Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 93076327# (Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cydymdeimlwyd â'r aelodau hynny o'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio a oedd wedi cael profedigaeth yn y teulu yn ddiweddar.

 

2.

PENODI CADEIRYDD AM Y FLWYDDYN DDINESIG 2020/21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd F. Akhtar yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Gwnaed y datganiad canlynol ynghylch buddiant

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

J. Gilasbey

10 - Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU ADRAN YR AMGYLCHEDD SY'N BERTHNASOL I'R PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO pdf eicon PDF 581 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol – y Dirprwy Arweinydd (sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Cynllunio), yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ar effaith pandemig Covid-19 ar y Gwasanaethau Cyngor hynny a ddarperir gan Adran yr Amgylchedd sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio h.y.: y Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo. Wrth asesu effaith y pandemig ar y gwasanaethau hynny, helpodd yr adroddiadau hefyd i lywio sut y gellid eu hailosod a gwella rhagor ar y ffordd cânt eu darparu yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad wedi'i rannu'n ddwy elfen ar wahân yn cwmpasu'r Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo, ac roedd yn rhoi sylw i effaith Covid-19 o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, staff a'r Cyngor ac o ran y meysydd gwasanaeth canlynol:

 

Y Gwasanaethau Cynllunio

 

Eiddo

·         Polisi Cynllunio

 

·     Tai Newydd

·         Mwynau a Gwastraff (ac eithrio'r elfen orfodi)

 

·     Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw

·         Rheoli Datblygu a Threftadaeth Adeiledig (ac eithrio'r elfen orfodi)

 

 

·         Rheoli Adeiladu

 

 

·         Enwi a Rhifo Strydoedd

 

 

 

Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor at ddatblygiad Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig y Cyngor, a dywedodd fod Covid, oherwydd y Pandemig, wedi effeithio ar y cyfnod ymgynghori ar y fersiwn Adneuo, er ei fod wedi'i gwblhau ym mis Mawrth 2020. Roedd y pythefnos diwethaf wedi cael eu heffeithio yn yr ystyr bod mynediad i lyfrgelloedd wedi cael ei atal. O ganlyniad, cynhaliwyd ymgynghoriad pellach o dair wythnos, a oedd wedi cychwyn ar 2 Hydref 2020. Cyfeiriodd hefyd at y ddeddfwriaeth ynghylch y darpariaethau "dyddiad terfynol" ar gyfer y CDLl presennol a dywedodd fod Llywodraeth Cymru, y diwrnod cynt, wedi derbyn


Cytundeb Cyflawni diwygiedig y Cyngor, a oedd yn golygu y byddai'r CDLl presennol yn parhau i fod ar waith hyd nes mabwysiadu'r cynllun newydd ym mis Gorffennaf 2022.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at atal ymweliadau safle gan yr adain Rheoli Datblygu a'r adain Rheoli Adeiladu yn ystod y pandemig, a gofynnwyd a oedd penderfyniad wedi'i wneud ar eu hailddechrau.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, er y byddai angen asesu pob ymweliad safle fesul achos ar hyn o bryd, fod cynigion yn ailddechrau'n raddol, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau Covid-19 oedd mewn grym, er mwyn lleihau i'r graddau mwyaf y posibiliad o ôl-groniad pellach.

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi llacio'r gofyniad oedd ar awdurdodau cynllunio lleol i benderfynu ar ddosbarthiadau penodol o geisiadau cynllunio o fewn cyfnod o wyth wythnos yn ystod y pandemig. Fodd bynnag roedd y gwasanaeth yn ceisio penderfynu ar geisiadau cyn gynted ag y bo modd, a lle roedd yn amlwg y byddai oedi cyn penderfynu, roedd trafodaethau ynghylch estyniad i'r amser yn cael eu cynnal gydag ymgeiswyr yn unigol.

·       Cyfeiriwyd at yr ôl-groniad presennol o geisiadau cynllunio y disgwylid penderfyniad yn eu cylch. Er derbyn bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa honno, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio bob pythefnos, gofynnwyd am syniad pryd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EFFAITH Y PANDEMIG COVID AR GARTREFI A CHYMUNEDAU MWY DIOGEL pdf eicon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, ar effaith pandemig Covid-19 ar y gwasanaethau tai o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth, staff a'r Cyngor, gan ddarparu gwybodaeth glir am y camau a gymerwyd a llywio'r goblygiadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol ac unrhyw wersi allweddol a ddysgwyd. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyflawni allweddol a datblygiadau yn y dyfodol yn y meysydd gwasanaeth canlynol:

 

·       Buddsoddi a Darparu Tai yn Strategol;

·       Cyngor a Chymorth Tenantiaeth;

·       Tai Gwarchod ac;

·       Ymgysylltu a Phartneriaethau

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am unrhyw estyniad y tu hwnt i fis Mawrth 2021 i'w gynllun i ad-dalu costau ychwanegol ar ran awdurdodau lleol yn sgil bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i gartrefu pobl ddigartref. Er mai'r gobaith oedd y byddai'r cynllun yn parhau'r tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, pe na bai'n parhau, byddai goblygiadau ariannol i feysydd gwasanaeth eraill o fewn Tai a Chymunedau Mwy Diogel.

·       Soniwyd bod ôl-ddyledion rhent wedi cynyddu o £1.5m ym mis Hydref 2019 i £1.8m ym mis Hydref 2020, a gofynnwyd a fyddai modd eu hadennill a beth oedd y canlyniadau pe na bai'n bosibl gwneud hynny.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai elfen o ôl-ddyledion rhent yn bodoli bob amser o fewn y Cyngor, gan fod tenantiaid yn talu ar ffurf ôl-daliadau. Dyna oedd y sefyllfa ym mhob awdurdod lleol, ac er bod Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa well na rhai awdurdodau eraill, roedd rheoli ôl-ddyledion yn ofalus yn allweddol. Yn Sir Gaerfyrddin, roedd y mesurau hynny'n cynnwys, er enghraifft, ymyrraeth gynnar lle nodwyd y potensial i ôl-ddyledion gronni, cynorthwyo tenantiaid newydd i reoli eu cyllidebau, nodi budd-daliadau cymwys posibl, a sefydlu cronfa atal i annog tenantiaid i dalu ychydig yn ychwanegol bob mis i leihau eu hôl-ddyledion.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr Awdurdod wedi rhagweld y gallai'r pandemig arwain at ôl-ddyledion uwch, a byddai'n ailasesu'r ddarpariaeth dyledion drwg ac ôl-ddyledion yn ei Gynllun Busnes. Fodd bynnag, yr arwyddion cynnar oedd nad oedd effaith ar y Cynllun Busnes.  Yn ogystal, er mwyn cynorthwyo tenantiaid, roedd yr Awdurdod wedi newid ei weithdrefnau gorfodi a bellach yn rhoi 6 mis o rybudd. O'r blaen roedd camau gorfodi wedi cychwyn ar ôl mis o rybudd.

·       Cyfeiriwyd at y mesurau a gyflwynwyd yn ystod y don gyntaf o'r pandemig i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn digartrefedd ar draws y DU, ac at y sefyllfa bresennol lle'r oedd digartrefedd bellach ar gynnydd. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin.


 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd safbwynt y Cyngor wedi newid ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth a bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i fynd i'r afael â digartrefedd yn y sir, yn unol â gofynion cyfreithiol. Ar hyn o bryd roedd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EFFAITH Y PANDEMIG COVID AR WASANAETHAU HAMDDEN Y SIR pdf eicon PDF 592 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ar effaith pandemig Covid-19 ar y Gwasanaethau Hamdden. Roedd yr adroddiad yn amlygu'r newidiadau a'r heriau a wynebir, gan roi diweddariad ar statws pob maes gwasanaeth a rhoi sylw i gamau cyn-covid, cyn tynnu sylw at yr heriau yn y dyfodol i'r gwasanaeth wynebu cwsmeriaid a'r gwasanaeth creu incwm.

 

Roedd Adran 2 yn yr adroddiad yn tynnu sylw at effaith Covid ar y gwasanaethau Hamdden ac yn tynnu sylw at y rheiny oedd wedi:-

 

·       Parhau i weithredu drwy'r pandemig;

·       Cau yn ystod y cyfyngiadau cychwynnol;

·       Ailgychwyn;

·       Aros ar gau;

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar wasanaeth 'clicio a chasglu' y llyfrgell, cadarnhawyd y gellid rhoi gwybod i'r pwyllgor am ystadegau ynghylch faint oedd yn defnyddio'r gwasanaeth

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar effaith y pandemig ar y safle carafannau teithiol ym Mharc Gwledig Pen-bre, er bod effaith wedi bod ar incwm, cadarnhawyd bod llacio'r cyfyngiadau, a'r ffenomenon 'gwyliau gartref' yn y diwydiant twristiaeth, wedi golygu i'r parc ac ardaloedd arfordirol eraill yn y sir fod yn brysurach nag erioed. Roedd ffigurau incwm mis Awst yn uwch na'r blynyddoedd blaenorol.

 

Gan roi sylw penodol i Safle Carafannau Pen-bre, cafodd y Pwyllgor wybod am y mesurau a gyflwynwyd i hwyluso'r broses o'i ailagor, ynghyd â'r angen parhaus i ailasesu'r mesurau hynny


er mwyn sicrhau bod y safle'n ddiogel ac yn cydymffurfio â'r rheolau newydd oedd yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r pandemig.
 Y gobaith oedd y byddai adferiad o ran sefyllfa ariannol y parc yn ystod tymor 2021/22.

·       Mewn ymateb i gwestiynau ar y tri ymweliad safle a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn 2019, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r disgwyl oedd y byddid yn dod i gytundeb gyda'r Cyngor Tref cyn bo hir ynghylch gweithrediad Y Gât, Sanclêr, yn y dyfodol.  Roedd cynllun wedi'i lunio ar gyfer adnewyddu Canolfan Hamdden Sanclêr. Fodd bynnag, o ran ariannu'r gwaith, byddai'n rhaid ei asesu yn erbyn cynlluniau eraill yn rhaglen gyfalaf y Cyngor. Trefnwyd y byddai adroddiad ar Ganolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn yn barod ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr.

·       Cyfeiriwyd at sefyllfa bresennol theatrau ledled y sir, a oedd ar gau o hyd, a cheisiwyd gwybodaeth am ddarparu digwyddiadau theatr byw drwy gyfrwng digidol. Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi trefnu/darparu nifer o berfformiadau'n ddigidol, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu a hyrwyddo'r ddarpariaeth honno ymhellach dros y misoedd nesaf.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelu theatrau yn y dyfodol, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin yn wahanol i ardaloedd awdurdodau lleol eraill gan fod y prif theatrau yn eiddo i'r Cyngor ac yn cael eu rhedeg ganddo. Er bod y theatrau wedi aros ar gau a bod y staff ar ffyrlo, roedd y Cyngor yn gallu hawlio'r incwm a gollwyd gan fod y theatrau wedi cael eu gorfodi i gau. Y gobaith oedd y byddai cyfuniad o lacio rheolau Covid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD DIWEDDARU COVID-19 AR GYFER ADFYWIO. pdf eicon PDF 379 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad, a gyflwynwyd gan Arweinydd y Cyngor (sy'n gyfrifol am Adfywio), ar effaith pandemig Covid-19 ar economi a busnesau Sir Gaerfyrddin ac a nodai'r hyn oedd yn bwysig yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir er mwyn darparu'r cymorth yr oedd ei angen fwyaf arnynt.  Tynnodd yr adroddiad sylw at y mesurau a gymerwyd gan y Cyngor yn yr ymateb brys cychwynnol, ynghyd â'r mesurau a gyflwynwyd/oedd yn cael eu cyflwyno fel rhan o Strategaeth Adfer y Cyngor.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar fenter 'Deg Tref' y Cyngor, cadarnhawyd y byddai ymgyngoriadau ar hynny'n cychwyn yn fuan drwy lwyfannau digidol rhithwir, a byddai'r Cyngor yn cael ei ddiweddaru wrth i'r cynllun fynd rhagddo.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar hyrwyddo Cyngor Sir Gâr, cadarnhawyd y byddai hynny'n digwydd drwy amrywiaeth o lwyfannau cyfryngol yn unol â chynllun cyfathrebu'r Cyngor.


·       Cyfeiriwyd at gostau ariannol y pandemig i'r awdurdod a sut y gallai hynny effeithio ar ei raglen gyfalaf. Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor, er y byddai effaith, fod y rhaglen yn cael ei gwerthuso a'i hail-flaenoriaethu ar hyn o bryd gyda phwyslais ar Ddatblygiad ac Adferiad Economaidd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar gyfraddau diweithdra ar gyfer y gr?p oedran 50+, sicrhawyd y Pwyllgor y byddai rhaglenni adfer y Cyngor yn rhoi sylw i gyfleoedd gwaith i bob gr?p oedran.

·       Cyfeiriwyd at ddarparu sgiliau newydd/uwchsgilio, yn enwedig sgiliau digidol ar gyfer y gweithlu h?n, a pha fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i ddiwallu eu hanghenion.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai un o brif themâu Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe oedd y Fenter Sgiliau a Thalent sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd, yr oedd y Cyngor yn arwain arni, lle roedd yr ethos ar ailsgilio ac uwchsgilio, a fyddai'n helpu i wella sgiliau'r gweithlu ar draws y rhanbarth. Yn ddiweddar roedd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig hefyd wedi cymeradwyo cyflwyno Cynllun Pentre Awel y Cyngor i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai hynny'n creu tua 2,000 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf ar draws pob gr?p oedran yn rhanbarth y fargen ddinesig. Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor hefyd yn targedu creu swyddi fel prif thema.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y Fenter Sgiliau a Thalent yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a hyfforddiant ar sail ranbarthol mewn partneriaethau, a byddai'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr addysg gan gynnwys Coleg Sir Gâr yn hynny o beth. Er sylweddoli bod sgiliau digidol pobl yn amrywio, byddai'r Cyngor hefyd yn ail-gyflwyno staff cyflogadwyedd i'w ganolfannau hwb cyn hir ar ddydd Mawrth a dydd Iau i gynorthwyo pobl, drwy apwyntiad, i gyrchu gwybodaeth ddigidol.

 

Dywedodd hefyd fod 'lleoliaeth' yn bwysig o ran cynorthwyo adferiad economaidd, ac roedd y Cyngor yn edrych ar ei brosesau caffael i weld y ffordd orau y gallai'r economi leol elwa drwy ddarparu nwyddau a gwasanaethau iddo. Amcangyfrifwyd pe bai'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2019/20 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2019/20 i'w ystyried. Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a'i fod yn rhoi trosolwg o'r rhaglen waith a'r materion allweddol dan sylw, gan gynnwys hefyd unrhyw faterion a gyfeiriwyd at neu gan y Bwrdd Gweithredol, adolygiadau Gorchwyl a Gorffen a sesiynau datblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU AC ADFYWIO AR GYFER 2020/21 pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2020/21 a oedd yn nodi materion ac adroddiadau i'w hystyried yn ystod blwyddyn y cyngor mewn perthynas â'r cyfnod Tachwedd 2020-Ebrill 2021. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith drafft 2020/21.

 

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau