Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Jim Jones (Cyngor Sir Caerfyrddin) a Helen Thomas (Aelod Cyfetholedig).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020 gan eu bod yn gywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion yn y cyfarfod.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD - DIM WEDI'I DDERBYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Panel nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law.

 

6.

PENODI PRIF GWNSTABL DROS DRO pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad ar benodi Prif Gwnstabl dros dro gan fod y Prif Gwnstabl yn ymddeol ym mis Mawrth 2021. Dywedwyd wrth y Panel, oherwydd bod etholiadau nesaf y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y gorwel, fod y Comisiynydd wedi penderfynu peidio â chychwyn ymarfer recriwtio ar hyn o bryd a phenodi'r Dirprwy Brif Gwnstabl Claire Parmenter yn Brif Gwnstabl Dros Dro cyn mynd ar drywydd y penodiad llawn.

 

Ar ran y Panel, dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Prif Gwnstabl ar ei ymddeoliad a diolchodd iddo am ei waith amhrisiadwy i heddlu Dyfed-Powys, a dymunodd lwyddiant i'r Prif Gwnstabl dros dro yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

 

PENDERFYNWYD

6.1.    Nodi penodiad y Dirprwy Brif Gwnstabl, Claire Parmenter, fel Prif Gwnstabl Dros Dro a'i chroesawu i'r rôl;

6.2.    Diolch i'r Prif Gwnstabl Mark Collins, sy'n gadael ei swydd, am ei waith.

 

7.

ADRODDIAD CRAFFU AR FUDDSODDI MEWN TELEDU CYLCH CYFYNG GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad craffu ar fuddsoddiad y Comisiynydd mewn teledu cylch cyfyng ar gyfer canol trefi. Rhoddwyd gwybod bod y Panel wedi sefydlu gr?p Gorchwyl a Gorffen i archwilio buddsoddiad y Comisiynydd mewn teledu cylch cyfyng mewn sawl tref ar draws ardal yr heddlu er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yn cynrychioli gwerth da am arian a'i fod o fudd i drigolion Dyfed-Powys.

 

Wrth baratoi'r adroddiad, roedd y Panel wedi ystyried gwybodaeth gan y Comisiynydd yngl?n â sut yr oedd y system teledu cylch cyfyng yn gweithio, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, wedi ceisio barn rhanddeiliaid allweddol ac wedi cynnal ei ymchwil ei hun.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel, o ganlyniad i'r buddsoddiad, fod 150 o gamerâu wedi'u gosod mewn gwahanol leoliadau mewn 23 tref ar draws ardal yr heddlu. Roedd y gwaith o osod camerâu ar y gweill yn Aberaeron ac Arberth. Ar ôl i'r holl gamerâu gael eu gosod, disgwylir y bydd y buddsoddiad cyfalaf cyffredinol oddeutu £1.3 miliwn Roedd y system teledu cylch cyfyng yn cael ei defnyddio'n helaeth er mwyn ymchwilio i droseddau yn ogystal â diogelu pobl ar goll.

 

Roedd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi dod i'r casgliad bod y buddsoddiad mewn  teledu cylch cyfyng yng nghanol trefi wedi bod yn werth chweil, ei fod o fudd gweithredol i Heddlu Dyfed-Powys a'i fod wedi helpu'r cyhoedd i deimlo'n fwy diogel. Mae hefyd wedi nodi sawl argymhelliad yn ymwneud ag ariannu a monitro'r system yn barhaus, ehangiad posibl yn y dyfodol ac Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd.

 

Gwnaed sawl sylw yn croesawu manteision y buddsoddiad mewn teledu cylch cyfyng.

 

Mewn ymateb i ymholiad am gyllid yn y dyfodol, rhoddwyd gwybod i'r Panel fod y Cynllun Ariannol Canol Tymor yn cynnwys oddeutu 100k y flwyddyn o 2022/23 ymlaen ar gyfer teledu cylch cyfyng.

 

Codwyd ymholiad ynghylch y posibilrwydd o weithio mewn partneriaeth â Theledu Cylch Cyfyng busnesau lleol / personol, yn ogystal â chydag undebau ffermwyr. Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod gweithio mewn partneriaeth â theledu cylch cyfyng busnesau a phersonol wedi cael ei dreialu'n llwyddiannus a rhagwelwyd y gallai hyn gael ei ehangu yn y dyfodol, gan roi sylw dyledus i ddata perthnasol a deddfwriaeth preifatrwydd. Byddai'r pwnc yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd strategol gydag undebau ffermwyr i drafod sut y gallai dull partneriaeth helpu i fynd i'r afael â throseddau gwledig.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

8.

YMATEB COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU I ADRODDAD Y PANEL YNGHYLCH YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL pdf eicon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad ar ymateb y Comisiynydd i adroddiad y Panel ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd adroddiad y Panel, a gyflwynwyd yn y cyfarfod ym mis Tachwedd 2020, wedi cydnabod bod gwaith da yn cael ei wneud ac wedi gwneud sawl argymhelliad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel am ymateb y Comisiynydd i'r argymhellion yngl?n â buddsoddiadau mewn teledu cylch cyfyng, gwybodaeth am wasanaethau cymorth a'r broses apelio ar gyfer dioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac effeithiolrwydd y Sbardun Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD nodi ymateb y Comisiynydd i'r adroddiad.

 

9.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR YMATEB I'R PANDEMIG CORONAFEIRWS pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad diweddaru ynghylch yr ymateb i'r pandemig Coronavirus o ran sicrhau adnoddau, dwyn i gyfrif, gwella cyflenwi, diogelwch cymunedol a lleihau nifer y troseddau, a'r cysylltiad â thrigolion lleol.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

10.

PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad ynghylch perfformiad y Comisiynydd yn erbyn y pwerau a'r dyletswyddau a nodir yn y Protocol Plismona.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod nifer y categorïau gwyrdd ac oren wedi newid ychydig bach o'r chwarter blaenorol gyda chategorïau gwyrdd yn gostwng dau a chategorïau oren yn cynyddu dau. Roedd hyn oherwydd cyfyngiadau Covid a newidiadau amgylchiadol bychain a byddent yn parhau i gael eu monitro.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

11.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod rhwng 20 Hydref 2020 ac 8 Chwefror 2021. Dywedodd y Comisiynydd fod y penderfyniad i benodi'r Dirprwy Brif Gwnstabl yn Brif Gwnstabl Dros Dro yn benderfyniad i ddarparu sefydlogrwydd a chysondeb i'r heddlu ac y byddai'r Comisiynydd etholedig (yn dilyn etholiad Mai 2021) yn mynd ar drywydd y penodiad llawn.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Panel, yn dilyn trafodaethau â Phaneli Heddlu a Throsedd eraill, nad oedd angen gwrandawiad i gadarnhau o ran penodi Prif Gwnstabl dros dro.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar daflenni Praesept yr Heddlu 2021/22, rhoddwyd gwybod i'r Panel y byddai copïau caled o'r taflenni'n cael eu postio i breswylwyr ym mhob un o'r pedair sir.

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel ar y cynnydd o ran anfon llythyrau ar ran y Panel at bob Aelodau Seneddol yn ardal Dyfed-Powys, a'r Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a'r Gweinidog Plismona. Roedd y llythyrau yn tynnu sylw at y sefyllfa yng ngwersyll ffoaduriaid Penally ac yn gofyn am ad-daliad llawn o'r holl gostau yr aethpwyd iddynt yn ardal Dyfed-Powys.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau