Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr R. Evans, S. Matthews, H. Shepardson a G. Thomas ynghyd â'r Cynghorwyr A. Davies ac E. Dole, Aelodau Cabinet.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Gilasbey

5 - Chwarter 2 2021/22 - Adroddiad Perfformiad (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn

Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd Amgueddfa Tunplat Cydweli - caniatawyd gollyngiad iddi siarad ond nid pleidleisio

J. Gilasbey

6 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22

Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd Amgueddfa Tunplat Cydweli - caniatawyd gollyngiad iddi siarad ond nid pleidleisio

J Gilasbey

12 -  Eitemau ar gyfer y dyfodol

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol – manylir ar ysgol yn ei ward yn yr adroddiad - Caniatawyd gollyngiad iddi siarad ond nid pleidleisio

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD AWDIT CYMRU: ADFYWIO CANOL TREFI YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Pennaeth Adfywio, ar ran Arweinydd y Cyngor, ar Adroddiad Cenedlaethol Archwilio Cymru ar Adfywio Canol Trefi yng Nghymru. Gwnaeth yr adroddiad 6 argymhelliad a galwodd am bob lefel o lywodraeth yng Nghymru i helpu i wneud canol trefi'n gynaliadwy. Roedd Argymhellion 4 a 6 yn ymwneud â llywodraeth leol ac yn dweud:-

 

“Argymhelliad 4

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi hyfforddiant i bob un o'r 22 awdurdod lleol ar y ffordd orau o ddefnyddio pwerau gorfodi, cymorth ariannol ac adennill dyledion sy'n bodoli eisoes, ond nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gyson nac yn effeithiol i gefnogi adfywio. Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn cymryd camau priodol, gan ddefnyddio'r pwerau a'r adnoddau presennol hyn sydd ar gael i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i ganol trefi drwy:

 

·       ddefnyddio dulliau gorfodi amgen cyn defnyddio gorchmynion Prynu Gorfodol pan fydd popeth arall yn methu;

·       integreiddio strategaethau gorfodi gyda strategaethau adrannol ehangach ar draws timau tai, iechyd yr amgylchedd, cynllunio ac adfywio i wneud defnydd mwy effeithiol o sgiliau ac adnoddau sy'n bodoli eisoes; a

·       sicrhau bod capasiti a'r arbenigedd cywir i ddefnyddio'r ystod lawn o bwerau, gan gydweithio â chynghorau eraill i sicrhau canlyniadau da.

 

Argymhelliad 6

Mae canol trefi'n newid, ac mae angen i awdurdodau lleol fod yn barod i dderbyn y newidiadau hyn a chynllunio i reoli'r newidiadau hyn. Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn defnyddio ein hofferyn adfywio i hunanasesu eu dulliau presennol o nodi lle mae angen iddynt wella eu gwaith ar adfywio canol trefi".

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y Cyngor wedi paratoi Cynllun Gweithredu mewn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru, fel y nodir yn yr adroddiad i'r Pwyllgor ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at y lefel isel o gyfranogiad gan fusnesau yng nghyfarfod diweddar y Fenter 10 Tref ar gyfer Cross Hands. Cadarnhawyd nad oedd y lefel isel yn adlewyrchiad o’r canol trefi eraill a bod swyddogion yn gweithio gyda busnesau yn yr ardal i annog mwy o gyfranogiad ac ymgysylltu.

·        Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyd-fentrau, Llywodraeth Cymru a busnesau lleol mewn dull pendant a chydgysylltiedig fel rhan o'r Fenter 10 Tref. Er y byddai gan bob tref ddull annibynnol o ran yr hyn sy'n cael ei ystyried yn fuddiol i'r dref e.e. darparu unedau busnes, lleoedd parcio, mwy o ddarpariaeth fanwerthu ac ati, a fyddai'n cael ei archwilio'n unigol ar gyfer pob tref, byddai rhyngddibyniaeth hefyd rhwng y trefi. Yn unol â hynny, byddai swyddogion yn cydgysylltu'r fenter rhwng y trefi er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl.

·        O ran cyllid, er bod y Cyngor Sir wedi rhoi swm o'r neilltu yn ei raglen gyfalaf, nid oedd unrhyw gyllid penodol arall ar gael ond roedd gwaith yn mynd rhagddo i dynnu arian i lawr o ffynonellau eraill i helpu i gefnogi'r fenter a rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith. Roedd y rheiny'n cynnwys, er enghraifft, gweithio gyda Llywodraeth Cymru  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 2 - 2021/22 (1 EBRILL I 30 O FEDI 2021) YN BENODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 568 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Medi 2021 a gyflwynwyd gan Aelodau'r Cabinet dros Dai, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Cymunedau a Materion Gwledig ac Adnoddau a chan y Pennaeth Adfywio a Phennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cynllunio mewn perthynas â'r meysydd sydd o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr effaith yr oedd rheoliadau cyfredol CNC ar effaith ffosffadau ar ansawdd d?r yn ei chael ar ddatblygu/adfywio, nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ledled Cymru. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau, os o gwbl, a oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'u heffaith niweidiol ar y diwydiant adeiladu o ganlyniad.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cynllunio fod gan yr awdurdod, ar hyn o bryd, 72 o geisiadau cynllunio heb eu penderfynu a bod 50 o'r rheiny'n uniongyrchol gysylltiedig â ffosffadau a bod y 22 arall yn rhannol gysylltiedig. Er bod trafodaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru, ni ddisgwyliwyd ateb cynnar.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor ymhellach y byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cwrdd ym mis Ionawr 2022 i drafod y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ar adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2021/22 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2021. Nodwyd y rhagwelid tanwariant o £131k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £39,703k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £1,159k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

7.

LLWYFAN 'ACTIF UNRHYW LE' CHWARAEON A HAMDDEN ACTIF pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ynghyd â chyflwyniad PowerPoint, ynghylch Actif – Adain Chwaraeon a Hamdden y Cyngor – a'r ffordd yr oedd datblygiadau 'Actif Unrhyw Le' yn arwain y ffordd o ran datblygiad digidol yn y sector hamdden drwy alluogi'r boblogaeth i gael mynediad at weithgareddau ar draws y cwrs bywyd a'r sbectrwm iechyd a chymryd rhan ynddynt.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, yn amodol ar fod gan y neuaddau cymunedol y gofynion angenrheidiol o ran lle a'r offer TG priodol, nid oedd rheswm pam na ellid defnyddio'r cyfleusterau hynny fel lleoliadau ar gyfer ymarferion digidol. Er nad oedd bwriad i'r llwyfan digidol gymryd lle adeiladau, ei brif nod oedd darparu mwy o gymysgedd a hyblygrwydd o ran dewis/darpariaeth i bobl ddod yn fwy egnïol.

·       Cadarnhawyd, er bod cyllid o £25,000 wedi'i sicrhau i weithredu'r cynllun enghreifftiol mewn tair cymuned, y byddai angen cyllid ychwanegol i hwyluso'r gwaith o'i gyflwyno ymhellach.

·       O ran y llwyfan peilot ar gyfer ysgolion, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden ei fod wedi'i gwblhau a bod trafodaethau'n parhau â'r Adran Addysg ynghylch ei gyflwyno i ysgolion yn y flwyddyn newydd. Er y byddai'r llwyfan yn gweithredu'n allgyrsiol yn bennaf, gellid ei ddefnyddio ar gyfer clybiau brecwast a chinio. Gallai’r llwyfan wneud plant yn fwy heini.

·       Nodwyd mai un o brif fanteision y llwyfan oedd y gellid ei gynnig yn Gymraeg a Saesneg ledled Cymru, y DU a'r byd gan ddefnyddio unrhyw incwm refeniw sy'n deillio o hynny i ategu gwasanaethau eraill a ddarperir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

Y CYNNIG ADDYSG AWYR AGORED YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ar y cynnig Addysg Awyr Agored yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn ymweliad safle blaenorol gan y Pwyllgor Craffu â Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Roedd yr adroddiad yn rhoi cyd-destun i'r cynnig presennol, gan gynnwys adolygiad o asedau, adnoddau ariannol, gweithgarwch staffio a dibenion ynghyd â thynnu sylw at yr effaith a'r heriau a oedd yn gysylltiedig â delio â Covid-19 a sut y byddai angen i'r gwasanaeth ailfodelu a datblygu yn y tymor byr/tymor canolig ac yn y tymor canolig/tymor hir yn unol â'r adnoddau presennol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys 8 argymhelliad i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriodd y Pwyllgor yn unfrydol at werth y cyfleuster presennol ym Mhentywyn i'r Sir gyfan ac at y profiad y mae'n ei roi i blant ysgol. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi'n llwyr bod y cyfleuster yn parhau i weithredu a bod angen nodi cyfalaf a ffynonellau cyllid eraill i sicrhau'r ddarpariaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Hamdden at yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ac at un o'r opsiynau, sef archwilio diben y ddarpariaeth. Roedd y ganolfan ym Mhentywyn wedi'i diffinio'n glir fel adnodd addysg i blant yn Sir Gaerfyrddin a oedd, yn ei dro, yn creu ei anawsterau a'i heriau ei hun o ran derbyn grantiau a chyllid allanol. Roedd cyfleoedd masnachol posibl i bobl ddefnyddio cyfleusterau'r ganolfan y tu allan i dymhorau ysgol a allai fod yn ffordd o dderbyn grantiau twristiaeth ac adfywio. Rhoddwyd sicrwydd bod yr holl ffynonellau cyllid grant posibl yn cael eu harchwilio wrth i'r cyfle godi.

·       O ran ailagor y ganolfan ar ôl Covid, cynhaliwyd ymgynghoriad a chafwyd adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr a oedd yn gwerthfawrogi ei darpariaeth ac yn cefnogi ei gweithrediad parhaus. Er y gobeithiwyd y gallai'r ganolfan ailagor o fis Ebrill 2022, roedd hynny'n dibynnu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a bod yr ysgolion yn hyderus i ddefnyddio'r cyfleuster.  Hefyd gallai unrhyw gynlluniau ailagor o'r fath fod yn wahanol i weithrediadau blaenorol ar y safle wrth i'r cyfleusterau gael eu defnyddio gan un ysgol ar y tro yn lle sawl ysgol.

·       Er ei fod yn cydnabod bod y ganolfan yn ased gwerthfawr, atgoffwyd y Pwyllgor ei fod yn adnodd sy'n heneiddio a bod arolwg blaenorol o gyflwr y ganolfan wedi amcangyfrif y byddai angen gwneud gwaith gwerth tua £5-6m i fodloni gofynion modern. Felly, roedd yn hanfodol i'r Cyngor archwilio opsiynau eraill i ddarparu cyfleusterau oddi ar y safle a pheidio â chyfyngu ar ei defnydd i addysg yn unig. Byddai angen llunio cynllun asedau y cytunwyd arno fel rhan o'r cam nesaf ac yn y tymor hir byddai angen ystyried y posibilrwydd o addasu'r ganolfan at ddibenion gwahanol a llunio trefniant partneriaeth, o bosibl gyda'r hostel newydd ym Mhentywyn. Rhagwelwyd y byddai'r cynllun asedau yn cael ei gwblhau yn ystod y misoedd nesaf gyda'r bwriad o gwblhau cyfeiriad y ganolfan yn y dyfodol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CANOLFAN HAMDDEN SANCLER pdf eicon PDF 345 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar ddatblygiadau a oedd wedi digwydd yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr a'r rhai yr oedd bwriad iddynt ddigwydd a fyddai'n gwella perfformiad yr uned fusnes, profiad cwsmeriaid a'r gwasanaeth a ddarperir.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn am ddull partneriaeth posibl i sicrhau cyllid ychwanegol i'r ganolfan, soniodd y Pennaeth Hamdden am drefniant blaenorol lle roedd y ganolfan wedi'i rheoli gan gr?p gwirfoddol yn y 1990au ond wedi dychwelyd i reolaeth y cyngor yn y 2000au. Derbyniwyd bod denu cyllid allanol/ffurfio partneriaeth yn ffactor allweddol ac, yn hynny o beth, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal â'r Bwrdd Iechyd i ariannu'r gwaith o ddarparu gweithgareddau ataliol yn y ganolfan. Fodd bynnag, er y byddai modd denu arian grant gan y Bwrdd o bosib, ni fyddai hynny'n cynnwys cyllid refeniw parhaus. Pe gallai'r cyngor ddenu mwy o gyllid byddai hynny'n helpu i wneud y ganolfan yn adnodd gwerthfawr.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am y cynllun NERS (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff), cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant blynyddol o £150K tuag at gost y cynllun. Fodd bynnag, pe gallai'r cyllid hwnnw fod am gyfnod penodol o flynyddoedd byddai hynny'n helpu i reoli'r cynllun yn well. Roedd y cynllun hefyd wedi'i gyfyngu o ran y math o gyflyrau y gellid eu cefnogi a darparu ar eu cyfer mewn canolfannau hamdden. Felly, roedd galw yn genedlaethol am ymestyn paramedrau'r cynllun ac i'r byrddau iechyd ddarparu cyllid ychwanegol fel ei fod yn adnodd sy'n fwy ataliol nag yn ymatebol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.

10.

Y GAT, SANCLER pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y sefyllfa bresennol o ran gweithredu Y Gât, Sanclêr yn y dyfodol yn dilyn ymweliad blaenorol â'r safle gan y Pwyllgor Craffu. Nododd yr adroddiad y sefyllfa weithredol bresennol, y sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau â Chyngor Tref Sanclêr ynghylch y posibilrwydd o drosglwyddo'r ased, ynghyd ag opsiynau yn y dyfodol. Dywedwyd ymhellach y disgwyliwyd penderfyniad gan y Cyngor Tref ynghylch trosglwyddo'r ased yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru.

11.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 7 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol

 

·       Eiddo Gwag yn Sir Gaerfyrddin

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 31 Ionawr 2022. Cyfeiriwyd at nifer yr eitemau arfaethedig ar yr agenda a nodwyd yn yr adroddiad ac awgrymwyd eu bod yn cael eu lleihau, a bod cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu, os oes angen, i hwyluso ystyried yr eitemau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o’r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 31 Ionawr, 2022 yn cael ei nodi ond y dylid ystyried lleihau nifer yr eitemau arfaethedig ac, os oes angen, bod cyfarfod ychwanegol o'r pwyllgor yn cael ei drefnu i hwyluso ystyried yr eitemau hynny.

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 30AIN MEDI 2021 pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau