Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 82955392# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Matthews a G.B. Thomas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

4.

GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL CANOL TREF CAERFYRDDIN A CHANOL TREF RHYDAMAN pdf eicon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Dirprwy Arweinydd (sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cynllunio) ynghylch cynigion y Cyngor (fel y cytunwyd arnynt yn ei gyfarfod ar 9 Rhagfyr 2020) i gyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol ar gyfer canol tref Caerfyrddin a chanol tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.

 

Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol yn lle cais cynllunio, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol. Fodd bynnag, pe bai angen cyflwyno cais cynllunio ffurfiol, byddai'n rhaid cyflwyno hwnnw fel ag y mae ar hyn o bryd. Cadarnhawyd ymhellach fod gwaith ar adeiladau rhestredig wedi'i eithrio o'r Gorchmynion. Byddai'r cynnig bellach yn destun cyfnod ymgynghori o 6 wythnos ac, wedi hynny, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i ystyried yr ymatebion a ddaeth i law ac a ddylid bwrw ymlaen i gyflwyno'r Gorchmynion.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y Gorchymyn Datblygu Lleol presennol ar gyfer canol tref Llanelli a pha mor effeithiol y bu hynny wrth adfywio canol y dref.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod y Gorchymyn hwnnw'n ymgorffori gwahanol agweddau o gymharu â'r rhai a gynigiwyd ar gyfer Caerfyrddin a Rhydaman (gan gynnwys y gofyniad i baratoi asesiad perygl llifogydd), fod y manteision yn dechrau dod i'r amlwg. Dywedodd fod gwersi a ddysgwyd o’i gyflwyno yn cael eu rhoi ar waith yn y Gorchmynion Datblygu Lleol arfaethedig ar gyfer Caerfyrddin a Rhydaman.

 

·       Cyfeiriwyd at gynigion adfywio'r Cyngor a gwnaed y sylw, er eu bod yn cael eu croesawu, fod un elfen yr oedd angen mynd i'r afael â hi i hyrwyddo adfywio sef lefel yr Ardrethi Busnes a'r rhwystr y gallent ei greu i wella adfywio yn y Sir.

·       Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y datganiad ar dudalen 17, paragraff A1.4 o'r adroddiad - nad oedd rhwymedigaethau cynllunio Adran 106 yn ofynnol o dan Orchymyn Datblygu Lleol, ac a oedd hynny'n rhyddhau datblygwyr o wneud cyfraniadau o'r fath.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai pwrpas y Gorchymyn Datblygu Lleol oedd bod yn ysgogiad i annog newid a deinamigrwydd i hyrwyddo datblygiad o fewn y terfynau ac y gallai'r gofyniad am Gytundeb Adran 106 fod yn rhwystr i ddatblygwyr posibl. Fodd bynnag, byddai'r Gorchymyn yn cael ei fonitro'n barhaus i asesu ei effeithiolrwydd, fel sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth a gellid ei newid o fewn cyfnod o 21-28 diwrnod petai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2018- 2033) SYLWADAU A OEDD WEDI DOD I LAW A NEWIDIADAU PENODOL pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Dirprwy Arweinydd (sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cynllunio) ynghylch paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (newydd) ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018. Dywedodd fod yr adroddiad presennol yn manylu ar yr ymatebion a ddaeth i law yn dilyn y broses ymgynghori ffurfiol a'i fod yn ceisio nodi cyfres o Newidiadau â Ffocws arfaethedig i'r argymhellion a ddaeth i law ynghyd â'r rhai a allai fod wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau, tystiolaeth neu, er mwyn rhoi eglurder ac ystyr.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effeithiau posibl Covid-19 ar gymunedau a'r ffordd o weithio, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y broses o baratoi'r Cynllun wedi monitro newidiadau yn barhaus a'r effeithiau y gallent eu cael, er enghraifft, ar y lefel bosibl o bobl sy'n mudo i'r sir gan gredu bod Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel i fyw. Yn ogystal, byddai angen monitro effaith gweithio gartref wrth i fwy o bobl wneud hynny, er enghraifft, i asesu a oedd angen darparu mannau allanol o fewn datblygiadau i bobl gael seibiant o'r cartref ac i hyrwyddo ymarfer corff yn yr awyr agored. Byddai angen asesu’r effaith ar fynediad at feddygfeydd a chymorth y GIG hefyd.

·        O ran y cynnydd sydd wedi'i wneud i fabwysiadu'r Cynllun, dywedwyd bod disgwyl iddo gael ei gyflwyno i'w archwilio’n annibynnol ym mis Mai 2021 a bod disgwyl i'r archwiliad cyhoeddus ddechrau'n ffurfiol ym mis Gorffennaf 2021 gyda Cyfarfod y Rhagwrandawiad. Roedd cais hefyd wedi cael ei wneud bod gan yr Arolygydd penodedig ddealltwriaeth o Sir Gaerfyrddin.

·        Cyfeiriwyd at statws y tir sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol ac a ellid ei dynnu o'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, er enghraifft, pe bai caniatâd cynllunio wedi'i wrthod.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod potensial i'r sefyllfa honno ddigwydd gan fod pwyslais y Cynllun ar a ellid cyflawni prosiect. Fodd bynnag, gan fod sylwadau yn cyd-fynd â phob darn o dir a gyflwynwyd i'w gynnwys yn y Cynllun Diwygiedig, byddai'r rheiny'n cael eu cyflwyno i'r Arolygydd iddo ystyried eu cynnwys neu beidio. Byddai'r Cynllun hefyd yn cael ei archwilio'n gyhoeddus a byddai'r cyhoedd/datblygwyr yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau i'r Arolygydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad  

6.

CANOLFAN ADDYSG AWYR AGORED PENTYWYN pdf eicon PDF 415 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (ynghyd â chyflwyniad PowerPoint) ynghylch y materion allweddol sy’n effeithio ar Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn ac awgrymodd yr adroddiad ffyrdd ymlaen o ran darparu addysg awyr agored o ansawdd uchel yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Nodwyd bod y cyfleuster presennol yn hen a bod angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol o oddeutu £5m i ddarparu cyfleuster newydd, a hynny ar adeg heriol lle mae gofynion cynyddol sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd hefyd mewn perthynas â rhaglen gyfalaf y Cyngor. O ganlyniad i'r ffactorau hynny, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth a allai, er enghraifft, gynnwys lleihau maint y cyfleuster presennol, defnyddio adeiladau/cyfleusterau eraill yn y sir a darparu gwasanaeth symudol. Felly, sefydlwyd Fforwm Addysg Awyr Agored, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau hamdden, addysg ac ysgolion, i nodi'r opsiynau o ran darparu gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriodd y Pwyllgor yn unfrydol at werth y cyfleuster presennol ym Mhentywyn i'r Sir gyfan ac at y profiad y mae'n ei roi i blant ysgol. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi'n llwyr bod y cyfleuster yn barhaus a bod angen nodi cyfalaf a ffynonellau cyllid eraill i sicrhau'r ddarpariaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod darpariaeth y ganolfan yn y dyfodol yn heriol o ystyried yr hen adeiladau, tanfuddsoddi dros y blynyddoedd a gofynion ar raglen gyfalaf y Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd fod gwariant refeniw o £80k y flwyddyn yn cael ei wario ar gynnal a chadw'r cyfleuster ynghyd â chymhorthdal gweithredu ychwanegol o £160k y flwyddyn. O ystyried y gost sylweddol i ailadeiladu'r cyfleuster, roedd angen i'r Awdurdod fabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg at ddyfodol darparu addysg awyr agored, gan gadw ychydig o ddarpariaeth sylfaen ym Mhentywyn.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pwysigrwydd hamdden i iechyd plant ifanc, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod darparu cyfleusterau hamdden awyr agored gan yr Awdurdod, fel yr un ym Mhentywyn, yn fuddiol iawn i lesiant meddyliol a chorfforol plant ifanc a bod yr Awdurdod wedi gwario'n sylweddol ar ei bortffolio hamdden yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa bresennol ym Mhentywyn a'r gwahanol ofynion ar y rhaglen gyfalaf, roedd yn rhaid ystyried ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaeth drwy ryw fath o fuddsoddiad cyfalaf o bosib.

·       Cyfeiriwyd at effaith Covid-19 ar weithrediad y ganolfan ac at y ffaith y byddai cyfleusterau hamdden awyr agored, megis Canolfan Pentywyn, yn ailagor rywbryd yn y dyfodol. Er bod yr amcangyfrif o'r costau adnewyddu cyfalaf o £5m yn sylweddol, mynegwyd y farn bod plant yn cael budd mawr o'r ganolfan. Felly gofynnwyd a ellid gwrthbwyso costau cynnal y ganolfan yn rhannol trwy gyflwyno elfen fasnachol pan nad oedd yn cael ei defnyddio gan ysgolion, er enghraifft, yn ystod gwyliau ysgol, fel y digwyddodd yn y sector prifysgolion.

Derbyniodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol y sylwadau a wnaed ond pwysleisiodd fod y cyd-destun economaidd presennol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

PROSIECT ATYNNU PENTWYN pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad PowerPoint ynghylch datblygiad Prosiect Denu Twristiaid i Bentywyn gwerth £6.7m a oedd yn cynnwys amserlenni cyflawni arfaethedig, opsiynau llywodraethu yn y dyfodol, rhagolygon ariannol lefel uchel, camau allweddol a chyfathrebu i'r dyfodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cadarnhawyd nad oedd y 10 lle parcio dros nos i gartrefi modur a ddarparwyd gan Gyngor Cymuned Pentywyn yn cynnwys lleoedd parcio i garafanau teithio.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr amcangyfrif o'r swm ychwanegol o £3.3m y flwyddyn y gallai'r datblygiad ei greu i'r gymuned leol, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr amcangyfrif yn seiliedig ar gyfrifiad o niferoedd ymwelwyr Croeso Cymru a'i fod yn gysylltiedig â thair elfen. Roedd y cyntaf mewn perthynas â'r ffaith bod ymwelwyr yn gwario £23 y person bob dydd ar gyfartaledd ac amcangyfrifwyd y gallai'r atyniad ddenu 40,000 o ymwelwyr dydd ychwanegol pan fyddai'n gwbl weithredol. Yn ail, roedd ymwelwyr dros nos yn gwario £93 ar gyfartaledd ac amcangyfrifwyd y byddai 6,500 o arosiadau dros nos ychwanegol. Yn drydydd, byddai ymwelwyr dydd sy'n aros yn hirach yn yr ardal yn gwario £3-£5 y person yn ychwanegol ar luniaeth ac ati. Yn ogystal, roedd effaith ehangach twristiaeth; byddai lluosydd o 1.5 i 1 am bob punt a wariwyd yn cael ei ailgylchredeg yn y gymuned.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y potensial i gysylltu'r ganolfan ddenu â'r cyfleusterau yn y Ganolfan Addysg Awyr Agored, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr opsiwn hwnnw'n cael ei archwilio yn arbennig o ran misoedd prysur yr haf;

·       Cyfeiriwyd at y Trefniant Rheoli ar y Cyd arfaethedig gyda Chyngor Cymuned Pentywyn. Cadarnhawyd y byddai unrhyw incwm dros ben a gynhyrchir gan y ganolfan yn cael ei neilltuo ar gyfer adfywio Pentywyn. Pe bai'r cytundeb hwnnw'n dod i ben, byddai unrhyw arian sy'n weddill yn cael ei rannu rhwng y Cyngor Sir a'r Cyngor Cymuned pro rata yn ôl lefel buddsoddiad pob parti.

·       Cyfeiriwyd at drefniadau rheoli'r hostel yn y dyfodol ac a fyddai'n bosibl iddi gael ei defnyddio at ddibenion eraill, er enghraifft, at ddibenion addysgol trwy ddysgu pobl sut i weithredu sefydliadau arlwyo.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod defnyddio'r ganolfan at ddibenion eraill wedi cael ei archwilio, er enghraifft, darparu llety ar gyfer y Ganolfan Addysg Awyr Agored ond gallai hynny ddod yn ddarpariaeth addysgol bron wedi hynny, a oedd yn swyddogaeth statudol. Roedd defnyddiau eraill yn cynnwys darparu mannau seibiant ar gyfer gofal cymdeithasol a thwristiaeth ac ati. Fodd bynnag, roedd un o'r materion mewn perthynas â sut y bydd y ganolfan yn cael ei gweithredu yn ymwneud â'r hyn y gallai'r Cyngor, fel awdurdod lleol, ei wneud ei hun neu fel rhan o Drefniant Rheoli ar y Cyd gyda'r Cyngor Cymuned, a gofynnwyd am eglurder cyfreithiol ynghylch yr agwedd honno.

 

O ran trefniadau rheoli'r hostel yn y dyfodol, roedd trafodaethau'n parhau o ran a fydd yn cael ei rheoli'n fewnol neu drwy drydydd parti a byddai'r Cyngor yn cynnal ymarfer marchnata i brofi faint o ddiddordeb sydd. Pe bai'r Cyngor yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 2 Chwefror 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y rhestr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 2 Chwefror 2021.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

10.

I LOFNODI COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

10.1

16EG IONAWR, 2020 pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Ionawr, 2020 yn gofnod cywir.

10.2

13EG TACHWEDD, 2020 pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd, 2020 yn gofnod cywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau