Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Matthews a G.B. Thomas.
|
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||
ARDAL TY-ISA/HEOL YR ORSAF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai ac a gefnogwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, ar gynigion y Cyngor ar gyfer Ardal Tyisha/Heol yr Orsaf yn Llanelli. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith a wnaed hyd yma, gan gynnwys y bwriad i ddymchwel y fflatiau gwag yn y 4 "T?", ynghyd ag amlinellu blaenoriaethau allweddol eraill ar gyfer symud y rhaglen newid yn ei blaen. Nod un o amcanion allweddol y cynnig oedd datblygu cynllun trawsnewidiol i fynd i'r afael â'r materion arwyddocaol sy'n effeithio ar gymuned Tyisha a gwneud yr ardal yn lle bywiog i fyw a gweithio ynddo.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth tai cymdeithasol ger y groesfan reilffordd ar Heol yr Orsaf ac a oedd unrhyw gynlluniau i'w dymchwel.
Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai nad oedd unrhyw gynigion o'r fath ar hyn o bryd, gyda'r prif bwyslais ar ddymchwel ac ailddatblygu safle y "4 T?", ynghyd ag ailddatblygu Gorsaf Reilffordd Llanelli a safle Copperworks. Er ei fod yn cadarnhau nad oedd unrhyw gynigion o'r fath, dywedodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel na ellid diystyru unrhyw beth fel rhan o'r cynigion marchnata cynnar. Fodd bynnag, byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol yn destun ymgynghoriad â phreswylwyr lleol. · O ran cwestiwn am broblemau hanesyddol o ran tipio anghyfreithlon yn yr ardal, dywedwyd wrth y Pwyllgor eu bod yn cael sylw mewn nifer o ffyrdd a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau tipio anghyfreithlon. Roedd y rheiny'n cynnwys, er enghraifft, wardeiniaid cymunedol yn cysylltu â'r heddlu a grwpiau cymunedol eraill, addysgu'r cyhoedd, gosod sgipiau yn yr ardal a hysbysebu eu defnydd gan breswylwyr ynghyd â'r gwastraff sy'n cael ei gasglu ddwywaith yr wythnos. Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol lleol i'w hannog i osod cyfleusterau biniau gwastraff mwy yn eu hadeiladau. · Cyfeiriwyd at hen Ysgol Copperworks ac a oedd unrhyw gynigion cadarn ar gyfer ei rôl yn y gymuned yn y dyfodol fel rhan o'i gwaith adfywio, yn enwedig yng ngoleuni ei phwysigrwydd hanesyddol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er nad oes unrhyw gynigion pendant ar hyn o bryd, yr ymgynghorir â'r gymuned ar ddyfodol y safle.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd Ken Howell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, ar Cartrefi Croeso, Cwmni Tai Lleol y Cyngor, a sefydlwyd yn 2018 i gefnogi'r Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy i'w gwerthu a'u rhentu gan sicrhau amrywiaeth o opsiynau i'w helpu i gyflawni ei ymrwymiad mewn cartrefi fforddiadwy i ddiwallu anghenion a dyheadau tai fforddiadwy, cefnogi twf economaidd ac adfywio strategol. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gan Cartrefi Croeso hyd yma, ac yn mynd i'r afael â'i rôl yn y dyfodol yng ngoleuni gwahanol amgylchiadau a oedd wedi codi yn dilyn ei sefydlu. Roedd un newid o'r fath yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i godi cyfyngiadau benthyca'r Cyfrif Refeniw Tai a oedd wedi galluogi'r Cyngor i ddod yn fwy uchelgeisiol ac i feithrin y sgiliau a'r capasiti priodol yn nifer y cartrefi y gallai eu darparu.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · O ran cwestiwn ynghylch unrhyw oblygiadau staffio posibl i'r cynnig i wneud Cartrefi Croeso yn gwmni segur, dywedwyd wrth y Pwyllgor na fyddai dim ar y sail bod y Rheolwr Gyfarwyddwr wedi ymddeol yn ddiweddar a bod yr aelod arall o staff dan sylw wedi gweithio fel ysgrifennydd cwmni rhan-amser am hanner diwrnod y mis fel rhan o'i ddyletswyddau arferol yn y cyngor
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |