Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSONOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. George.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 CHWEFROR 2024 PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2024 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion yn codi o gofnodion y cyfarfod.
Bu i'r Cadeirydd, ar ran y Panel, longyfarch Mr Llywelyn ar gael ei ail-ethol yn ddiweddar fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiad diweddar mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin a gofynnodd am ddiweddariad gan y Comisiynydd ar y digwyddiad hwnnw, ynghyd â'i farn am bresenoldeb yr heddlu mewn ysgolion yn y dyfodol yn yr ardal.
O ran y digwyddiad dan sylw, dywedodd y Comisiynydd na allai wneud sylw gan ei fod yn destun ymchwiliad parhaus gan yr heddlu. Rhoddodd sicrwydd i'r Panel y byddai Heddlu Dyfed-Powys yn parhau â'r rhaglen ysgolion yn y dyfodol. Fodd bynnag, byddai'r fformat presennol yn cael ei adolygu a'i ddiwygio trwy weithio gydag ysgolion a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
|
||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL HEDDLU A THROSEDDU PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Panel Adroddiad Blynyddol 2023-2024 ar gyfer Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gyhoeddwyd yn unol ag amodau'r grant oedd yn berthnasol i'r cyllid a dderbyniwyd gan y Swyddfa Gartref.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Robert Edgecombe am lunio'r adroddiad.
Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at gamgymeriad yn yr adroddiad o dan eitem 6 gan ddweud y dylai'r cyfeiriad a wnaed at gylch 5 mlynedd newydd fod wedi darllen cylch 4 blynedd.
PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol 2023-2024 ar gyfer Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
|
||||||||||
ADRODDIAD YR IS-GRWP PERFFORMIAD PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd y Panel fod ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2022-23 wedi gofyn i Is-gr?p o'r Panel graffu ar sut y cyflawnodd y Comisiynydd ei ddyletswydd statudol i gynnal heddlu effeithlon ac effeithiol. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, ystyriodd y Panel adroddiad, casgliadau ac argymhellion yr Is-gr?p, ac roedd yr argymhellion fel a ganlyn:
1. Bod y Panel yn parhau i graffu ar sut mae'r Comisiynydd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ynghylch materion llesiant staff yn ystod blwyddyn y cyngor 2024-2025 drwy fynd i gyfarfodydd y Bwrdd Atebolrwydd Plismona. 2. Bod y Panel yn gofyn i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad yn un o gyfarfodydd y Panel yn ystod 2024/2025 a fanylai ar y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd i sicrhau bod y materion a nodwyd yn adroddiad HMICFRS yn cael sylw ac ar y cynnydd a wnaed.
PENDERFYNWYD nodi canfyddiadau'r Is-Gr?p.
|
||||||||||
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Bu i'r Cynghorydd S. Hancock a Mrs H.M. Thomas, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 8 Chwefror ac 11 Ebrill 2024.
Cyfeiriwyd at y penderfyniad ar y Northwest Surveillance Situational Awareness System ac at erthygl newyddion ddiweddar ar y defnydd o gamerâu adnabod wynebau yn Croydon. Cadarnhaodd y Comisiynydd nad oedd camerâu o'r fath yn cael eu defnyddio yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
O ran amcan 3 y Cynllun Cydraddoldeb Strategol – "Cryfhau ein perthnasoedd trwy weithgareddau plismona ac ymgysylltu cymunedol rhagweithiol," cadarnhaodd y Comisiynydd ei fod yn ymdrechu i gael heddlu mwy gweladwy a hygyrch drwy'r 1308 o swyddogion oedd gan y llu, ac roedd adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar weithrediad y timau plismona bro i gyflawni'r nod hwnnw. Byddai'r Heddlu hefyd yn lansio ei Gynllun Cydraddoldeb yn ddiweddarach ym mis Mai 2024.
Gan gyfeirio at y taliad ewyllys da o £10,000 i bob un o'r 4 Awdurdod Lleol yn Nyfed-Powys, cadarnhaodd y Comisiynydd nad oedd unrhyw gafeatau ynghlwm wrth y taliad.
Cyfeiriwyd at y dyfarniadau tendr sengl yn yr adroddiad ac a ellid cynnwys y costau, er enghraifft y Tendr Adnabod Platiau Rhif Awtomatig, mewn adroddiad yn y dyfodol. Dywedodd y Comisiynydd y gellid edrych ar gynnwys hynny yn adroddiadau'r dyfodol i'r Panel.
Gan gyfeirio at gael Gwerth am Arian ar gyfer tendrau, dywedodd y Comisiynydd, ar gyfer contractau mawr e.e. prynu cerbydau'r heddlu, fod yr heddlu'n defnyddio fframwaith sefydliad Blue Light Commercial lle gellid cyflawni arbedion maint mawr. Ar gyfer contractau lleol mwy penodol, roedd gan yr heddlu bolisi caffael a oedd yn cynnwys mesurau priodol i sicrhau y ceid gwerth am arian.
Mewn ymateb i oedi cyn dechrau'r contract ar gyfer yr Ymgynghorydd Trais Rhywiol Unigol, dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi cael ei ohirio tan yr hydref o achos materion yn ymwneud â'r broses Trosglwyddo Ymgymeriadau a Diogelu Cyflogaeth (TUPE). Cadarnhaodd y byddai'r contract newydd yn darparu buddion ychwanegol i'r contract presennol, er enghraifft, darparu gwasanaethau ar gyfer plant sydd wedi dioddef yn sgil troseddau.
O ran ymestyn y cytundeb ar gyfer y Bartneriaeth Gan Bwyll, a'r adolygiad i'w gynnal ar gyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru, rhoddodd y Comisiynydd gyngor ar y pwysau ariannol oedd yn wynebu'r bartneriaeth a'r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ei grantiau. O ran adolygu'r terfyn 20mya, roedd prif swyddog arweiniol wedi'i benodi i lywio'r adolygiad o ymateb Heddluoedd Cymru a byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn un o gyfarfodydd y Panel yn y dyfodol.
Mewn perthynas â chwestiwn ar adroddiad diweddar a gyhoeddwyd ar Ddiogelwch Ffyrdd ym Mhowys, dywedodd y Comisiynydd, er nad oedd wedi darllen yr adroddiad eto, nad oedd y sefyllfa yn unigryw i Bowys. Fodd bynnag, byddai'n gosod eitem ynghylch hynny ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r Panel yn y dyfodol.
O ran y penderfyniad i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
||||||||||
PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Bu i'r Cynghorydd S. Hancock a Mrs H.M. Thomas, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch4 blwyddyn ariannol 2023-24. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â 50 o gamau a gyflwynwyd i fesur cydymffurfiaeth â'r pwerau a'r dyletswyddau a nodir yng Ngorchymyn Protocol Plismona 2011.
Cafodd y Comisiynydd a'i dîm eu llongyfarch gan y Panel ar yr hyn a gyflawnwyd o ran lleihau risgiau, gyda mwy o risgiau bellach yn cael eu categoreiddio fel 'Gwyrdd’.
O ran 'Penderfyniadau y Tu Allan i'r Llys', dywedodd y Comisiynydd bod y rheiny'n cael eu trafod mewn cyfarfodydd chwarterol o'r panel craffu i asesu achosion llys, a oedd, yn ei dro, yn adrodd iddo ef a'r Prif Gwnstabl.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
</AI8>
|
||||||||||
CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Bu i'r Cynghorydd S. Hancock a Mrs. H. Thomas, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, aros yn y cyfarfod gan gymryd rhan wrth i'r Pwyllgor ystyried yr eitem a phleidleisio arni.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad a oedd yn crynhoi'r cynnydd a wnaed gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ystod Chwarter 4 2023/24 wrth gyflawni gofynion ei Gynllun Busnes. Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Panel fod y Cynllun Busnes yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2021/2025.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y 51 o gamau gweithredu, 4 ohonynt wedi'u categoreiddio fel statws coch, 26 yn statws oren a 21 yn statws gwyrdd. Nododd yr adroddiad fod penderfyniad wedi'i wneud i ohirio dau gam i'r Cynllun Busnes nesaf.
Cafodd y Panel hefyd i'w ystyried Gynllun Busnes 2024-25 Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â darparu Canolfan i Fenywod, dywedodd y Comisiynydd mai peilot oedd yn cael ei sefydlu, yng Nghaerfyrddin i ddechrau, wedi'i ariannu gan ei swyddfa lle gallai menywod oedd mewn perygl o droseddu gael eu cyfeirio. Y gobaith oedd sefydlu canolfannau eraill ymhen amser hefyd. Dywedodd hefyd y gallai drefnu i'r Panel gael mwy o fanylion yn y dyfodol, ac, o bosibl, fynd ar ymweliad â'r ganolfan.
Cyfeiriwyd at y Ganolfan Atgyfeirio Trais Rhywiol yn Bow Street, Aberystwyth a dywedodd y Comisiynydd er bod cynlluniau hirdymor wedi bod i'w symud i leoliad mwy addas, nad oedd cyllid cyfalaf ar gael gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen gyfalaf, ac roedd swyddog o Heddlu'r De yn arwain ar y trafodaethau hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn o dan werth 2, cadarnhaodd y Comisiynydd y byddai'r adolygiad oedd yn cael ei gynnal o'r modd roedd yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif yn arwain at newidiadau i'r system bresennol. Cyfeiriodd ymhellach at rôl Byrddau Atebolrwydd yr Heddlu a dywedodd y byddent hwy hefyd yn destun adolygiad.
PENDERFYNWYD
|