Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 19eg Mai, 2023 10.30 yb

Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSONOLDEB A MATERION PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Les George (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Karen Davies (Cyngor Sir Caerfyrddin) a Mrs Helen Thomas (Aelod Cyfetholedig Annibynnol).

 

Mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Panel â’r Comisiynydd yn dilyn marwolaeth ei dad yn ddiweddar.

 

NEWID TREFN Y MATERION

Cytunodd y Panel, ar gais y Cadeirydd, i amrywio trefn y busnes ar yr agenda a symud Eitem 3 ac Eitem 4 i ddiwedd yr agenda i'w trafod.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Cyng. S Hancock

Pob eitem ar yr agenda

Mae aelod o'r teulu yn gweithio fel Swyddog Heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod y Cynghorydd Brian Hall yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Ionawr, ond cafodd ei enw ei hepgor o'r cofnodion. Bydd y cofnodion yn cael eu diwygio i gynnwys y Cynghorydd Brian Hall.

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd 27 Ionawr 2023 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

5.1  CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

 

Mae iechyd a llesiant gwael ymhlith swyddogion a staff profiadol yn gadael gynnar yn gallu cael effaith niweidiol ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddlu. Sut ydych chi'n sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn briodol ac ydych chi'n fodlon â chanlyniadau ei ymdrechion?

 

5.2  CWESTIWN GAN YR ATHRO PROFESSOR IAN ROFFE

 

Gwnaeth adroddiad y Farwnes Casey, ar yr Heddlu Metropolitanaidd, dynnu sylw at lawer o bryderon difrifol gyda'r llu hwnnw.Pa berthnasedd ydych chi'n gweld sydd gan yradroddiad ar gyfer Dyfed Powys a pha gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r gwersi a nodwyd yn cael eu colli?”

 

5.3  CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM DENSTON POWELL

 

Mae mynd i'r afael â throseddau gwledig yn faes lle mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Ond mae pryderon bod momentwm wedi arafu'n ddiweddar.  Ydych chi'n rhannu'r pryderon hyn? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y cynnydd da yn cael ei gynnal yn y dyfodol?

 

5.4  CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM DENSTON POWELL

 

“Ym mis Gorffennaf 2022 cyhoeddodd y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ei hadolygiad o drwyddedu drylliau'r heddlu gan dynnu sylw at amrywiadau sylweddol o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Roedd Dyfed-Powys yn y chwartel canol, gan gymryd 93 diwrnod ar gyfartaledd i ddelio â phob cais.   Mae'r oedi yma yn achos pryder. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr Heddlu yn cynnal trefn Drwyddedu Drylliau effeithlon a addas i'r diben ar gyfer Dyfed-Powys?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE 

 

“Mae iechyd a llesiant gwael ymhlith swyddogion a staff profiadol yn gadael yn gynnar yn gallu cael effaith niweidiol ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddlu. Sut ydych chi'n sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn briodol ac ydych chi'n fodlon â chanlyniadau ei ymdrechion?”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd y byddai adroddiad ag ymateb llawn i'r cwestiwn yn cael ei anfon ar e-bost y tu allan i'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod gan y mwyafrif o'r heddlu llai na phum mlynedd o wasanaeth a bod llai o gydweithwyr uwch i gefnogi'r swyddogion iau.  Mae gan yr Heddlu Fwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg lle trafodir strategaethau llesiant a materion iechyd galwedigaethol.  Roedd adroddiad Arolygu 2021-22 wedi tynnu sylw at waith a wnaed yn Heddlu Dyfed-Powys i gynnig ystod dda o rwydweithiau cymorth i staff.  Roedd y Comisiynydd yn fodlon â'r gefnogaeth i'r holl staff ac yn ddiweddar derbyniodd yr Heddlu wobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl.  Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod gan staff gyfleoedd i gynnal sesiynau preifat gydag Iechyd Galwedigaethol os gofynnir amdanynt.

 

5.2 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

 

“Gwnaeth adroddiad y Farwnes Casey, ar yr Heddlu Metropolitanaidd, dynnu sylw at lawer o bryderon difrifol gyda'r llu hwnnw. Pa berthnasedd ydych chi'n gweld sydd gan yr adroddiad ar gyfer Dyfed-Powys a pha gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r gwersi a nodwyd yn cael eu colli?"

 

Ymateb y Comisiynydd:

Dywedodd y Comisiynydd pan fydd yn siarad â recriwtiaid newydd, yr un neges bwysig mae’n ei chyfleu yw’r safonau uchel sydd gan Heddlu Dyfed-Powys.  Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod argymhelliad Cenedlaethol ynghylch fetio ac ail-fetio staff a bod ei swyddfa wedi bod trwy'r broses hon yn ddiweddar. 

 

5.3 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

 

“Mae mynd i'r afael â throseddau gwledig yn faes lle mae Heddlu Dyfed-Powys  wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond mae pryderon bod momentwm wedi arafu'n ddiweddar.  Ydych chi'n rhannu'r pryderon hyn? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y cynnydd da yn cael ei gynnal yn y dyfodol?”

 

Ymateb y Comisiynydd:

Sicrhaodd y Comisiynydd y Panel y bydd y cynnydd yn parhau mewn ardaloedd gwledig.  Mae'r Heddlu yn fwy rhagweithiol o ran deallusrwydd mewn gweithgareddau troseddol.  Dywedwyd wrth y Panel fod yr Heddlu wedi buddsoddi mewn dronau, gan ychwanegu at y tîm troseddau gwledig.  Bydd hyn yn rhan o'r tîm ehangach yn ôl yr angen.  Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod mynediad i'r dangosfwrdd bellach ar gael i'w dîm i fonitro rhai o’r perfformiadau.  Byddai'r Bwrdd Strategol nawr yn cael ei ailfywiogi.

 

 

5.4 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE

 

“Ym mis Gorffennaf 2022 cyhoeddodd y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ei hadolygiad o drwyddedu drylliau'r heddlu gan dynnu sylw at amrywiadau sylweddol o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Roedd Dyfed-Powys yn y chwartel canol, gan gymryd 93 diwrnod ar gyfartaledd i ddelio â phob cais. Mae'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch3 blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam y nodir bod yr adolygiad o Lywodraethu Corfforaethol yn llai manwl, dywedwyd wrth y Panel ei bod yn bwysig sicrhau bod y ddogfen yn gyfredol.  Mae adolygiad o'r heddlu yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac ail-drefnu.  Pan fyddai'r strwythurau newydd yn eu lle ac wedi sefydlu, byddai adolygiad dwys i'r fframwaith yn cael ei gynnal.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar dudalen 27, dywedwyd wrth y Panel bod yr amserlen ar gyfer ymatebion i'w dychwelyd ar yr ymgynghoriad cymunedol wedi'i ymestyn, a byddai'r canlyniadau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r panel.

 

Dywedwyd wrth y Panel y byddai ystadegau cynaliadwyedd yn cael eu hadrodd i'r panel mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at flaenoriaethau a oedd bellach yn wyrdd a'r cynnydd a wnaed i wella.

 

Cyfeiriodd y Comisiynydd at arbedion effeithlonrwydd ynni sy'n cael eu gwneud mewn adeiladau i leihau costau.

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

7.

CYLLID ALLANOL 2022-2023 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar drefniadau cyllid grant. Mae gan y Comisiynydd nifer o  ffrydiau incwm y gellir eu defnyddio i ariannu prosiectau ac adnoddau ychwanegol i gefnogi Blaenoriaethau'r Heddlu a Throseddu.

 

Mae'r Rheolwr Cyllid Allanol a'r Prif Swyddog Cyllid yn cyfarfod bob pythefnos i drafod balans y gyllideb, gwariant ac ymrwymiadau yn erbyn pob un o'r ffrydiau incwm.

 

Codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Cyfarfodydd y Bwrdd Atebolrwydd, dywedwyd wrth y Panel y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym Mhowys ac y byddai dyddiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cael eu trefnu.

 

Gofynnwyd ynghylch a fyddai modd ffurfio cynllun Cadetiaid yr Heddlu yng Nghwm Gwendraeth, oherwydd lefel yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal honno.  Dywedodd y Comisiynydd y byddai'n cysylltu'n uniongyrchol â'r aelod am y mater.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch ceisiadau aflwyddiannus, dywedwyd wrth y panel bod adborth yn cael ei roi i asiantaethau yn nodi pam eu bod yn aflwyddiannus a pham nad oedd eu cais yn cyd-fynd â chanllawiau'r Cynllun Troseddu.

 

Cafodd y panel wybod bod ceisiadau wedi eu derbyn yn y gorffennol, o lochesi menywod.

 

Diolchodd aelodau'r panel i'r timau Plismona Bro sydd wedi mynychu cyfarfodydd cymunedol gan nodi gobeithio y byddai presenoldeb y timau yn parhau.

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

8.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN GOMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 18 Ionawr 2023 hyd at 11 Mai 2023. Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn cynnwys rhai penderfyniadau a wnaed cyn mis Rhagfyr 2022 nad oedd wedi eu cynnwys mewn adroddiadau blaenorol.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag adleoli'r Orsaf Heddlu yn Aberdaugleddau, dywedodd y Comisiynydd y byddai lefel yr Heddlu yn aros yr un fath yn yr ardal ac y byddai'r cyhoedd yn cael gwybod am yr adleoliad.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.

ADRODDIAD CRAFFU Y PANEL SUT MAE'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU YN PERFFORMIO MEWN PERTHYNAS Â'R GORCHYMYN PROTOCOL PLISMONA pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad gan yr is-gr?p Perfformiad yn craffu ar sut y gwnaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu berfformio yng nghyd-destun gofynion Gorchymyn y Protocol Plismona fel un o'i flaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

PENDERFYNWYD AR Y CANLYNOL:-

 

9.1 Bod y Comisiynydd yn parhau i ddarparu adroddiadau perfformiad i'r Panel bob chwarter.

 

9.2 Mae'r adroddiadau chwarterol yn ymddangos yn unigryw i Ddyfed-Powys ac mae potensial i ledaenu'r arfer da hwn mewn mannau eraill. Bydd hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio hefyd at ddibenion meincnodi. Argymhellir felly bod y Comisiynydd a'r Panel yn ceisio defnyddio eu dylanwad i fabwysiadu'r dull hwn ym meysydd eraill yr heddlu.

 

9.3 Argymhellir bod yr adroddiadau hyn yn ymddangos yn uwch ar agenda cyfarfodydd y Panel i ganiatáu mwy o amser i'w hystyried.

 

9.4 Argymhellir bod y Panel yn adolygu agweddau ar yr Adroddiadau yn fanylach naill ai yng nghyfarfodydd y Panel neu drwy is-grwpiau'r Panel.

 

9.5 Argymhellir bod y Panel yn mabwysiadu dull tebyg o sgorio ac adolygu ei weithrediadau yn erbyn ei gyfrifoldebau.

 

10.

ADRODDIAD CRAFFU Y PANEL SUT MAE COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU YN DAL Y PRIF GWNSTABLE I GYFRIF pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad gan yr is-gr?p Perfformiad yn craffu ar sut y gwnaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu berfformio yng nghyd-destun gofynion Gorchymyn y Protocol Plismona fel un o'i flaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD AR Y CANLYNOL

 

10.1 Bod y Comisiynydd yn parhau â'i ddull o gynnal cyfarfodydd Y Bwrdd Atebolrwydd Plismona mewn colegau lleol.

 

10.2 Bod y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl yn ystyried pwysigrwydd atebolrwydd cyhoeddus a nodi dyddiadau yn eu dyddiaduron ar gyfer y cyfarfodydd hyn

 

10.3 Bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac yn cael eu hyrwyddo'r glir i'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Dylid rhoi cyhoeddusrwydd i ddyddiadau cyfarfod y Bwrdd Atebolrwydd Plismona ar wefan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu mewn da bryd.

 

10.4 Bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod y modd y cyflwynir gwybodaeth yn y Bwrdd Atebolrwydd Plismona yn ystyried natur gyhoeddus y cyfarfod a'i gynulleidfa gan y byddai hyn o fudd wrth helpu'r cyhoedd i ddeall yr atebion yn llawn.

 

10.5 Dylai'r Comisiynydd geisio dangos yn fwy clir sut y mae wedi dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif mewn perthynas â'r holl faterion a bennir yn adran 1(8) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011

 

11.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ADOLYGIAD Y PANEL YNGHYLCH RHEOLI YSTADAU pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Bu'r Panel yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am reoli ystadau.  Oherwydd oedi sylweddol gan y Swyddfa Gartref yn penodi aelodau i'r Panel yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022, nid oedd modd i'r Panel symud ymlaen â'r gwaith hwn yn ystod blwyddyn y cyngor 2022-2023.

 

Penderfynodd y Panel ymgymryd â'r dasg hon yn ystod 2023-24 fel rhan o'i waith craffu ehangach ar braesept yr Heddlu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.