Lleoliad: Siamber- Neuadd y Sir, Aberaeron - Aberaeron. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen E-bost: Democraticservices@carmarthenshire.gov.uk
Rhif | eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Keith Evans.
|
|||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL PDF 88 KB Cofnodion: 2.1 Penodi'r Athro Ian Roffe yn Gadeirydd y Panel tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel yn 2025;
2.2 Penodi'r Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd y Panel tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel yn 2025.
|
|||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion:
|
|||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 15 MAI 2024 PDF 131 KB Cofnodion: Amlygwyd gwall o fewn cofnod 7:-
‘Gan gyfeirio at y taliad ewyllys da o £10,000 i bob un o'r 3 Awdurdod Lleol yn Nyfed- Powys, cadarnhaodd y Comisiynydd nad oedd unrhyw gafeatau ynghlwm wrth y taliad.’
Dylai'r cofnod fod fel a ganlyn:-
‘Gan gyfeirio at y taliad ewyllys da o £10,000 i bob un o'r 4 Awdurdod Lleol yn Nyfed- Powys, cadarnhaodd y Comisiynydd nad oedd unrhyw gafeatau ynghlwm wrth y taliad.’
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y newid, lofnodi bod cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024 yn gywir.
|
|||||||||||||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Cofnodion: Cofnod Rhif 4
Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â'r adolygiad o fformat presennol y rhaglen ysgol. Eglurodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, er gwaethaf y siom yngl?n â thynnu’r arian yn ôl, y byddai'r rhaglen ysgolion yn cael ei chadw o fewn Heddlu Dyfed-Powys a bod llythyrau yn hysbysu ysgolion wedi cael eu hanfon. Yn ogystal adroddwyd y byddai fformat newydd o'r rhaglen yn cael ei ddatblygu i gymryd lle'r rhaglen Cymru Gyfan bresennol. Byddai hyn wedi'i gynllunio i gydblethu gweithgareddau'r rhaglen ysgolion ag ymyriadau a gwaith eraill sy'n cael eu gwneud gyda phobl ifanc ar draws y llu. Yn dilyn trafodaeth gyda chyd-Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru ynghylch portffolios, rhoddwyd gwybod i'r Panel y byddai Mr Llywelyn yn arwain ar y dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn a chyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.
Cofnod Rhif 7
Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â'r adolygiad ar weithrediad y timau plismona bro yn benodol o ran y dull gwelededd. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, o ganlyniad i leihad yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, y bu'n rhaid gwneud penderfyniadau fel rhan o bennu'r praesept canol tymor i gadw nifer y swyddogion cyn yr ymrwymiad maniffesto blaenorol gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r nifer ar draws Cymru. Felly, byddai gan Heddlu Dyfed-Powys oddeutu 140 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Ar ben hynny, mae cwantwm y cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng o 50% i 25% o'r rhaniad 50/50 blaenorol rhwng Llywodraeth Cymru a chyllid yr heddlu lleol drwy'r praesept. Braf oedd cyhoeddi bod modd cadw nifer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu er gwaethaf y gostyngiad mewn cyllid, ond roedd yn bwysig gwneud gwaith monitro yn barhaus o ran gwelededd plismona.
Mae'r adolygiad o'r plismona bro wedi arwain at ailstrwythuro a fyddai'n creu hwb atal canolog gyda llai o staff, gan ganiatáu i'r staff atal lleol gael eu hailalinio â'r agwedd rheng flaen ar blismona bro. Fodd bynnag, gan fod yn ymwybodol bod y maes hwn wedi bod yn destun adolygiad 3 gwaith dros y 5 mlynedd diwethaf, dywedodd Mr Llywelyn ei fod wedi gwneud sylw y byddai'n ddoeth caniatáu i swyddogaeth graidd y tîm plismona bro, a oedd i ddarparu presenoldeb gweladwy unigolyn a enwir o fewn cymunedau, gael ei chadw.
O ran yr ymgyrch plismona bro a'r fenter strydoedd mwy diogel, gofynnwyd pryd y byddai'r cyhoedd yn gweld rhai newidiadau gwirioneddol? Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai gwell ymgysylltiad â'r cyhoedd yn digwydd drwy'r Strategaeth Ymgysylltu a oedd ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiadau a digwyddiadau drws agored ym Mhencadlys yr Heddlu i roi cyfle i arweinwyr cymunedol lleol gyflawni rôl fel cyfrwng rhwng etholwyr a gwasanaethau plismona. Eglurwyd y dylai Arolygwyr lefel leol meddu ar yr hyder a'r ymreolaeth i ddelio â materion anodd heb fod angen eu huwchgyfeirio i lefel Prif Arolygydd neu Uwcharolygydd.
Cofnod Rhif 9
Wrth gyfeirio at gynnwys y cofnod, cadarnhaodd y Comisiynydd y byddai'r adroddiad a oedd yn cael ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Panel yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2023-2024 y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Diolchodd y Panel i'r Comisiynydd am yr holl waith caled a wnaed i lunio'r adroddiad hawdd ei ddeall.
Mewn ymateb i ymholiad a godwyd mewn perthynas â’r problemau Microsoft yn ddiweddar, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nad oeddent wedi effeithio ar systemau o fewn Heddlu Dyfed–Powys.
Gan gyfeirio at adroddiad a gyhoeddwyd yn Cambrian News yr wythnos diwethaf mewn perthynas â'r Comisiynydd Gwybodaeth a gynhaliodd ymchwiliad i'r Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a gedwir gan Heddlu Dyfed–Powys, a oedd wedi cyhoeddi gorchymyn gorfodaeth mewn ymateb i fodd ymlaciol yr ymateb, gofynnwyd a oedd hyn yn berthnasol i'r llu yn unig a beth oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ei wneud i fonitro'r sefyllfa? Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod wedi gofyn cwestiynau i'r Prif Swyddogion a bod llwybr archwiliedig o gyfarfodydd wedi'u cofnodi lle'r oedd y materion wedi cael eu codi gan ei swyddfa. Darparwyd amrywiaeth o adroddiadau i gyfarfodydd swyddfa'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gael eu monitro. Yn ogystal, mae Prif Arolygydd wedi'i leoli yn yr adran wedi i adolygu'r prosesau a'r strwythurau, yn ogystal â gwneud gwaith dod o hyd i ffeithiau ar sut y mae lluoedd eraill yn rheoli materion o'r fath. Ar ben hynny, cafodd ei drafod mewn cyfarfod Pwyllgor Archwilio ar y cyd ar ran y Comisiynydd Heddlu a Throseddau a'r Prif Gwnstabl.
Mynegwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
|
|||||||||||||||||
ADRODDIAD CYNNYDD AR DDATBLYGU CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU NEWYDD PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Panel adroddiad cynnydd ar ddatblygu Cynllun Heddlu a Throseddu Newydd. Ers etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2023 mae'n ofynnol i'r Comisiwn fabwysiadu Cynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer ei dymor presennol yn y swydd.
Mae'r adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma a'r amserlen arfaethedig ar gyfer mabwysiadu'r cynllun newydd.
Mynegwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Cynnydd ar Ddatblygu Cynllun Heddlu a Throseddu newydd.
|
|||||||||||||||||
ADRODDIAD CYNNYDD AR YR ARCHWILIAD DWFN - STELCIAN AC AFLONYDDU PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Panel adroddiad cynnydd ar yr Adolygiad Craffu Dwys o Stelcio ac Aflonyddu i'w ystyried.
Yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2023, cafodd y Panel adroddiad ar ganfyddiadau adolygiad craffu dwys a oedd yn ceisio canfod a oedd Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd camau effeithiol i reoli'r rhai sy'n stelcio ac yn aflonyddu. Roedd yr adroddiad hwn yn darparu'r cynnydd yn erbyn pob argymhelliad.
Mynegwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Penderfynwyd bod yr Adroddiad Cynnydd ar yr Adroddiad Craffu Dwys Stelcio ac Aflonyddu yn cael ei dderbyn.
|
|||||||||||||||||
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||
PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer 2024-25.
Dywedwyd y bu newid mewn perfformiad yn ystod y Chwarter hwn mewn nifer o gamau gweithredu, roedd 4 cam gweithredu wedi newid o Oren i Wyrdd ac roedd 8 wedi symud o Wyrdd i Oren. Yn ogystal, roedd gwelliant wedi'i gyflawni o ran perfformiad gan fod dau gam gweithredu wedi symud o Oren i Wyrdd.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Panel yr adroddiad cynnydd ar Gynllun Busnes Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Chwarter 1 - 2024/25. Amlinellodd yr adroddiad y cynnydd a wnaed o ran cyflawni gofynion y cynllun busnes mewn aliniad â'r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.
Amlygodd yr adroddiad y camau gweithredu oedd wedi'u nodi'n Goch ar sail y ffaith nad oedd y gwaith wedi dechrau eto, ac y byddai'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn ystod Chwarter 2 a thu hwnt mewn ymdrech i gyflawni'r camau gweithredu hynny.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad
|