Lleoliad: Siambr - Llandrindod Wells, Powys. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224028
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Simon Hancock (Cyngor Sir Penfro). |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion:
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24AIN GORFFENNAF 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024 yn gofnod cywir. |
|||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Cofnodion: Cofnod Rhif 4
Gofynnwyd am ddiweddariad mewn perthynas â'r adolygiad o'r Rhaglen Ysgolion. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod wedi penderfynu, yn dilyn penderfyniad blaenorol Llywodraeth Cymru i dynnu cymorth ariannol yn ôl ar gyfer y rhaglen ar draws Cymru, y byddai'r rhaglen yn parhau yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Ar hyn o bryd, roedd 14 o swyddogion ysgol yn ymweld â phob ysgol gynradd ac uwchradd yn yr ardal ac roedd yn ystyried y posibilrwydd o ymestyn y gwasanaeth i gynnwys cyfleusterau addysg uwch gan gynnwys chweched dosbarth a phrifysgolion. Cadarnhaodd y Comisiynydd hefyd, yn dilyn trafodaeth gyda chyd-Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru ynghylch portffolios, ei fod yn gyfrifol am y Portffolio Plant a Phobl Ifanc ac y byddai'n arwain ac yn ymgysylltu â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. |
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD Cofnodion: 5.1 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Liz Rijnenberg
Yn ôl adroddiadau'r wasg, yn Nyfed-Powys, mae pobl o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio na'u cymheiriaid gwyn. A allai'r Comisiynydd ddweud sut y mae'n sicr bod adolygiadau wedi'u cynnal ar bob achos o'r fath, eu bod yn gadarn ac yn drylwyr, a bod systemau ar waith i rannu arfer da?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Dywedodd y Comisiynydd fod tua 2% o'r boblogaeth ar hyn o bryd yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn Ddu neu'n Asiaidd, sef lleiafrif bach. Fodd bynnag, wrth archwilio ystadegau, er eu bod yn cynrychioli cyfran fach o'r cyhoedd, gallai amrywiadau yn yr ystadegau fod yn ddramatig o'u cymharu â'r boblogaeth gyfan.
Mewn perthynas â’r mater arferion stopio a chwilio yn ardal yr heddlu, dywedodd y Comisiynydd y byddai rhingyll yn craffu ar 20 cofnod stopio a chwilio bob mis ac yn dilyn hynny byddai archwiliad pellach yn cael ei gynnal gan Arolygwyr yr oedd gofyn iddynt archwilio pum cofnod stopio a chwilio ar hap bob mis i asesu a oedd y camau a gymerwyd yn briodol yng nghyswllt oedran, bregusrwydd, a thynnu dillad fel rhan o noeth-chwiliad. Yn ogystal, cynhaliwyd archwiliad 100% pellach o'r holl gofnodion stopio a chwilio lle'r oeddent yn cynnwys naill ai ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig neu ethnigrwydd wedi'i ddiffinio gan swyddogion. Yna, rhoddwyd gwybod am ganfyddiadau'r adolygiadau hynny mewn cyfarfodydd chwarterol ar y Defnydd Moesegol o Bwerau'r Heddlu lle craffwyd arnynt ac roedd cynrychiolydd o swyddfa'r Comisiynydd yn bresennol yn y cyfarfodydd i oruchwylio a nodi unrhyw faterion i'w huwchgyfeirio i'r Comisiynydd.
Dywedodd y Comisiynydd fod unrhyw ofynion dysgu a nodwyd o'r adolygiadau yn cael eu rhannu â gwasanaethau Dysgu a Datblygu'r Heddlu a hyfforddiant Gweithrediadau Arbennig. Cafodd pob adroddiad, gyda sylwadau'r Heddlu, eu cyhoeddi ar wefan y Comisiynydd. Roedd cynlluniau hefyd i gyflwyno côd QR i bobl sy'n destun stopio a chwilio gael mynediad i'w cofnod cyfatebol. Roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i Lysgenhadon Ieuenctid ymgysylltu ag ysgolion i graffu ar ddigwyddiadau stopio a chwilio trwy senarios dienw o sefyllfaoedd go iawn.
5.2 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Liz Rijnenberg
Mae'r angen i swyddogion yr heddlu fod yn weladwy ac yn ymatebol yn parhau i fod yn bwysig wrth gyflawni'r rhan fwyaf o elfennau'r Cynllun Heddlu a Throseddu. Sut y mae'r Comisiynydd yn cael ei sicrhau gan y Prif Gwnstabl fod y sianeli cyfathrebu rhwng y Timau Plismona Bro a rhanddeiliaid, megis aelodau unigol o'r cyhoedd, cynghorwyr a grwpiau cymunedol, yn ddigonol i hwyluso hyn?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Ymatebodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu trwy ddweud fod cymunedau yn gwerthfawrogi amlygrwydd yr heddlu a'i fod yn cael ei ystyried yn faes plismona sy'n hanfodol ar gyfer atal troseddu a meithrin ymddiriedaeth gymunedol.
Dywedodd fod newid bach wedi bod ym model gweithredu'r timau plismona bro wrth iddynt gael eu hailfrandio fel Timau Plismona ac Atal Bro. Fel rhan o'r trefniadau newydd, datblygwyd strategaeth a chynllun cyflawni newydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
ADOLYGIAD O'R CYNLLUN HEDDLU A THROSEDDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd Mrs H. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Yn unol â darpariaethau Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, bu'r Panel yn adolygu Cynllun Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys a luniwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mynegwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn am y cyllid praesept ar gyfer 2024/25, cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n sicrhau bod y geiriad yn y Cynllun yn cael ei newid i egluro bod y praesept o £332.03 yn seiliedig ar eiddo Band D. · Cyfeiriwyd at y ffaith bod aelodau'r Panel yn ymwybodol o ymatebion da, ac ymatebion difater, i'r cynllun a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r Comisiynydd yn sicrhau ymagwedd gyson at blismona bro.
Dywedodd y Comisiynydd fod y llu wedi datblygu Fframwaith Perfformiad newydd, a oedd yn cynnwys y Timau Plismona ac Atal Bro, gan fanylu ar sut roedd y llu yn ymgysylltu â'r gymuned. · O ran cwestiwn ynghylch mynychder cyfarfodydd Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu, derbyniodd y Comisiynydd y bu oedi ers y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2024, ac y byddai'r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 5 Tachwedd, 2024 yn canolbwyntio o'r newydd ar berfformiad.
Cyfeiriwyd at bwysigrwydd gwahodd aelodau'r Panel Heddlu a Throseddu i gyfarfodydd y Bwrdd Atebolrwydd a mynychu'r cyfarfodydd hyn. Cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod croeso i aelodau'r Panel fynychu'r cyfarfodydd craffu hyn i weld sut yr oedd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Dywedodd hefyd, gan fod presenoldeb y cyhoedd yn y cyfarfodydd yn isel, y byddai cyfarfodydd yn cael eu gweddarlledu yn y dyfodol i gyrraedd cynulleidfa ehangach. · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd ystad yr heddlu yn effeithio ar weithrediad y Cynllun, cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nad oedd hynny wedi digwydd ac mai'r gobaith oedd ei bod wedi gwella'r Cynllun. Dywedodd fod gweithrediad yr ystad yn cael ei adolygu ar hyn o bryd wrth i'r llu fynd i'r afael â her y byd digidol a sut yr oedd yn ymateb iddo. Cyfeiriodd at y cyfleuster newydd sydd wedi cael ei ddarparu yn Nafen a'r ddalfa newydd a sut y gallai'r strategaeth ystadau wella'r ffordd y mae'r heddlu yn plismona. Er y cydnabuwyd yr angen i foderneiddio, roedd canlyniad ariannol yn gysylltiedig â hynny a byddai hynny'n heriol wrth i’r pwysau ar y gyllideb gyfalaf effeithio ar y gyllideb refeniw wedi hynny. Fodd bynnag, yn ogystal â'r angen i'r llu fod yn fodern, mae'n rhaid iddo hefyd gydnabod a pheidio ag anghofio awydd y cyhoedd am bresenoldeb yr heddlu yn eu hardaloedd. · Tynnwyd sylw'r Panel at ymweliad diweddar â ward un o Aelodau'r Panel gan swyddogion o bencadlys yr heddlu ag arbenigedd yn yr amgylchedd adeiledig a sut y gallai'r amgylchedd hwnnw helpu i fynd i'r afael â materion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn cymunedau. Awgrymwyd y byddai'n fuddiol pe gallai'r swyddogion hynny gysylltu â swyddogion o bob un o'r 4 Cyngor Sir i rannu'r arbenigedd hwnnw.
Mewn ymateb, croesawodd y Comisiynydd Heddlu a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
TREFNIADAU LLYWODRAETHU DIWYGIEDIG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd Mrs H. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Panel adroddiad a baratowyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar adolygiad yr oedd wedi'i gynnal ynghylch y trefniadau llywodraethu yr oedd yn eu dilyn i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif. Nodwyd y byddai'r trefniadau diwygiedig yn disodli Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a'r Bwrdd Plismona blaenorol.
Mynegwyd y sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o Drefniadau Llywodraethu newydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a derbyniwyd bod y Bwrdd Plismona a Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu wedi rhedeg eu cwrs a bod angen newid. O ystyried y newidiadau niferus a gyflwynwyd ac sy'n cael eu cyflwyno, mynegwyd barn ei bod yn bwysig bod y Panel yn cael gwybod am y rheiny, er enghraifft:-
- Roedd tua 12 mis wedi mynd heibio ers i'r llu dderbyn canlyniad yr Adolygiad gan Gymheiriaid a byddai angen i'r Panel weld unrhyw newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i ganfyddiadau'r adolygiad. - Roedd y Comisiynydd wedi cyfeirio'n gynharach yn y cyfarfod at y praesept ac at y ganolfan reoli newydd a dylid rhoi gwybod i'r Panel am eu cynnydd. - Cydnabuwyd y gallai newidiadau, fel y Timau Plismona ac Atal Bro newydd, effeithio ar forâl staff ac roedd yn bwysig i'r Panel weld sut roedd y newidiadau hynny'n mynd rhagddynt. · Mewn ymateb i gwestiwn am Gylch Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Dethol ac Ymgysylltu Cymunedol, dywedodd Prif Weithredwr swyddfa'r Comisiynydd fod cylch gwaith y Pwyllgor Dethol yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd ond nad oedd dim yn ymwneud ag Ymgysylltu Cymunedol.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ymhellach y byddai cylch gwaith y Pwyllgor Dethol yn bwrpasol ac yn fwy thematig. O ran ymgysylltu cymunedol, cadarnhaodd ei bod yn bwysig bod y trefniadau ar gyfer hynny yn nodi'n glir y gwaith i'w wneud. · Cyfeiriodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu at ofynion buddsoddi'r llu yn y dyfodol gan ddweud y byddai'n cysylltu â Chadeirydd y Panel cyn y seminar cyllid nesaf. O ran cyllid yn gyffredinol, dywedodd y gallai unrhyw newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth newydd y DU fel y Warant Plismona Bro effeithio ar y cyllid hwnnw. · Mewn ymateb i gwestiwn am ba mor amlwg yw'r Panel o dan y trefniadau llywodraethu newydd, dywedodd y Comisiynydd mai mater i'r Panel ei ystyried oedd hynny. Fodd bynnag, croesawodd bresenoldeb aelodau'r Panel yng nghyfarfodydd y Bwrdd Strategol a'r Pwyllgor Dethol. · Mewn ymateb i gwestiwn am weithrediad Bwrdd y Comisiwn, cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai ei waith bellach yn cael ei wneud gan y Bwrdd Perfformiad Strategol. · Cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu y byddai'n cysylltu â'r Aelodau Seneddol newydd ar gyfer ardal yr heddlu. · Cyfeiriwyd at Ymgysylltu Cymunedol ac at a oedd y Comisiynydd wedi canolbwyntio ar y fframwaith costau i sicrhau nad oedd lefel yr adnoddau sydd eu hangen yn cael eu hamcangyfrifo'n rhy isel. Cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod ganddo'r adnoddau angenrheidiol i'w gefnogi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Nododd y Panel fod Adran 28(6) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddo adolygu'r penderfyniadau a wnaed a'r camau a gymerwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau a hefyd cyflwyno adroddiadau ac argymhellion o'r fath i'r Comisiynydd mewn perthynas â'r penderfyniadau a'r camau hynny y mae'r Panel yn eu hystyried yn briodol.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. |
|||||||
PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd Mrs H. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch2 blwyddyn ariannol 2024-25.
Dywedwyd y bu newid mewn perfformiad yn ystod y Chwarter hwn mewn nifer o gamau gweithredu a bod 1 cam gweithredu wedi newid o Oren i Wyrdd a 3 wedi symud o Wyrdd i Oren.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd Mrs H. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Cafodd y Panel yr adroddiad cynnydd ar Gynllun Busnes Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Chwarter 2 - 2024/25. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a oedd wedi’i wneud o ran cyflawni gofynion y cynllun busnes mewn aliniad â'r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.
Nodwyd bod yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o newidiadau i statws RAG yn ystod Chwarter 2.
Cyfeiriodd Prif Weithredwr y Comisiynydd at adroddiad cynnydd Cynllun Busnes OPCC ac adroddiad Perfformiad y Protocol Plismona (a drafodwyd yng nghofnod 8 uchod) a dywedodd wrth y Panel, oherwydd nifer o themâu trawsbynciol rhwng y ddau adroddiad, y cynigiwyd eu bod yn ffurfio un Adroddiad Gweithredol o fis Ebrill 2025 ymlaen.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Mewn ymateb i gwestiwn ar gyfiawnder uniongyrchol, dywedwyd wrth y Panel bod hynny'n ymwneud â chynigion newydd gan y llywodraeth ynghylch cyfiawnder adferol a oedd yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol. Nodwyd, er y gallai fod gofynion cyllido ychwanegol yn gysylltiedig ag unrhyw gynigion newydd, ni ellid eu hasesu'n llawn hyd nes i'r Llywodraeth gyhoeddi ei chynigion. · O ran cwestiwn ynghylch penderfyniad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro i beidio â bod yn rhan o Adolygiad Dynladdiad Domestig y Swyddfa Gartref, cadarnhaodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y penderfyniad yn ymwneud â'r peilot penodol hwnnw yn unig ac y byddai'r Bartneriaeth ei hun yn parhau. · Mewn perthynas â chwestiwn am y Gwasanaeth Cam-drin Rhywiol, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod y Gwasanaeth Cynghori Rhywiol Unigol newydd yn wahanol i'r Gwasanaethau Cam-drin Rhywiol. Mewn perthynas â'r Clinig Atgyfeirio Cam-drin Rhywiol (SARC) newydd arfaethedig yn Ysbyty Bronglais, dywedodd ei fod yn aros i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo ar gyfer y buddsoddiad cyfalaf cysylltiedig ar hyn o bryd ac y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny mewn cyfarfod o'r Panel yn y dyfodol. · Mewn ymateb i gwestiwn am Ymgyrch y Rhuban Gwyn, cadarnhaodd y Comisiynydd fod yr heddlu yn rhan o'r ymgyrch hon, gan gynnwys mynychu nifer o ddigwyddiadau’r ymgyrch.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad
|