Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Rob Summons (Cyngor Sir Penfro).
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Cynghorydd Emlyn Schiavone (Cyngor Sir Caerfyrddin) i'w gyfarfod cyntaf fel Aelod o'r Panel Heddlu a Throseddu.
Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Prif Gwnstabl ar ôl iddo ennill Medal Heddlu'r Frenhines am Wasanaeth Nodedig.
NEWID TREFN Y MATERION Cytunodd y Panel, ar gais y Cadeirydd, i newid trefn y materion ar yr agenda er mwyn symud Eitem 10 (Cwyn yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu gan R.V.) yn ei hôl i'w thrafod ar ôl Eitem 13 (Cymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu [Tân] a Throseddu).
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2019 gan eu bod yn gywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mewn perthynas ag Eitem 3 ar yr Agenda (Cynhadledd Plismona ac Iechyd Meddwl) awgrymwyd, er cywirdeb, y dylid newid brawddeg olaf y paragraff cyntaf er mwyn cyfeirio at y Cynghorydd Powell yn hytrach na'r Cynghorydd Williams.
PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2019 yn gywir yn amodol ar y newid a nodwyd uchod.
|
|
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6 Tachwedd 2019 – Eitem 5 y Cofnodion Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â phenderfyniadau 5.2, 5.3 a 5.4, awgrymwyd bod y Panel yn gohirio'r drafodaeth ynghylch sut i gamu ymlaen tan y cyfarfod nesaf, pan fydd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn cael ei darparu.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad y Comisiynydd ar braesept arfaethedig yr heddlu am 2020/21. Dywedwyd wrth y Panel y gallai wneud y penderfyniad naill ai i gymeradwyo, gwrthod, neu roi feto i'r praesept arfaethedig yn y cyfarfod, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddo roi gwybod i'r Comisiynydd am ei benderfyniad. Gallai'r penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod gael ei wneud gan fwyafrif syml ond roedd yn rhaid i bleidlais feto gael ei gwneud gan fwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth y Panel cyfan. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i ddeg aelod o'r panel oedd yn bresennol yn y cyfarfod gefnogi'r feto. Dywedwyd pe bai'r Panel yn dewis rhoi feto, na fyddai'r Comisiynydd yn gallu cyflwyno'r praesept arfaethedig a byddai'n rhaid iddo gyhoeddi ymateb i adroddiad y Panel, gan nodi praesept arfaethedig arall, erbyn 21 Chwefror 2020. Ni fyddai'r Panel yn gallu rhoi feto i'r praesept arfaethedig diwygiedig, dim ond penderfynu ei gymeradwyo neu ei wrthod.
Rhoddodd y Cynghorydd Keith Evans (Arweinydd y Panel o ran Cyllid) gyflwyniad ynghylch sut oedd y Panel wedi craffu ar y cynnig ynghylch y praesept gan gynnwys y Cynllun Ariannol yn y Tymor Canolig 2020/21 - 2025/25, y Strategaeth Cronfeydd wrth Gefn a'r Strategaeth Gyfalaf.
Dywedodd mai setliad grant 2020/21 ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys oedd £56.617m a bod rhai grantiau yn cael eu neilltuo. Tynnodd yr adroddiad sylw at rai pwysau gweithredol ond ar y cyfan rhoddodd sicrwydd bod y Prif Gwnstabl yn ymdopi â'r rhain yn ddigonol. Dywedodd y Cynghorydd Evans hefyd fod y gostyngiad yn y grant cyfalaf a'r ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn ar gyfer buddsoddiadau mewn ystadau a seilwaith hanfodol y fflyd a TG yn rhoi pwysau cynyddol ar y gyllideb refeniw, a rhagwelwyd y byddai'r cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yn gostwng i £6.642m erbyn 2024/25.
Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn cymeradwyo'r adroddiad, a oedd yn cynnig cynyddu'r praesept £1 bob mis ar eiddo Band D sy'n cyfateb i gynnydd o 4.83% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Diolchodd i'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl am drefnu seminar cyllid a oedd yn cefnogi craffu ar yr adroddiad.
Dywedodd y Comisiynydd y byddai'r cynnydd arfaethedig yn y praesept yn cefnogi newidiadau yn y gweithlu a oedd yn cyfateb i 42 o swyddogion heddlu cyfwerth ag amser llawn ychwanegol a 24 aelod ychwanegol o staff cymorth cyfwerth ag amser llawn a fyddai'n cael effaith o £2.571m o ran y gyllideb. Byddai'r newidiadau hyn yn y gyllideb yn cefnogi buddsoddiadau o ran cysylltu â'r cyhoedd a mentrau diogelu rhag twyll.
Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Evans a'r Comisiynydd am eu hadroddiadau manwl, llawn gwybodaeth.
Mewn ymateb i ymholiadau ynghylch rheoli'r gweithlu, dywedodd y Comisiynydd fod staff cymorth yn cael eu defnyddio'n strategol i ryddhau amser y swyddogion heddlu a chynyddu eu presenoldeb mewn cymunedau lleol. Dywedodd fod yr amserlen ar gyfer recriwtio swyddogion heddlu yn cynnwys cynlluniau i recriwtio ym mis Mawrth a mis Medi, yn ogystal â derbyn trosglwyddeion ym mis Mehefin, gan gynyddu nifer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar atal troseddau. Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y cefndir lleol a chenedlaethol ac yn rhoi amlinelliad o fentrau atal troseddau ei swyddfa megis digwyddiadau ymgysylltu, seilwaith teledu cylch cyfyng, ymyriadau ieuenctid ac ymgysylltu â rhanddeiliad.
Mewn ymateb i ymholiadau, dywedodd y Comisiynydd fod cyllid ar gyfer Timau Plismona Bro wedi'i ymrwymo ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd, mae ei swyddfa'n gwerthuso effaith 'Knife Angel' ac yn ystyried cynlluniau at y dyfodol i roi'r un prosiect ar waith mewn ardaloedd eraill yn Nyfed-Powys mewn perthynas â themâu megis natur wledig a chamddefnyddio sylweddau.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD PDF 264 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 19 Hydref a 27 Ionawr 2020. Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad yn cynnwys rhai penderfyniadau a wnaed cyn mis Hydref 2019 nad oeddent wedi cael eu cynnwys mewn adroddiadau blaenorol.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
ADBORTH GAN FWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU AR 18 TACHWEDD 2019 PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd Michael James y byddai adroddiad ysgrifenedig yn cael ei ddosbarthu i'r Panel ar ôl y cyfarfod.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad ar brotocol cwynion diwygiedig y Panel. Dywedwyd wrth y Panel y byddai'r protocol diwygiedig yn galluogi'r Cadeirydd, mewn cydweithrediad â'r Swyddog Monitro, i werthuso cwynion yn unol â meini prawf penodedig er mwyn penderfynu a yw'r cwynion yn addas i'w hystyried gan y Panel. Nod y protocol diwygiedig oedd nodi'r achosion hynny sy'n camddefnyddio prosesau yn gynnar er mwyn galluogi'r Panel i ganolbwyntio ar gwynion y gellid sicrhau canlyniad ystyrlon mewn perthynas â hwy.
Mewn ymateb i ymholiad, dywedwyd wrth y Panel y byddai holl Aelodau'r Panel yn cael gwybod am gwynion hyd yn oed os oeddent yn cael eu gwrthod yn gynnar. Yn unol â deddfwriaeth, byddai cofnod di-enw o'r holl g?ynion a ddaw i law yn cael ei roi ar wefan y Panel.
PENDERFYNWYD gwneud y canlynol 9.1. Derbyn yr adroddiad; 9.2. Mabwysiadu'r Protocol Cwynion diwygiedig ar unwaith.
|
|
CYNHADLEDD FLYNYDDOL Y PANELI HEDDLU A THROSEDDU PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad a chyflwyniadau o'r Gynhadledd Genedlaethol ar gyfer Paneli Heddlu a Throseddu. Cynrychiolwyd y Panel yn y gynhadledd gan yr Athro Ian Roffe, y Cynghorydd William Powell a'r Cynghorydd John Prosser. Dywedasant mai eu hargraff hwy oedd bod gwaith y Panel a'i gydweithrediad â'r Comisiynydd yn gadarnhaol wrth gymharu â phaneli eraill yn genedlaethol.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch arestio menywod, mynegodd y Comisiynydd ei siom na chyfeiriwyd at brosiect braenaru menywod Cymru gyfan yn y cyflwyniad.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
CYMDEITHAS GENEDLAETHOL Y PANELI HEDDLU (TÂN) A THROSEDDU PDF 281 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Panel ystyriaeth i adroddiad ar Gymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu (Tân) a Throseddu a atodwyd, ynghyd â'r cyfansoddiad a'r cylch gorchwyl diwygiedig. Dywedwyd wrth y Panel fod aelodaeth o'r Gymdeithas Genedlaethol yn y gorffennol wedi gofyn am ffi tanysgrifio a bod cyfyngiadau ar y defnydd o grant y Swyddfa Gartref yn golygu na allai'r grant gael ei ddefnyddio i dalu am y tanysgrifiad. Yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd 2019, penderfynodd y Gymdeithas Genedlaethol gynnig aelodaeth am ddim i'r holl baneli.
Gwnaed nifer o sylwadau yn awgrymu y byddai aelodaeth o'r Gymdeithas Genedlaethol yn rhoi cyfle i'r Panel ddylanwadu ar drafodaethau, codi proffil Cymru a chynrychioli Dyfed-Powys ar lefel genedlaethol.
PENDERFYNWYD 11.1. Nodi'r adroddiad; 11.2. Bod y Panel yn ymuno â Chymdeithas Genedlaethol y Paneli Heddlu (Tân) a Throseddu.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
CWYN YN ERBYN Y PANEL HEDDLU A THROSEDDU GAN R.V. Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod rhif 13 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth bersonol sensitif am aelod o'r cyhoedd yn y parth cyhoeddus.
Cafodd y Panel adroddiad ar g?yn a gofnodwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
PENDERFYNWYD 13.1.Nodi'r g?yn; 13.2.Anfon adroddiad at yr achwynydd, ac at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan fanylu ar ganlyniad y g?yn.
|