Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Mawrth, 2ail Chwefror, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Handel Davies a H.A.L. Evans (yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant

Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J. Gilasbey

4 – Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 i 2023/24

Ymddiriedolwr Amgueddfa Tunplat Cydweli

J. Gilasbey

5 – Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Mae aelod o'r teulu yn denant i'r Cyngor

J. Gilasbey

7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2020/21

Ymddiriedolwr Amgueddfa Tunplat Cydweli

J. Gilasbey

11 – Eitemau ar gyfer y dyfodol

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol – mae aelod o'r teulu yn gweithio ym myd addysg

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 TAN 2023/24 pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Noder: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad yn unig mewn perthynas â'r buddiant hwnnw)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2021/22 hyd at 2023/24, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/2022, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu'r cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion arbed ar ôl ystyried effaith y pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 4.0% ledled Cymru ar setliad 2020/21, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.8% (£10.466m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £284.820m ar gyfer 2021/22 a oedd yn cynnwys £244k ar gyfer cyflogau athrawon.

 

Tra bod cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg mewn cynigion arbedion ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23, a 2023/24, byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer y blynyddoedd hwyrach hyn er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Er bod y Strategaeth yn cynnig cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer pob un o'r tair blynedd ariannol, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi argymell y dylid gostwng y cynnydd ar gyfer 2021/22 i 4.48%, a fyddai'n cael ei ystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2021. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 3 Mawrth.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaethau Adfywio a Chynllunio (dim un ar gyfer y meysydd Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad B – adroddiad monitro'r Gyllideb ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, mewn ymateb i gwestiwn ar effaith y pandemig Covid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 379 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2021/24 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn Ymrwymiad yr Awdurdod i Dai Fforddiadwy. 

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24 Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd rhwng 2020/21 – 2024/25 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad. Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) + 1% fyddai'n pennu'r codiad rhent blynyddol (cyfanswm yr amlen rent) ar gyfer pob un o'r 5 mlynedd, gan ddefnyddio lefel y CPI o fis Medi'r flwyddyn flaenorol. CPI + 1% fyddai'r cynnydd mwyaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn ond ni ddylid ei ystyried yn gynnydd awtomatig i'w gymhwyso gan landlordiaid cymdeithasol a dylai eu penderfyniadau ar rent ystyried y fforddiadwyedd i denantiaid.

 

Wrth gymhwyso'r polisi hwnnw ar gyfer 2021/22, roedd Llywodraeth Cymru wedi hysbysu y gallai lefel y rhenti ar gyfer tenantiaid unigol gael ei lleihau neu ei rhewi neu godi hyd at £2 yn ychwanegol at y CPI+1% ar yr amod nad oedd cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd wedi cynyddu mwy na CPI +1%

 

Pe bai cynigion y gyllideb yn cael eu cymeradwyo, byddai gan Gyfrif Refeniw Tai 2021/22 lefel gwariant o £51m, gyda'r rhaglen gyfalaf yn £37.6m ar gyfer 2021/22, £37.4m ar gyfer 2022/23 a £30.6m ar gyfer 2023/24

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch canran Tenantiaid y Cyngor sy'n derbyn Budd-dal Tai, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod traean yn talu rhent llawn, traean yn talu rhent rhannol a'r traean arall yn derbyn budd-dal llawn. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod pennu lefelau rhent yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) 2021-24 pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai ar Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2021-24, a oedd â phwrpas pedwarplyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar dybiaethau cyfredol ar gyfer cyflwyno'r STSG+ dros y tair blynedd nesaf. Yn drydydd, roedd yn dangos sut y gall y rhaglen buddsoddi mewn tai helpu i ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn Covid-19. Yn bedwerydd, roedd yn llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, a oedd yn cyfateb i £6.1m.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pedair thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:-

 

-        Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

-        Thema 2 - Buddsoddi yn ein Tai a'r Amgylchedd

-        Thema 3 - Darparu rhagor o dai;

-        Thema 4 - Economi Sylfaenol, Budd i'r Gymuned a Chaffael

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch lefelau'r tai gwag o fewn 9,200 o gartrefi'r awdurdod, fod tua 340 o dai gwag ar hyn o bryd. Roedd angen lefelau gwahanol o waith ar yr eiddo hynny ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau cyfanswm y tai gwag cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, roedd y pandemig covid wedi effeithio ar gyflymder ac amserlen y gwaith hwnnw, yn enwedig yn ystod cyfnod 3 mis cyntaf y pandemig pan nad oedd contractwyr yn gallu gweithio ar y safle.

·       Gyda golwg ar gwestiwn am effaith y pandemig ar raglen adeiladu tai'r cyngor, cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, fel yn achos y tai gwag, fod oedi wedi bod i ddechrau gan na allai contractwyr fod ar y safle, ac wedi hynny bod oedi wedi bod wrth gyflenwi deunyddiau adeiladu ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Roedd y gwaith yn mynd rhagddo erbyn hyn, fodd bynnag, a'r gobaith oedd y byddai'r rhaglen yn rhedeg yn ôl yr amserlen yn y dyfodol agos.

·       Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod rhaglen adeiladu tai'r Cyngor yn ceisio mynd i'r afael â'r prinder tai mewn ardaloedd gwledig a threfol ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar ddatblygu 21 safle arall ledled y sir.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar lefelau digartrefedd yn y Sir, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Llywodraeth Cymru, ym mis Mawrth 2020, wedi gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Tai Lleol yng Nghymru i gartrefu'r digartref, gan gynnwys pobl sengl ddigartref. Er bod lefelau digartrefedd yn cynyddu, ar y pryd roedd 117 o bobl wedi cyflwyno eu hunain i'r Cyngor fel pobl ddigartref, 100 ohonynt yn bobl sengl, ac roedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Noder: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad yn unig mewn perthynas â'r buddiant hwnnw)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2020/21 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Hydref 2020. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £293k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £44,381k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £2,784k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sefyllfa bresennol Mart Caerfyrddin, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai dogfennau tendro'n cael eu cyhoeddi'n fuan a rhagwelid y gallai tenant newydd fod yn ei le o fewn rhai misoedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD HANNER BLWYDDYN 2020/21 (1 EBRILL I 30 MEDI 2020) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN. pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Hanner Blwyddyn 2020/21 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 30 Medi 2020 a gyflwynwyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol – yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Tai a Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth mewn perthynas â'r meysydd sydd o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol 2020/12 ar gyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Oherwydd y pandemig covid, nodwyd nad oedd cynlluniau Gweithredu Adrannol ar gyfer 2020/21 yn cael eu monitro er mwyn caniatáu i wasanaethau ganolbwyntio ar ddelio ag argyfyngau ond bod Asesiad Effaith Gymunedol hanner blwyddyn ar y pandemig Covid 19 wedi'i lunio yn lle hynny. Byddai adroddiad blynyddol ar gyfer 2020/21 hefyd yn cael ei lunio ar yr Amcanion Llesiant Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

CYNLLUN GWEITHREDU CYDLYNIANT CYMUNEDOL pdf eicon PDF 503 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig a roddai drosolwg o'r Cynllun Rhanbarthol Cydlyniant Cymunedol ac a geisiai ei gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Gweithredu a oedd ynghlwm wrtho.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol mai Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod cynnal ar gyfer derbyn grant Llywodraeth Cymru i ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, a oedd yn cynnwys awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Roedd pedair prif thema i'r Cynllun Gweithredu ynghyd â sawl amcan allweddol h.y.:-

 

·       Thema A – Nodi a lliniaru tensiynau cymunedol (troseddau casineb, eithafiaeth, gorbryder ac ymddygiad gwrthgymdeithasol) sy'n ymwneud â Brexit;

·       Thema B – Meithrin Cysylltiadau Da;

·       Thema C – Sicrhau Cyfle Cyfartal;

·       Thema D – Gweinyddu ac Adrodd i gefnogi gwaith o dan themâu A-C.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol enghreifftiau o'r gwaith a wnaed o dan y Cynllun Cydlyniant Cymunedol a dywedodd y byddai cynllun gweithredu diwygiedig yn cael ei lunio erbyn mis Mawrth 2021 ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 fel rhan o amodau grant Llywodraeth Cymru.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ariannu a'r ffaith bod y Deyrnas Unedig wedi tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod cyllid grant blaenorol wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru a'r gobaith oedd y byddai'n cyhoeddi ei barhad ym mis Mawrth 2021

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Gweithredu Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Noder: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad yn unig mewn perthynas â'r buddiant hwnnw)

 

Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf a oedd i'w gynnal ar 25 Chwefror 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 25 Chwefror 2021.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 8 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:-

 

·       Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: