Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Iau, 30ain Medi, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.I. Jones ac S. Matthews

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant

 

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Gilasbey

7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22

Ymddiriedolwr Amgueddfa Tunplat Cydweli - caniatawyd gollyngiad iddi siarad ond nid pleidleisio

J Gilasbey

10 -  Eitemau ar gyfer y dyfodol

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol – manylir ar ysgol yn ei ward yn yr adroddiad

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

CYNLLUNIAU ADFER ECONOMAIDD CANOL Y PRIF DREFI - RHYDAMAN, CAERFYRDDIN A LLANELLI pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan Arweinydd y Cyngor, gyda chyfrifoldeb dros Adfywio Economaidd, ar Gynlluniau Adfer a Chyflawni Economaidd arfaethedig, ar ôl Covid, ar gyfer y tair prif dref yn Sir Gaerfyrddin sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Lluniwyd y cynlluniau gan weithio'n agos gyda Thasglu Rhydaman, Fforwm Canol Tref Caerfyrddin a Thasglu Llanelli, ac roedd pob un ohonynt yn cynnwys aelodaeth o randdeiliaid allweddol y dref ynghyd â chynrychiolwyr o adrannau mewnol allweddol y Cyngor. Mae'r cynlluniau'n nodi effaith Covid, gan dynnu sylw at faterion/cyfleoedd allweddol a darparu fframwaith cyflawni o ymyriadau pwrpasol ar gyfer pob canolfan. Pe baent yn cael eu mabwysiadu, rhagwelid y byddai'r cynlluniau yn eiddo i'r rhanddeiliaid yn Nhasglu/Fforwm priodol y tair tref ac yn cael eu cyflawni ganddynt, gyda'r Cyngor yn gweithio gyda darpar gyllidwyr yn Llywodraeth Cymru ac yn San Steffan i ysgogi cyllid pan fyddai cyfleoedd yn codi, a defnyddio cyllid corfforaethol a nodwyd o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor i hwyluso gweithrediad y tri chynllun.

 

Nodwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet/Cyngor i'w fabwysiadu'n ffurfiol ar ôl i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo Cynlluniau Adfer a Chyflawni Economaidd Canol Prif Drefi ar gyfer Canol Trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

5.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Blynyddol 2019/21 ar Gynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Arweinydd, gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Cynllunio. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi yn unol â Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2005. Roedd Deddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol ar ei CDLl ar ôl ei fabwysiadu a chadw golwg ar yr holl faterion y disgwylid iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal ac ymgorffori gwybodaeth am y materion hynny i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r cynllun. Roedd yr adroddiad presennol yn cwmpasu cyfnod estynedig o ddwy flynedd gan adlewyrchu effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig a oedd wedi effeithio ar gofnodi data, argaeledd data ac adrodd ar ddata.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad yn cael ei ddatblygu wrth i ragor o dystiolaeth a data ddod ar gael, cyn ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at yr effaith yr oedd rheoliadau cyfredol CNC ar effaith ffosffadau ar ansawdd d?r ynghyd â Pharthau Perygl Nitradau (NVZ) yn ei chael ar ddatblygu/adfywio, nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ledled Cymru. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau, os o gwbl, a oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'u heffaith niweidiol ar y diwydiant adeiladu o ganlyniad.

 

Sicrhawyd y Pwyllgor bod trafodaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru ar y materion hyn rhwng awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, D?r Cymru a phartïon eraill â diddordeb i geisio dod o hyd i ateb i'r anawsterau. Mae trefniadau amodol wedi'u gwneud i gynnal cyfarfod rhanddeiliaid i drafod y mater ffosffadau ar 21 Hydref 2021, a byddai'r Cyngor yn cael gwybod maes o law am unrhyw ganlyniad a allai gael ei gyflawni. Roedd y Cyngor hefyd yn cymryd rôl weithredol wrth nodi ffyrdd o symud ymlaen a chael atebion i'r mater ffosffadau, a oedd yn cynnwys datblygu cyfrifiannell ffosffadau a chanllawiau ar liniaru. Ystyriwyd bod datrysiad cynnar i'r ddau fater yn fater brys oherwydd eu heffaith ar y CDLl, penderfynu ar geisiadau cynllunio ac adfywio o fewn y Sir.

·       Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth yn y CDLl ar gyfer safleoedd swyddogol ychwanegol i sipsiwn a theithwyr yn y Sir ac at ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer safleoedd teithwyr ar raddfa fach yng nghefn gwlad. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran darparu safle swyddogol arall i deithwyr yn y Sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod dau safle wedi'u nodi yn ardal Llanelli yn y CDLl Diwygiedig cyfunol fel ymateb i'r angen a amlygwyd yn yr Asesiad Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliwyd gan Is-adran Dai'r Cyngor. Roedd hynny'n adlewyrchu'r ardal lle'r oedd angen darpariaeth ychwanegol a nifer y lleiniau y gallai fod eu hangen, ac adlewyrchwyd hynny yn y CDLl. Roedd yr asesiad hwnnw wedi'i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEHEFIN 2021) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN. pdf eicon PDF 566 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 a gyflwynwyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol – yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Tai, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Cymunedau a Materion Gwledig ac Adnoddau mewn perthynas â'r meysydd sydd o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.

 

 Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod cynllun ffyrlo'r llywodraeth yn dod i ben ar 30 Medi 2021 ac at ba effaith y gallai hynny ei chael ar Gyngor Sir Caerfyrddin a busnesau mewn perthynas â cholli swyddi.

 

Cadarnhawyd y byddai diwedd y cynllun ffyrlo yn effeithio ar y Sir, ond roedd y Cyngor yn rhagweithiol yn hynny o beth ac yn ddiweddar, ar y cyd â'i bartneriaid, cynhaliodd ffair swyddi ym mhob un o brif drefi'r Sir sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli a oedd wedi cael ymateb da. Er mai'r gobaith oedd y byddai cyfraddau cyflogaeth yn cynyddu, derbyniwyd y byddai rhai sectorau'n cael eu heffeithio'n fwy nag eraill e.e. lletygarwch.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd yr amcangyfrifir y gallai hyd at filiwn o swyddi ar draws y DU fod mewn perygl o ddod â ffyrlo i ben, gyda 3,500 o'r rheiny yn Sir Gaerfyrddin. Er bod targedau cyflogaeth y Cyngor yn cynnwys y 3,500 hynny, byddai angen asesu'r effaith lawn o dynnu'r cynllun yn ôl dros y misoedd nesaf.

·       Gyda golwg ar gwestiwn ynghylch digartrefedd, sicrhawyd y Pwyllgor, pan oedd pobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref, fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau y gellid eu hail-gartrefu yn eu hardal leol. Lle nad oedd hynny'n bosibl, roedd rhaid darparu llety dros dro a gallai hynny fod wedi'i leoli mewn mannau eraill yn y Sir. Ar hyn o bryd, roedd y Cyngor yn cartrefu 115 o bobl mewn llety dros dro ac roedd 95 ohonynt yn bobl sengl a byddai angen i'r Cyngor fynd i'r afael ag argaeledd llety un person fel rhan o'i raglen adeiladu tai. Pwysleisiwyd hefyd, po gynharaf y byddai person yn ei gyflwyno ei hun fel rhywun sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, y mwyaf o gyfleoedd fyddai ar gael i'r Cyngor i weithio gyda nhw a landlordiaid i ddod o hyd i ateb i'w hangen am d?.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar ddarparu ystod o gynigion llety dros dro ar gyfer y Sir, a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor/Cyngor maes o law

·       Gyda golwg ar gwestiwn ynghylch y defnydd o gyfraniadau ariannol a godwyd trwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn cyfarfod tra oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ar adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2021/22 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2021. Nodwyd y rhagwelid tanwariant o £441k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £33,012k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £1,476k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn am y gwariant o £176k ar gyfer casglwyr cocos, roedd hynny'n ymwneud â chost y cymorth a ddarparwyd i gasglwyr cocos nad oeddent yn gallu masnachu yn dilyn y gollyngiad olew diweddar ac a fyddai'n cael ei ad-dalu gan Lywodraeth Cymru os nad yw'n dod o dan yswiriant. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd mai'r Cyngor oedd yn gyfrifol am fonitro'r gwelyau cocos ym Moryd Byrri

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

8.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

Rhoddwyd sylw i'r mater canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd presennol a wnaed ar gamau gweithredu CS13 ac CS17 ar gyfer 2019/20 ac y dylid darparu adroddiadau arnynt i gyfarfod yn y dyfodol, fel yr awgrymwyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid derbyn yr adroddiad yn amodol ar fod adroddiadau ar Gamau Gweithredu CS13 ac CS17 ar gyfer 19/20 yn cael eu cyflwyno i un o gyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol.

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol

 

·       Adroddiad Perfformiad Cynllunio Blynyddol 2020/21 (Gwasanaethau Cynllunio)

·       Monitro Cyllideb Diwedd y Flwyddyn 2020/21 - Adroddiad Alldro

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau.

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 17 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Tachwedd 2021.

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED AWST 2021 pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: