Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir, Cyngor Sir Benfro - Hwlffordd, SA61 1TP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jessica Laimann  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Lloyd Edwards (Cyngor Sir Ceredigion) Cynghorydd Rob Summons (Cyngor Sir Penfro).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiwn â rhybudd wedi  dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiwn â rhybudd wedi'i dderbyn gan y cyhoedd.

 

5.

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd y Comisiynydd fod yr adroddiad hefyd wedi cael ei drafod gyda chynrychiolwyr yr Heddlu yng nghyfarfodydd Bwrdd yr Heddlu a'i fod yn ddiolchgar am eu cydweithrediad. Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd y cafwyd gostyngiad yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd. Ychwanegodd fod buddsoddiad pellach mewn Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn cael ei ystyried a'r gobaith oedd y byddai buddsoddiad technolegol yn helpu i wella'r broses o adrodd a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

O ran yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Farwnes Newlove yn ei hadroddiad diwethaf yn rhinwedd ei rôl fel Comisiynydd Dioddefwyr, nid oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu o'r farn y byddai angen unrhyw newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn eu datblygu. Atgoffwyd y Panel bod tîm troseddau gwledig penodol bellach ar waith gyda swyddogion yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy fentrau megis addysgu perchnogion c?n am eu cyfrifoldebau.

Croesawodd yr Aelodau yr arian grant yr oedd y Comisiynydd wedi'i roi i fentrau cymunedol fel Dr Mz a Hafren.

 

PENDERFYNWYD 

5.1  bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

5.2 bod canlyniadau'r arolwg boddhad dioddefwyr ar gyfer dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflwynwyd yn ddiweddar gan yr heddlu yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Panel.

 

6.

TROSEDDAU GWLEDIG A BYWYD GWYLLT pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar Droseddau Gwledig.

Wrth gyflwyno ei adroddiad, cyfeiriodd y Comisiynydd at y Gynhadledd Troseddau Gwledig a oedd i'w chynnal ar 6 Mawrth 2020 a drefnwyd ganddo. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed gan y Comisiynydd a Heddlu Dyfed-Powys o ran eu hymrwymiad i weithio gyda chymunedau gwledig er mwyn deall eu hanghenion a'u gofynion yn llawn.

Dywedodd y Comisiynydd er nad oedd troseddau bywyd gwyllt yn flaenllaw ar hyn o bryd yng ngwaith y tîm troseddau gwledig oherwydd ei ymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau amaethyddol, byddai'n cael sylw mwy manwl maes o law. Ychwanegodd mai'r gobaith oedd y byddai staff newydd sydd â dealltwriaeth o fywyd mewn ardaloedd gwledig ymhlith y rhai fyddai'n cael eu recriwtio i'r Heddlu. Cytunodd y Comisiynydd i gyfleu i'r Tîm Troseddau Gwledig bwysigrwydd ymgysylltu â chynghorau cymuned.

Cyfeiriwyd at y rôl bwysig y gallai ffermwyr eu hunain chwarae wrth helpu i atal troseddau gwledig megis gosod camerâu diogelwch.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu, mewn ymateb i ymholiad, fod modd i’r Heddlu ddefnyddio dronau pan fyddai hynny’n fanteisiol. 

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

7.

ADOLYGIAD CRAFFU DWYS - DIODDEFWYR YN TYNNU'N ÔL pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar yr Adolygiad Craffu Dwys o Ddioddefwyr yn Tynnu'n Ôl yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Er ei bod yn amlwg bod dioddefwyr yn flaenoriaeth i'r Prif Gwnstabl ac i Heddlu Dyfed-Powys yn gyffredinol, roedd yr adolygiad yn argymell nifer o feysydd lle y gellid gwneud gwelliannau i sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei ddarparu i ddioddefwyr ac i sicrhau bod yr Heddlu yn canolbwyntio'n wirioneddol ar y dioddefwr.

Dywedodd y Comisiynydd fod angen mynd i'r afael â dyblygu rhwng adrannau a gwasanaethau o ran pwy oedd yn darparu cymorth ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddioddefwyr. Cytunodd i fynd ar drywydd awgrym a allai fod yn ddefnyddiol sef trefnu seminar ar gyfer meddygon teulu yn ardal yr Heddlu i roi gwybod iddynt am y materion a drafodir yn yr Adolygiad.

Dywedodd y Comisiynydd fod ganddo sicrwydd bod y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Heddlu i fynd i'r afael â thrais domestig yn diogelu mwy o bobl a rhoddodd ganmoliaeth i’r Prif Gwnstabl am sicrhau bod hon yn flaenoriaeth allweddol.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

[Gohiriwyd y Panel am ginio ar yr adeg hon]

 

8.

PENDERFYNIADAU'R COMISIYNYDD pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 29 Ionawr 2020 a 14 Chwefror 2020.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

9.

ADBORTH GAN FWRDD ATEBOLRWYDD YR HEDDLU AR 17 CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad llafar gan y Cynghorydd Emlyn Schiavone ar gyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 17 Chwefror 2020. Dywedodd y Cynghorydd Schiavone fod y materion a drafodwyd wedi cynnwys mynediad at orsafoedd yr heddlu, mwy o swyddogion yr heddlu ar batrôl, mwy o ddefnydd o faniau symudol, materion yn ymwneud â chyllid, ymatebion i alwadau 101 a monitro amser yr heddlu allan o'r Swyddfa.

 

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Schiavone am ei adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

10.

CYFARFOD GYDA'R DIRPRWY BRIF WEINIDOG pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Athro Ian Roffe gofnodion y cyfarfod rhwng Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, a Chadeiryddion/Is-gadeiryddion Paneli Heddlu a Throseddu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 22 Ionawr, 2020. Diben y cyfarfod oedd codi pryderon gyda'r Gweinidog ynghylch y modd yr oedd aelodau'r panel yn cael eu penodi a sut yr ariannir y paneli ac, yn benodol, y ffaith bod statws unigryw paneli Cymru wedi'u gosod dan anfantais o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. Dywedodd yr Athro Roffe y bu'r cyfarfod yn un cadarnhaol a'i fod, ar gais y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, i gynorthwyo cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gynhyrchu nodyn byr yn crynhoi'r materion a'r hyn y gellid ei wneud i fynd i'r afael â nhw. Roedd disgwyl datblygiadau pellach.

 

Diolchodd y Panel i'r Athro Roffe am ei adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau