Lleoliad: Rhith-Gyfarfod. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.I. Jones ac S. Matthews |
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||
CYNLLUNIAU ADFER ECONOMAIDD CANOL Y PRIF DREFI - RHYDAMAN, CAERFYRDDIN A LLANELLI Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan Arweinydd y Cyngor, gyda chyfrifoldeb dros Adfywio Economaidd, ar Gynlluniau Adfer a Chyflawni Economaidd arfaethedig, ar ôl Covid, ar gyfer y tair prif dref yn Sir Gaerfyrddin sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Lluniwyd y cynlluniau gan weithio'n agos gyda Thasglu Rhydaman, Fforwm Canol Tref Caerfyrddin a Thasglu Llanelli, ac roedd pob un ohonynt yn cynnwys aelodaeth o randdeiliaid allweddol y dref ynghyd â chynrychiolwyr o adrannau mewnol allweddol y Cyngor. Mae'r cynlluniau'n nodi effaith Covid, gan dynnu sylw at faterion/cyfleoedd allweddol a darparu fframwaith cyflawni o ymyriadau pwrpasol ar gyfer pob canolfan. Pe baent yn cael eu mabwysiadu, rhagwelid y byddai'r cynlluniau yn eiddo i'r rhanddeiliaid yn Nhasglu/Fforwm priodol y tair tref ac yn cael eu cyflawni ganddynt, gyda'r Cyngor yn gweithio gyda darpar gyllidwyr yn Llywodraeth Cymru ac yn San Steffan i ysgogi cyllid pan fyddai cyfleoedd yn codi, a defnyddio cyllid corfforaethol a nodwyd o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor i hwyluso gweithrediad y tri chynllun.
Nodwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet/Cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol ar ôl i'r Pwyllgor ei ystyried.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo Cynlluniau Adfer a Chyflawni Economaidd Canol Prif Drefi ar gyfer Canol Trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. |
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol 2019/21 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Arweinydd, gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2005. Roedd Deddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar ei CDLl ar ôl ei fabwysiadu a chadw golwg ar yr holl faterion y disgwylid iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal ac ymgorffori gwybodaeth am y materion hynny i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Roedd yr adroddiad presennol yn cwmpasu cyfnod estynedig o ddwy flynedd gan adlewyrchu effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig a oedd wedi effeithio ar gofnodi data, argaeledd data ac adrodd ar ddata.
Nododd y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad yn cael ei ddatblygu wrth i ragor o dystiolaeth a data ddod ar gael, cyn ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo'n ffurfiol.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at yr effaith yr oedd rheoliadau cyfredol CNC ar effaith ffosffadau ar ansawdd d?r ynghyd â Pharthau Perygl Nitradau (NVZ) yn ei chael ar ddatblygu/adfywio, nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ledled Cymru. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau, os o gwbl, a oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'u heffaith niweidiol ar y diwydiant adeiladu o ganlyniad.
Sicrhawyd y Pwyllgor bod trafodaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru ar y materion hyn rhwng awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, D?r Cymru a phartïon eraill â diddordeb i geisio dod o hyd i ateb i'r anawsterau. Mae trefniadau amodol wedi'u gwneud i gynnal cyfarfod rhanddeiliaid i drafod y mater ffosffadau ar 21 Hydref 2021, a byddai'r Cyngor yn cael gwybod maes o law am unrhyw ganlyniad a allai gael ei gyflawni. Roedd y Cyngor hefyd yn cymryd rôl weithredol wrth nodi ffyrdd o symud ymlaen a chael atebion i'r mater ffosffadau, a oedd yn cynnwys datblygu cyfrifiannell ffosffadau a chanllawiau ar liniaru. Ystyriwyd bod datrysiad cynnar i'r ddau fater yn fater brys oherwydd eu heffaith ar y CDLl, penderfynu ar geisiadau cynllunio ac adfywio o fewn y Sir. · Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth yn y CDLl ar gyfer safleoedd swyddogol ychwanegol i sipsiwn a theithwyr yn y Sir ac at ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer safleoedd teithwyr ar raddfa fach yng nghefn gwlad. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran darparu safle swyddogol arall i deithwyr yn y Sir.
Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod dau safle wedi'u nodi yn ardal Llanelli yn y CDLl Diwygiedig cyfunol fel ymateb i'r angen a amlygwyd yn yr Asesiad Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliwyd gan Is-adran Dai'r Cyngor. Roedd hynny'n adlewyrchu'r ardal lle'r oedd angen darpariaeth ychwanegol a nifer y lleiniau y gallai fod eu hangen, ac adlewyrchwyd hynny yn y CDLl. Roedd yr asesiad hwnnw wedi'i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 a gyflwynwyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol – yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Tai, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Cymunedau a Materion Gwledig ac Adnoddau mewn perthynas â'r meysydd sydd o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y ffaith fod cynllun ffyrlo'r llywodraeth yn dod i ben ar 30 Medi 2021 ac at ba effaith y gallai hynny ei chael ar Gyngor Sir Caerfyrddin a busnesau mewn perthynas â cholli swyddi.
Cadarnhawyd y byddai diwedd y cynllun ffyrlo yn effeithio ar y Sir, ond roedd y Cyngor yn rhagweithiol yn hynny o beth ac yn ddiweddar, ar y cyd â'i bartneriaid, cynhaliodd ffair swyddi ym mhob un o brif drefi'r Sir sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli a oedd wedi cael ymateb da. Er mai'r gobaith oedd y byddai cyfraddau cyflogaeth yn cynyddu, derbyniwyd y byddai rhai sectorau'n cael eu heffeithio'n fwy nag eraill e.e. lletygarwch.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd yr amcangyfrifir y gallai hyd at filiwn o swyddi ar draws y DU fod mewn perygl o ddod â ffyrlo i ben, gyda 3,500 o'r rheiny yn Sir Gaerfyrddin. Er bod targedau cyflogaeth y Cyngor yn cynnwys y 3,500 hynny, byddai angen asesu'r effaith lawn o dynnu'r cynllun yn ôl dros y misoedd nesaf. · Gyda golwg ar gwestiwn ynghylch digartrefedd, sicrhawyd y Pwyllgor, pan oedd pobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref, fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau y gellid eu hail-gartrefu yn eu hardal leol. Lle nad oedd hynny'n bosibl, roedd rhaid darparu llety dros dro a gallai hynny fod wedi'i leoli mewn mannau eraill yn y Sir. Ar hyn o bryd, roedd y Cyngor yn cartrefu 115 o bobl mewn llety dros dro ac roedd 95 ohonynt yn bobl sengl a byddai angen i'r Cyngor fynd i'r afael ag argaeledd llety un person fel rhan o'i raglen adeiladu tai. Pwysleisiwyd hefyd, po gynharaf y byddai person yn ei gyflwyno ei hun fel rhywun sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, y mwyaf o gyfleoedd fyddai ar gael i'r Cyngor i weithio gyda nhw a landlordiaid i ddod o hyd i ateb i'w hangen am d?.
Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar ddarparu ystod o gynigion llety dros dro ar gyfer y Sir, a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor/Cyngor maes o law · Gyda golwg ar gwestiwn ynghylch y defnydd o gyfraniadau ariannol a godwyd trwy ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2021/22 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2021. Nodwyd y rhagwelid tanwariant o £441k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £33,012k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £1,476k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:- · Mewn ymateb i gwestiwn am y gwariant o £176k ar gyfer casglwyr cocos, roedd hynny'n ymwneud â chost y cymorth a ddarparwyd i gasglwyr cocos nad oeddent yn gallu masnachu yn dilyn y gollyngiad olew diweddar ac a fyddai'n cael ei ad-dalu gan Lywodraeth Cymru os nad yw'n dod o dan yswiriant. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd mai'r Cyngor oedd yn gyfrifol am fonitro'r gwelyau cocos ym Moryd Byrri
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn. |
||||||||||
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Cyfeiriwyd at y cynnydd presennol a wnaed ar gamau gweithredu CS13 ac CS17 ar gyfer 2019/20 ac y dylid darparu adroddiadau arnynt i gyfarfod yn y dyfodol, fel yr awgrymwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn yr adroddiad yn amodol ar fod adroddiadau ar Gamau Gweithredu CS13 ac CS17 ar gyfer 19/20 yn cael eu cyflwyno i un o gyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol.
|
||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol
· Adroddiad Perfformiad Cynllunio Blynyddol 2020/21 (Gwasanaethau Cynllunio) · Monitro Cyllideb Diwedd y Flwyddyn 2020/21 - Adroddiad Alldro
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau. |
||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Tachwedd 2021. |
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED AWST 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |