Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir, Cyngor Sir Benfro - Hwlffordd, SA61 1TP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Les George (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Liz Rijenberg (Cyngor Sir Powys) a'r Cynghorydd Keith Evans (Cyngor Sir Ceredigion)

 

Estynnodd y Panel eu cydymdeimlad â'r Cynghorydd Ken Howell ar farwolaeth ei frawd.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

Yr Aelod

Rhif yr Eitem ar yr Agenda

Buddiant

Mrs. H. Thomas

6

Mewn perthynas â’r eitem ynghylch digwyddiad cyflog byw, mae aelod o'r teulu yn

ymwneud â'r maes gwaith hwn

 

Y Cynghorydd S Hancock

Pob eitem ar yr agenda

Mae aelod o'r teulu yn gweithio fel Swyddog Heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys

 

                       

 

 

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2022 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

28 Hydref, 2022 – Eitem 7

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch trais yn erbyn menywod, rhoddodd y Comisiynydd sicrwydd i'r panel mai ei ddyletswydd oedd sicrhau bod prosesau diogelu ar waith.  Mae unigolion yn cael eu hailfetio ac os oes angen, byddai camau'n cael eu cymryd.

 

 

5.

PRAESEPT YR HEDDLU 2023-2024 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

  

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad y Comisiynydd ar braesept arfaethedig yr heddlu am 2023/2024. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i ddeg aelod o'r panel oedd yn bresennol yn y cyfarfod gefnogi'r feto. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto ni fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall, erbyn 10 Chwefror 2023. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig cynnydd yn y praesept o £1.87 y mis ar gyfer eiddo Band D, sy'n cyfateb i gynnydd o 7.75%.

 

Diolchodd y Panel i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am drefnu seminar cyllid a oedd yn cefnogi craffu ar yr adroddiad.

 

Gwnaed ymholiad ynghylch digwyddiadau ymgynghori â'r cyhoedd. Dywedodd y Comisiynydd y byddai'n fwy buddiol cynnal digwyddiadau yn ystod y flwyddyn yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd fod trafodaethau ynghylch ystadau yn parhau, a bod digwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf i drafod â'r cyhoedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch argaeledd Swyddogion Heddlu yn y Gymdogaeth, dywedodd y Comisiynydd y dylai cynghorwyr gael mynediad uniongyrchol i'r tîm.  Mae digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael eu trefnu ym mhob sir, yn ystod y flwyddyn.

 

Gwnaed ymholiad ynghylch y sicrwydd o gyfraniadau ariannol grant yn y dyfodol.  Dywedodd y Comisiynydd eu bod yn ddibynnol ar grantiau gan Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu swyddi'r gweithlu.  Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

 

Rhoddodd yr Athro Ian Roffe gyflwyniad ar waith y Panel a fu’n craffu ar gynnig praesept 2023/2024 a diolchodd i'r Cynghorydd Evans a'r Comisiynydd am eu hadroddiadau manwl, llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys 7.75% am 2023/24.

 

[SYLWER:   Gadawodd y Cynghorydd E. Evans y cyfarfod]

 

6.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN GOMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock and Mrs. H. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

 

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 12 Hydref 2022 a 17 Ionawr 2023. 

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd S. Hancock wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

[SYLWER:   Gadawodd y Cynghorydd W. Powell y cyfarfod yn ystod yr eitem.]

 

 

Ystyriodd y Panel adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch3 blwyddyn ariannol 2022/23 (Hydref-Rhagfyr 2022).

 

Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Comisiynydd y byddai adroddiadau i'r panel yn y dyfodol yn cynnwys amserlen.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau