Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 29ain Medi, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. Evans ac R. Sparks a hefyd gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio.  

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

SEFYDLU GR?P GORCHWYL A GORFFEN CYN GWNEUD PENDERFYNIADAU (DATBLYGU POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS) pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar gynnig i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen cyn-craffu gyda'r nod o ddatblygu Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Ystyriwyd bod y polisi yn hanfodol gan fod y Cyngor, ynghyd â holl awdurdodau lleol Cymru, yn wynebu sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen lle'r oedd y galw am dai cymdeithasol yn fwy na'r cyflenwad ac roedd y sefyllfa wedi gwaethygu'n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf yn sgil nifer o ffactorau allanol gan gynnwys:

 

·       Dull Llywodraeth Cymru i sicrhau "Nad oes neb yn cael ei adael ar ôl" er mwyn sicrhau bod gan bawb le diogel i fyw ac i sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.

·       Canlyniadau anfwriadol cyflwyno'r Ddeddf Rhentu Cartrefi newydd;

·       Pwysau enfawr yn y farchnad gyffredinol o ran prisiau tai a rhenti;

·       Rhaglen Adsefydlu Wcráin; a

·       Cynllun gwasgaru ceiswyr lloches arfaethedig ledled y DU.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, pe bai'n cytuno i sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen, y byddai hefyd angen penderfynu ar ei aelodaeth a'i gylch gwaith / dogfen gwmpasu a chynllunio. I'r perwyl hwnnw, gan ei bod yn arferol i grwpiau o'r fath gynnwys chwe aelod ar sail wleidyddol gytbwys, cysylltwyd â grwpiau gwleidyddol y Cyngor cyn y cyfarfod ac roedd wedi enwebu'r aelodau canlynol i wasanaethu ar y Gr?p:-

 

Plaid Cymru (3)

Y Cynghorydd Betsan Jones

Y Cynghorydd Ken Howell

Y Cynghorydd Russell Sparks

 

Llafur (2)

Y Cynghorydd Deryk Cundy

Y Cynghorydd Martyn Palfreman

 

Annibynnol

Y Cynghorydd Hugh Shepardson

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

Roedd y Pwyllgor, wrth ystyried y cais, wedi gwneud sylwadau ar y nifer o faterion sy'n dylanwadau ac yn effeithio ar y galw cynyddol am dai cymdeithasol a'r tai cymdeithasol sydd ar gael, fel yr amlinellir uchod. Nododd hefyd bod angen gwneud defnydd o dai cyngor gwag yn gyflymach er mwyn cynyddu lefel y tai sydd ar gael. Mewn ymateb, soniodd y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol am y gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac sy'n cael eu datblygu, i wella'r amseroedd hynny a oedd yn cynnwys trafodaethau gyda chontractwyr ac ail-dendro fframwaith y Contractwyr yn 2023. Cadarnhawyd y byddai Tai Gwag yn rhan o drafodaethau'r Gr?p. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor hefyd am nifer o fentrau a weithredir eisoes gan yr Is-adran Tai i helpu pobl sy'n wynebu digartrefedd, gan gynnwys annog ailddefnyddio cartrefi preifat gwag a chysylltu'n rheolaidd â landlordiaid cymdeithasol drwy'r fforwm landlordiaid lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

4.1

Sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen Craffu cyn gwneud penderfyniad i ddatblygu Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys ar gyfer Sir Gaerfyrddin

4.2

Bod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys 6 aelod gwleidyddol gytbwys a bod yr aelodaeth fel y nodir uchod;

4.3

Bod cylch gwaith/dogfen gwmpasu a chynllunio'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cael eu cymeradwyo

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO 2021/22 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Cabinet, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaengynllun Gwaith drafft ar gyfer 2022/23 a oedd yn nodi manylion materion ac adroddiadau i'w hystyried yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

Nododd y Pwyllgor, wrth ystyried y cynllun drafft, fod pump o'r adroddiadau a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod ar 29 Medi 2022 wedi'u gohirio (gweler cofnod 7) tan y cyfarfod ar 16 Tachwedd ac, yn unol â hynny, byddai angen newid y Cynllun i adlewyrchu'r gohiriadau hynny

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       O ran y pum adroddiad a gyfeiriwyd at y cyfarfod ym mis Tachwedd, cafwyd sylwadau na fyddai eu hychwanegu yn arwain at graffu da, ac os yw'n bosibl, y dylid symud rhai o'r eitemau a drefnwyd i'r cyfarfod ym mis Rhagfyr.

·       Cyfeiriwyd at gynnwys ymweliadau safle yn y cynllun ac i'r rheini ddechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol i gynorthwyo aelodau newydd y pwyllgor i gael dealltwriaeth o rai o'r cyfleusterau o dan faes gorchwyl y Pwyllgor

·       Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi cynnal ymweliadau â Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, Canolfan Hamdden Sanclêr a'r Gât, Sanclêr o'r blaen. Awgrymwyd y dylid darparu adroddiadau diweddaru ar y cyfleusterau hynny mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Atgoffodd y Pennaeth Hamdden y Pwyllgor fod adroddiad diweddaru ar Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn wedi'i ddarparu yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021 lle'r oedd wedi cytuno i gefnogi ei ddefnydd parhaus. Er y cydnabuwyd bod cyflwr yr adeilad yn peri pryder, nid oedd gan yr awdurdod y cyllid cyfalaf angenrheidiol ar hyn o bryd i wneud gwaith gwella. Fodd bynnag, gellid cyflwyno adroddiad diweddaru mewn cyfarfod yn y dyfodol

 

O ran Y Gât, roedd trafodaethau cael eu cynnal gyda Chyngor Tref Sanclêr gyda'r bwriad o gwblhau'r gwaith o Drosglwyddo Asedau erbyn 1 Ebrill 2023. Y sefyllfa o ran Canolfan Hamdden Sanclêr oedd, er bod cynllun rheoli asedau wedi'i gwblhau i wella profiad ymwelwyr, roedd diffyg cyllid cyfalaf yn rhwystro'r gwaith o'i weithredu. Fodd bynnag, roedd cyllid ychwanegol wedi'i sicrhau gan wahanol ffynonellau i alluogi gwneud rhywfaint o waith

·       Awgrymwyd, o ystyried maes gorchwyl y Pwyllgor o ran adfywio, y gallai'r pwyllgor, yn y dyfodol, hefyd archwilio nifer o feysydd yn y maes hwnnw gan gynnwys, er enghraifft, cynigion Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Gweithredu'r Cynllun Datblygu Economaidd, Cynlluniau Gwella Canol Trefi ynghyd â Chytundebau Adran 106

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y fersiwn drafft o'r Blaengynllun gwaith ar gyfer 2022/23 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y canlynol

·       Ail-archwilio nifer o'r adroddiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y cyfarfod ym mis Tachwedd gyda'r bwriad o ohirio rhai i'r cyfarfod ym mis Rhagfyr, os yn bosibl.

·       Cyflwyno adroddiad diweddaru ar Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol

 

·       Rheoli Perfformiad Ch1

·       Adroddiad Blynyddol y Cyngor

·       Strategaeth Arloesi

·       Adroddiad Monitro Cynllunio Blynyddol (Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a Fabwysiadwyd)

·       Adroddiad Perfformiad Cynllunio Blynyddol

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 31AIN IONAWR 2022 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: