Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans 01267224178
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y PANEL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL :-
1.1 penodi'r Athro Ian Roffe yn Gadeirydd y Panel tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel yn 2023;
1.2 penodi'r Cynghorydd Keith Evans yn Is-Gadeirydd y Panel tan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Panel yn 2023.
|
||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
Diolchodd y Cynghorydd Keith Evans i gyn-gynghorwyr a oedd wedi gwasanaethu ar y panel am eu hymroddiad.
|
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
[Sylwer: Ceir eithriad yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, sy'n caniatáu i aelod a benodwyd neu a enwebwyd gan ei Awdurdod i gorff perthnasol ddatgan y buddiant hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.]
|
||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 IONAWR 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022 gan eu bod yn gywir.
|
||||||||||||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O ran eitem 5 - Praesept yr Heddlu, dywedodd y Comisiynydd wrth y panel y byddai hyn yn cael ei drafod yn y seminar ar brynhawn dydd Gwener, 28 Hydref, 2022.
|
||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Panel yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2021-2022 y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Roedd y Panel yn croesawu'r adroddiad hawdd ei ddefnyddio ond codwyd y materion canlynol:
v Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Comisiynydd yn fanylach y cynnydd sy'n cael ei wneud i helpu unigolion sy'n teimlo'n ynysig mewn cymunedau gwledig; v Dywedodd y Comisiynydd wrth y gr?p sut mae'r llu'n defnyddio gwybodaeth er mwyn dal troseddwyr sy'n cyflawni troseddau sy'n ymwneud â Llinellau Cyffuriau; v Cytunodd y Comisiynydd i ymchwilio i'r posibilrwydd o weithio ar y cyd â galwadau 111 opsiwn 2, v Awgrymwyd bod yr aelodau'n cydweithio â Swyddogion Plismona Bro yn eu cymunedau, yn ystod yr argyfwng costau byw.
Croesawodd y Comisiynydd sylwadau'r Panel a dywedodd ei fod wedi nodi'r awgrymiadau a wnaed.
Gofynnodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd estyn diolch a gwerthfawrogiad y Panel i'w holl staff a staff yr heddlu am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol.
|
||||||||||||||||
TRAIS YN ERBYN MENYWOD, CAM-DRIN DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL (VAWDASV) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad mewn perthynas â nifer o achosion yr oedd llawer o sylw wedi cael ei roi iddynt yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a oedd wedi digwydd y tu allan i ardal y llu. Mae'r adroddiad yn nodi dull y mae'r Comisiynydd a Heddlu Dyfed-Powys yn ei ddefnyddio wrth ymgymryd â'r mater pwysig hwn.
Mae Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2021-2025 yn cynnwys pwyslais ar fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) fel mater sy'n peryglu iechyd y cyhoedd ynghyd â chefnogi dioddefwyr, mynd i'r afael â'r rhai sy'n cyflawni trais a sicrhau dull atal ac ymyrraeth gynnar gan amlasiantaethau.
Trwy weithio gyda phartneriaid, mae'r Comisiynydd yn gallu gyrru gwelliannau yn eu blaenau ac mae ei oruchwyliaeth ar y gwaith o fewn y llu wedi helpu i sicrhau ffocws parhaus ar sicrhau gwell canlyniadau i ddioddefwyr.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
||||||||||||||||
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN GOMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 6 Ionawr 2022 a 12 Hydref 2022. Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn cynnwys dau benderfyniad nad oeddent wedi cael eu cynnwys mewn adroddiad blaenorol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y prosiect Braenaru i Fenywod, dywedodd y Comisiynydd na fyddai'n dilyn dull gweithredu Cymru gyfan. Bydd gan y prosiect ei fanyleb leol ei hun.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
||||||||||||||||
PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Derbyniodd y Panel adroddiad yn ymdrin â Chwarter 2, 2022/23 (Gorffennaf-Medi), ynghylch perfformiad y Comisiynydd yn erbyn y pwerau a'r dyletswyddau a nodir yn y Protocol Plismona.
Mewn ymateb i ymholiad o ran Adnoddau Dynol ynghylch recriwtio'r gweithlu, dywedodd y Comisiynydd eu bod yn gweithio'n hyblyg a bod ganddynt ddull gweithio ystwyth a bod modd gweithio gartref.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|