Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Glynog Davies (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rosemarie Harris (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd David Simpson (Cyngor Sir Penfro), Mr Phil Roberts (Cyngor Abertawe), Mr Ian Llywelyn (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), a Mr Gareth Morgans (Cyngor Sir Caerfyrddin).

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y

3.1

8FED CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2019 gan eu bod yn gywir, yn amodol ar y newid canlynol:

 

  1. Ymddiheuriadau am Absenoldeb - Dywedodd y Cadeirydd fod Rheolwr-gyfarwyddwr ERW, Ms Betsan O'Connor wedi ymddiswyddo a diolchodd iddi am ei gwaith.

 

Nid oedd Ms O’Connor wedi ymddiswyddo, roedd wedi cael secondiad o ERW i Lywodraeth Cymru.

 

3.2

3YDD EBRILL 2019 pdf eicon PDF 350 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Cofnodion:

Nid oedd dim materion yn codi o gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2019 a 3 Ebrill 2019.

 

5.

DIWEDDARIAD AR RECRIWTIO ERW pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Rhannodd Mr Geraint Rees fersiwn ddiweddaraf o'r strwythur trefniadaeth newydd â'r Pwyllgor a rhoddodd drosolwg o'r broses recriwtio. Pwysleisiwyd nad oedd rhai o'r swyddi uwch wedi'u llenwi ac roedd yn debygol y byddai angen eu llenwi drwy secondiadau tymor byr tra bod y swyddi gwag parhaol yn cael eu hail hysbysebu. Nododd Mr Rees na fyddai'r panel penodi yn penodi oni bai bod yr holl bartïon yn cytuno.

 

Mynegodd y Pwyllgor rywfaint o siom bod nifer o swyddi, yn enwedig swyddi uwch, yn parhau i fod yn wag a gofynnwyd a oedd y gofyniad iaith yn ffactor. Mewn ymateb, dywedodd Mr Geraint Rees nad oedd rheswm cyffredin dros yr holl swyddi gwag a nododd bod y broses recriwtio Meysydd Dysgu ac Arbenigedd wedi denu 63 o geisiadau, ac roedd 22 o'r rheiny wedi cyrraedd y rhestr fer a 12 wedi'u penodi. Fodd bynnag, nid oedd rhai o'r swyddi uwch wedi denu llawer o geisiadau, a dywedodd Mr Rees ei fod yn ymwybodol nad oedd rhai ymgeiswyr posibl wedi gwneud cais oherwydd y gofyniad iaith. Nododd Aelodau hefyd y gallai peidio â phenodi Rheolwr Gyfarwyddwr fod yn rheswm dealladwy i ymgeiswyr posibl fod yn wyliadwrus o ran gwneud cais. Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor a fyddai modd ystyried rhannu swyddi lle gallai un ymgeisydd sydd â sgiliau iaith Gymraeg ymgymryd â'r rôl am dri diwrnod yr wythnos a rhywun nad yw'n siarad Cymraeg am y ddau ddiwrnod arall. Dywedodd Mr Rees fod recriwtio siaradwyr Cymraeg i swyddi uwch yn broblem wrth recriwtio staff addysgu yn gyffredinol. Cytunodd yr Aelodau y byddid yn ymdrin â'r mater hwn mewn gweithdy yn y dyfodol agos.

 

Wrth ateb cwestiwn am gamau nesaf gweithredu'r strwythur newydd, dywedodd Mr Geraint Rees y byddai'r swyddi gwag yn cael eu hail-hysbysebu yr wythnos ganlynol ac yn cynnig un cyfnod o secondiadau yn y lle cyntaf, ar ôl cael caniatâd y Cyfarwyddwyr Addysg. Wrth gydnabod y cyfnod rhybudd sy'n ofynnol ar gyfer staff addysgu uwch, nodwyd mai'r adeg gynharaf y gellid llenwi'r uwch-benodiadau yn barhaol fyddai mis Ionawr 2020.

 

Gofynnodd Mr Geraint Rees i'r Pwyllgor nodi bod y strwythur gweinyddol presennol yn cyd-fynd â hen fodel a bod y gwaith o ailstrwythuro'r staff presennol eisoes ar waith. Ni fyddai'r strwythur newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol, ac nid oedd unrhyw bryderon i dynnu sylw atynt. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol –

 

5.1: derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y strwythur newydd

 

5.2: y dylid trefnu gweithdy i adolygu'r trefniadau iaith mewn perthynas â recriwtio staff

 

5.3: bod siart trefniadaeth manwl (sy'n cynnwys CV lle bo modd) yn cael ei ddosbarthu i'r Pwyllgor

 

6.

GOHEBIAETH pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW

Nodwyd llythyr gan y Gr?p Cynghorwyr Craffu, dyddiedig 18 Ebrill, a chafodd copi o'r ymateb drafft ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor. Dywedodd Mr Geraint Rees ei fod wedi mynychu cyfarfod diwethaf y Gr?p Cynghorwyr Craffu a rhoddodd gyflwyniad i'r gr?p ar y strwythur cyllid. Roedd o'r farn bod y cyfarfod yn gadarnhaol a bod y gr?p yn awyddus i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgor. Fodd bynnag, roedd yna rai problemau yn ymwneud â threfnu cyfarfodydd a derbyn llythyrau ymateb gan y Cyd-bwyllgor yn amserol. Dywedodd Mr Rees fod y gr?p wedi cymryd camau i ddatrys amseriad cyfarfodydd a ddylai datrys y broblem o ran derbyn gohebiaeth.

 

Llythyr gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC

Dosbarthwyd llythyr gan y Gweinidog Addysg cyn y cyfarfod, a oedd yn cyfeirio at ganlyniad cyfarfod a gynhaliwyd rhwng y Gweinidog ac aelodau'r Pwyllgor ddiwedd mis Mawrth. Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o'r cyfarfod a dywedodd y byddai adroddiad manwl ar y mater yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.

 

Bu'r Aelodau hefyd yn adolygu llythyr cynnig grant ynghylch Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol a oedd yn amlinellu telerau ac amodau'r cyllid. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 drosolwg i'r Pwyllgor o'r llythyr a oedd hefyd wedi'i ddosbarthu i'r Cyfarwyddwyr Addysg rhanbarthol.

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol –

 

6.1: cytuno ar y llythyr ymateb drafft i'r Gr?p Cynghorwyr - Craffu ar ERW

 

6.2: llofnodi llythyr cynnig Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol

 

 

7.

APWYNTIO CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Monitro mai dwy flynedd yw'r cyfnod ar gyfer swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor a bod y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd presennol wedi'u penodi ym mis Gorffennaf 2017.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried penodi Prif Weithredwr Arweiniol o bosibl yn y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf a chytunwyd y dylid gohirio'r broses o benodi'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol –

 

7.1: gohirio penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd tan gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes eraill y dylid eu hystyried fel mater o frys.

 

Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, dywedodd Mr Geraint Rees fod Mr Ian Budd yn gwella ar ôl salwch difrifol. Gofynnodd y Pwyllgor am i'w dymuniadau gorau am wellhad buan gael eu cyfleu i Mr Budd.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau