Agenda a Chofnodion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys - Dydd Gwener, 28ain Ionawr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Les George a’r Cynghorydd Rob Summons

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 448 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2021 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

5.

PRAESEPT YR HEDDLU 2022-2023 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad y Comisiynydd ar braesept arfaethedig yr heddlu am 2022/23. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto ni fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall i'w ystyried, erbyn 15fed Chwefror 2022. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Keith Evans (Arweinydd y Panel o ran Cyllid) gyflwyniad ynghylch sut oedd Is-bwyllgor Cyllid y Panel wedi craffu ar y cynnig ynghylch praesept 2022/23 gan gynnwys y Cynllun Ariannol yn y Tymor Canolig 2022/23 - 2026/27, y Strategaeth Cronfeydd wrth Gefn a'r Strategaeth Gyfalaf.

 

Dywedodd fod setliad grant 2022/23 ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys yn £60.684m. Roedd hyn yn cynnwys grant i dalu'n rhannol am gostau ychwanegol o newidiadau i gyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn ogystal â chyllid wedi'i neilltuo ar gyfer recriwtio swyddogion ychwanegol. Dywedwyd wrth y Panel ymhellach, heb gynnydd yn y grant cyfalaf, fod pwysau parhaus ar y cronfeydd wrth gefn sy'n lleihau i ariannu buddsoddiadau critigol mewn seilwaith ystadau, TG a'r fflyd.  Roedd cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yn £15.611m ar 31 Mawrth 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans fod yr is-bwyllgor praesept o dan ei gadeiryddiaeth yn cymeradwyo'r adroddiad, a oedd yn cynnig cynyddu'r praesept £1.22 bob mis ar eiddo Band D sy'n cyfateb i gynnydd o 5.3% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Diolchodd i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am drefnu seminar cyllid a oedd yn cefnogi craffu ar yr adroddiad.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Evans a'r Comisiynydd am eu hadroddiadau manwl, llawn gwybodaeth.

 

 

PENDERFYNWYD YN UNIFRYDOL i gymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys o 5.3% am 2022/23 ac i gynnwys y cafeatau canlynol:-

 

·         Bod y Panel yn disgwyl i'r Comisiynydd ail-werthuso'r rhaglen gyfalaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod a rhoi ystyriaeth ddifrifol i ganslo neu ohirio rhai elfennau ohono i gydnabod, wrth symud ymlaen, fod yn rhaid ariannu'r rhaglen gyfalaf o refeniw yn dilyn y ffaith bod cyfalaf y Swyddfa Gartref wedi dirwyn i ben

·         Bod y panel yn cydnabod ymhellach nad yw'r Prif Gwnstabl newydd wedi cael cyfle ddylanwadu'n llawn ar y cynigion hyn, a bod y Panel yn dymuno annog y Comisiynydd i weithio gydag ef i geisio cael ateb a fydd yn golygu llai o faich ar dreth dalwyr ond sydd hefyd yn cynnal gwasanaeth o safon yn y dyfodol.

 

6.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 19 Hydref 2021 a 18 Ionawr, 2022.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â Future Farms Cymru, dywedodd y Comisiynydd y byddai'r ddolen i'r wefan yn cael ei rhannu ar ôl i'r wefan fynd yn fyw.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r cwch RIB, dywedodd y Comisiynydd y byddai hwn yn dod yn lle'r un presennol.

 

Mewn ymateb i'r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltiadau hiliol a Phlismona yng Nghymru, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n darparu papur byr i'r aelodau gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau y mae'r swyddog amrywiaeth wedi bod yn eu cydlynu ar gyfer yr heddlu.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.