Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Llun, 9fed Awst, 2021 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr S. Matthews a G.B. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Howell

5 – Cartrefi Croeso

Cyn-gyfarwyddwr Cartrefi Croeso

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ARDAL TY-ISA/HEOL YR ORSAF pdf eicon PDF 470 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai ac a gefnogwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, ar gynigion y Cyngor ar gyfer Ardal Tyisha/Heol yr Orsaf yn Llanelli. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith a wnaed hyd yma, gan gynnwys y bwriad i ddymchwel y fflatiau gwag yn y 4 "T?", ynghyd ag amlinellu blaenoriaethau allweddol eraill ar gyfer symud y rhaglen newid yn ei blaen. Nod un o amcanion allweddol y cynnig oedd datblygu cynllun trawsnewidiol i fynd i'r afael â'r materion arwyddocaol sy'n effeithio ar gymuned Tyisha a gwneud yr ardal yn lle bywiog i fyw a gweithio ynddo.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth tai cymdeithasol ger y groesfan reilffordd ar Heol yr Orsaf ac a oedd unrhyw gynlluniau i'w dymchwel.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai nad oedd unrhyw gynigion o'r fath ar hyn o bryd, gyda'r prif bwyslais ar ddymchwel ac ailddatblygu safle y "4 T?", ynghyd ag ailddatblygu Gorsaf Reilffordd Llanelli a safle Copperworks. Er ei fod yn cadarnhau nad oedd unrhyw gynigion o'r fath, dywedodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel na ellid diystyru unrhyw beth fel rhan o'r cynigion marchnata cynnar. Fodd bynnag, byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol yn destun ymgynghoriad â phreswylwyr lleol.

·       O ran cwestiwn am broblemau hanesyddol o ran tipio anghyfreithlon yn yr ardal, dywedwyd wrth y Pwyllgor eu bod yn cael sylw mewn nifer o ffyrdd a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau tipio anghyfreithlon. Roedd y rheiny'n cynnwys, er enghraifft, wardeiniaid cymunedol yn cysylltu â'r heddlu a grwpiau cymunedol eraill, addysgu'r cyhoedd, gosod sgipiau yn yr ardal a hysbysebu eu defnydd gan breswylwyr ynghyd â'r gwastraff sy'n cael ei gasglu ddwywaith yr wythnos. Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol lleol i'w hannog i osod cyfleusterau biniau gwastraff mwy yn eu hadeiladau.

·       Cyfeiriwyd at hen Ysgol Copperworks ac a oedd unrhyw gynigion cadarn ar gyfer ei rôl yn y gymuned yn y dyfodol fel rhan o'i gwaith adfywio, yn enwedig yng ngoleuni ei phwysigrwydd hanesyddol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor, er nad oes unrhyw gynigion pendant ar hyn o bryd, yr ymgynghorir â'r gymuned ar ddyfodol y safle.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1

Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma, a chymeradwyo gan gynnwys dymchwel a chlirio safle'r "4 T?;

5.2

Nodi a chymeradwyo'r blaenoriaethau allweddol;

5.3

Cytuno ar ymarfer rhagarweiniol i brofi'r farchnad a'r llyfryn marchnata cysylltiedig a;

5.4

Cytuno ar drefniadau llywodraethu'r rhaglen yn y dyfodol.

 

 

5.

CARTREFI CROESO pdf eicon PDF 496 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd Ken Howell wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, ar Cartrefi Croeso, Cwmni Tai Lleol y Cyngor, a sefydlwyd yn 2018 i gefnogi'r Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy i'w gwerthu a'u rhentu gan sicrhau amrywiaeth o opsiynau i'w helpu i gyflawni ei ymrwymiad mewn cartrefi fforddiadwy i ddiwallu anghenion a dyheadau tai fforddiadwy, cefnogi twf economaidd ac adfywio strategol. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gan Cartrefi Croeso hyd yma, ac yn mynd i'r afael â'i rôl yn y dyfodol yng ngoleuni gwahanol amgylchiadau a oedd wedi codi yn dilyn ei sefydlu. Roedd un newid o'r fath yn ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i godi cyfyngiadau benthyca'r Cyfrif Refeniw Tai a oedd wedi galluogi'r Cyngor i ddod yn fwy uchelgeisiol ac i feithrin y sgiliau a'r capasiti priodol yn nifer y cartrefi y gallai eu darparu.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       O ran cwestiwn ynghylch unrhyw oblygiadau staffio posibl i'r cynnig i wneud Cartrefi Croeso yn gwmni segur, dywedwyd wrth y Pwyllgor na fyddai dim ar y sail bod y Rheolwr Gyfarwyddwr wedi ymddeol yn ddiweddar a bod yr aelod arall o staff dan sylw wedi gweithio fel ysgrifennydd cwmni rhan-amser am hanner diwrnod y mis fel rhan o'i ddyletswyddau arferol yn y cyngor

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1

Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma ar ddatblygiadau tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg Cartrefi Croeso;

5.2

Cadarnhau bod y Cyngor yn ymgymryd â'r holl ddatblygiadau tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg yn y dyfodol a bod Cartrefi Croeso, fel Cwmni, yn cael ei ddynodi yn segur ond yn parhau i fodoli ar gofrestr y cwmnïau yn Nh?'r Cwmnïau;

5.3

Gweithredu'r broses gyfreithiol ar gyfer Cartrefi Croeso i roi'r gorau i fasnachu ond cael ei gadw fel cwmni segur, rhag ofn bydd y Cyngor am werthu cartrefi drwy'r cyfrwng hwn rywbryd yn y dyfodol;

5.4

Caniatáu i'r Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ac yn unol â'r trefniadau dirprwyo presennol, i weithredu ar ran y cyfranddaliwr (y Cyngor) mewn perthynas â'r Cytundeb Cyfranddaliwr.

 

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: