gymorth yr oedd ar ddisgyblion ei angen. Nodwyd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylid yn genedlaethol. Er enghraifft, er mwyn i ysgolion fynd ati i sicrhau bod disgyblion yn cyflawni'r canlyniadau uwch, byddai arnynt angen adnoddau ychwanegol i sicrhau nad oedd hynny ar draul disgyblion eraill.

 

Gofynnwyd sut y gellid cysoni'r setiau sgiliau gwahanol ar gyfer PISA a TGAU. Eglurodd Cyfarwyddwr Arweiniol ERW y dylai'r cwricwlwm newydd fod yn fwy cyson er mwyn datblygu'r ddwy set sgiliau a sicrhau eu bod yn cynnwys sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle. Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW fod y cwricwlwm newydd yn gyfle cyffrous i newid addysg yng Nghymru. Nodwyd bod gwaith da yn cael ei dreialu mewn ysgolion arloesi. Roedd sicrwydd wedi cael ei roi i ysgolion nad oeddent yn ysgolion arloesi na fyddent yn cael eu gadael ar ôl. Mynegwyd pryder nad oedd colegau hyfforddi athrawon yn ymwybodol o ofynion y cwricwlwm newydd. Cytunwyd y byddai diweddariad ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd yn cael ei roi mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Awgrymwyd bod ysgolion yn chwarae siawns er mwyn ceisio sicrhau'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gyfer plentyn, yn hytrach nag ystyried ansawdd y cymwysterau a ddilynid. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW eu bod yn ymwybodol o rai pryderon, a oedd yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD ARIANNOL pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ar sefyllfa ariannol ERW. Roedd hyn yn cynnwys Cyllideb Refeniw Ddiwygiedig y Tîm Canolog ar gyfer 2016-17, Cyllideb Refeniw Ddrafft y Tîm Canolog ar gyfer 2017-18, Cronfeydd Wrth Gefn, Grantiau, a Datganiad o Gyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2016-17.  

 

Tynnodd Swyddog A151 ERW sylw at y ffaith bod y gostyngiad yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer 2016-17 yn ganlyniad i'r ffaith bod cyflogau'n is na'r disgwyl, bod elfen o'r cyflogau yn cael ei chymhwyso yn erbyn cyllid grant, a bod y secondai Adnoddau Dynol yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl trwy grant. Nodwyd bod llai o ddefnydd na'r disgwyl wedi cael ei wneud o gronfa wrth gefn yr awdurdod lleol.

 

O ran y Gyllideb Refeniw Ddrafft ar gyfer 2017-18, roedd y cynnydd yn y gwariant yn ganlyniad yn bennaf i gostau cyflogau ychwanegol, a hynny oherwydd cynnydd mewn costau byw, cynyddrannau, a swydd ychwanegol yn rhan o'r Tîm Canolog. Roedd y cynnydd mewn costau hwyluso yn ganlyniad i Gytundeb Lefel Gwasanaeth Cyfathrebu newydd. Eglurwyd bod cyllid grant yn cael ei weinyddu mewn modd darbodus nes y byddai symiau a manylion y grantiau wedi dod i law. Petai mwy o gyllid grant na'r disgwyl yn cael ei ddyrannu, cadarnhawyd y gellid cynyddu swm y cyllid a weinyddid, a fyddai'n gostwng swm y cyllid a ddisgwylid gan Awdurdodau Lleol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr un llythyr grant ffurfiol wedi dod i law, a bod y cyllid grant disgwyliedig yn seiliedig ar drafodaethau'r swyddogion â Llywodraeth Cymru.

 

Eglurwyd bod cyfraniad y chwe awdurdod lleol partner ar sail pro rata yn ôl niferoedd y disgyblion yn nata Stats Cymru. Nodwyd y byddai'n rhaid cadw'r gronfa wrth gefn weithredol o 100k er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn cyllid a gwariant annisgwyl yn y dyfodol

 

Amlinellwyd yr amserlen ar gyfer llunio a chymeradwyo Datganiad o Gyfrifon a Datganiad Llywodraethu Blynyddol ERW ar gyfer 2016-17, i'w cymeradwyo yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor ym mis Gorffennaf 2017. 

 

Gofynnwyd a oedd y ffigurau ar gyfer grantiau a oedd wedi cael eu nodi ar gyfer 2017-18 yn cynnwys unrhyw grantiau yr oedd yn rhaid iddynt gael eu gwario erbyn mis Mawrth 2017. Eglurodd Swyddog A151 ERW fod mwyafrif y dyraniadau grantiau wedi cael eu gwneud fesul blwyddyn ariannol; fodd bynnag, roedd yn rhaid gwario rhywfaint o'r cyllid erbyn mis Mawrth, ac roedd wedi dod i law yn hwyr yn y flwyddyn ariannol.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL

6.1       derbyn yr adroddiad;

6.2       bod y Gyllideb Gwariant Ddisgwyliedig ar gyfer 2016-17 a'r defnydd o 60k o gronfa wrth gefn yr awdurdod lleol yn cael eu cymeradwyo;

6.3       bod y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017-18, a oedd yn cynnwys cyfraniad o £250k gan y chwe awdurdod lleol, a'r defnydd o £194k o gronfa wrth gefn yr awdurdodau lleol yn cael eu cymeradwyo;

6.4       bod y ffaith y byddai Cyllideb Refeniw'r Tîm Canolog ar gyfer 2018-19 ymlaen yn seiliedig ar gyfraniadau cynyddol gan y chwe awdurdod lleol, a hynny gan y byddai balans cyfyngedig yn weddill  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CATAGOREIDDIO pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd canfyddiadau'r broses gategoreiddio i'r Cyd-bwyllgor, a dywedwyd wrtho fod y darlun yn gwella, ar y cyfan. Nodwyd bod yr ail ddyfarniad yn bwysig, gan ei fod yn asesu gallu ysgolion i wella.

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW fod pryder yn bodoli ynghylch ysgolion a oedd wedi bod yn y Categori Coch neu Oren am dros dair blynedd, yn enwedig ar lefel uwchradd. Yn ôl dadansoddiad o'r ysgolion hyn, ymddangosai fod yna rai ffactorau cyffredin a oedd yn dwysáu'r sefyllfa, gan gynnwys: effaith ad-drefnu'r ysgol a phennaeth newydd neu dros dro, yn enwedig gan fod anhawster wedi bod wrth geisio recriwtio ymgeiswyr cymwysedig ac addas. Nodwyd bod penderfyniadau awdurdodau lleol mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion yn cael effaith uniongyrchol ar yr ysgolion. Nodwyd bod wyth ysgol yng nghonsortiwm ERW yn syrthio i'r categori hwn, a bod dwy ysgol ychwanegol wedi dangos patrwm tebyg dros gyfnod o ddwy flynedd. Mater arall oedd defnyddio Ymgynghorwyr Her a oedd â'r profiad i fodloni gofynion yr ysgol.

 

Nododd yr aelodau ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol ac ERW yn cynnal yr her ar bob lefel o'r broses gategoreiddio, gan gynnwys yn yr ysgolion hynny a oedd yn y Categori Gwyrdd, ac yn enwedig yn yr ysgolion yn y Categori Melyn. Nodwyd bod prinder Ymgynghorwyr Her wedi bod, a'i bod yn bwysig bod y sgiliau a'r profiad cywir yn cael eu paru â'r ysgolion cywir. Cytunodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW ar y pwyntiau a godwyd, a dywedodd fod yn rhaid i'r neges honno gael ei chyfleu'n glir ar draws yr Hybiau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

8.

CYNLLUN BUSNES pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Busnes drafft ERW ar gyfer 2017-2020 i'r Cyd-bwyllgor. Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW fod model newydd y Cynllun Busnes yn symlach na'r fersiynau blaenorol, a'i fod wedi cael ei gryfhau yn unol ag argymhellion Estyn ac amcanion gwella ERW. Nod y model oedd creu strwythur a oedd yn haws ei ddiweddaru, ac a oedd yn galluogi i gamau gweithredu gael eu monitro mewn modd mwy tyn. Nodwyd bod y cynllun busnes blaenorol wedi ceisio bod yn strategol, yn ogystal ag yn weithredol. Roedd y model newydd yn gryfach mewn perthynas ag atebolrwydd, ac roedd yn well adlewyrchiad o'r meysydd lle'r oedd arfer effeithiol i'w gael mewn awdurdodau lleol.

 

Nodwyd bod adolygu systemau, prosesau a darpariaethau cyfredol awdurdodau lleol o ran AAA yn gam gweithredu pwysig. Teimlai'r Pwyllgor hefyd fod cywirdeb asesiadau athrawon yn bwysig. Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW y byddai ganddynt fwy o hyder yn y broses o gymedroli asesiadau athrawon eleni, a hynny oherwydd y cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â'r maes hwnnw.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch sgiliau llywodraethwyr ysgolion, ynghyd â lefel yr her a roddid i ysgolion. Mynegwyd pryder penodol ynghylch cynigion posibl gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y rhiant-lywodraethwyr. Nodwyd bod angen trafodaeth fwy difrifol am lywodraethwyr, ynghyd â mwy o ddisgyblaeth yng ngwaith cyrff llywodraethu. Nodwyd bod angen sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn deall pwysigrwydd meddu ar y sgiliau cywir, ac adolygu cyrff llywodraethu. Nodwyd bod CLlLC a phenaethiaid wedi mynegi'r pryderon hyn yn rhan o'r ymgynghoriad ynghylch 'cyfuno a diwygio'r fframwaith rheoleiddio llywodraethiant ysgolion yng Nghymru'.

 

Gofynnwyd am i Gynlluniau Busnes yn y dyfodol gael eu datblygu ar y cyd â'r model ariannol. Cytunodd Rheolwr Gyfarwyddwr ERW y byddai hynny'n well ar yr amod bod ERW yn cael y grantiau gan Lywodraeth Cymru mewn da bryd.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnodion:

Nodwyd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Cadeirydd, y Cyng. Alun Thomas, a diolchodd Aelodau'r Pwyllgor iddo am ei gyfraniad, a'r rôl bwysig yr oedd wedi ei chwarae yn y gwaith o ddatblygu ERW.