Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, H. Shepardson a G.B. Thomas

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod ar 23 Ionawr 2019 [gweler cofnod 5], wedi cymeradwyo cynnydd cyfartalog arfaethedig o 2.4% mewn rhenti tai ar gyfer 2019/20 i'w gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol. Dywedwyd yn dilyn y penderfyniad hwnnw, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diwygiad i'w Pholisi Tai Cymdeithasol Interim ar 30 Ionawr ac, o ganlyniad, bod cynnig diwygiedig wedi cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol i leihau'r cynnydd cyfartalog mewn rhenti o 2.4%, sef yr hyn a argymhellwyd, i 1.92%, a bod y rhenti hynny sy'n is na'r rhenti targed yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos. Gan fod y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo'r cynnig hwnnw i'r Cyngor ei ystyried, ailymgynghorid â'r Pwyllgor Craffu Cymunedau ynghylch y cynnig cyn iddo gael ei drafod gan y Cyngor ar 20 Chwefror.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnydd diwygiedig mewn rhenti tai ar gyfer 2019/20, fel y cynigiwyd gan y Bwrdd Gweithredol ac fel yr amlinellwyd isod, yn cael ei gymeradwyo:-

 

“bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru [diwygiwyd 30 Ionawr, 2019] h.y.:-

·        Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y rhenti targed;

·        Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed;

·        Bod cynnydd o 1.92% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhenti targed a'u bod yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf;

 

gan felly gynhyrchu cynnydd o 2.4% neu £2.05 mewn rhent tai cyfartalog a bydd yn darparu'r un gwerth casglu rhent cyffredinol i'r Cyfrif Tai.”

 

5.

CYFLWYNO'R RHAGLEN CREDYD CYNHWYSOL LAWN YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad trosolwg ynghylch y cymorth a ddarperir gan y Cyngor, ei bartneriaid a'i randdeiliaid, i breswylwyr Sir Gaerfyrddin yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin ar 12 Rhagfyr 2018 h.y.:-

 

·        Cymorth ar gyfer Tenantiaid y Cyngor;

·        Cymorth ar gyfer Hawlwyr Budd-dal Tai;

·        O Ebrill 2019 bydd y contract ar gyfer Cymorth Digidol a chyllidebu personol yn cael ei drosglwyddo i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth;

·        Cymorth mewn perthynas â chamfanteisio ariannol drwy Safonau Masnach;

·        Cyfeirio pobl at gymorth drwy 'Yr Hwb’;

·        Cymorth ar gyfer Cyn-filwyr.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod 700 o breswylwyr yn y Sir wedi trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol hyd yn hyn, a bod 200 o'r rhain yn denantiaid y Cyngor. Er bod y Llywodraeth wedi cynnig rhaglen reoledig dorfol i symud pobl i Gredyd Cynhwysol, ni fyddai hynny'n dechrau bellach hyd nes bod canlyniadau "rhaglen symud reoledig" beilot yn hysbys a fyddai'n dechrau ym mis Gorffennaf 2019, er ei bod yn cynnwys dim ond 10,000 o hawlwyr mewn awdurdodau lleol yn Lloegr. Fodd bynnag, roeddent yn rhagweld y byddai'r rhaglen symud reoledig lawn yn cael ei chwblhau o hyd erbyn Rhagfyr 2023.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rhoi cymorth digidol i hawlwyr budd-daliadau, dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau a'r Dreth Gyngor er y rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai'r cymorth hwnnw yn cael ei ddarparu drwy wasanaeth llyfrgelloedd y Cyngor , ni fyddai hynny'n digwydd bellach o 1 Ebrill, 2019 yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i ddyfarnu'r Contract Cyllidebu Personol a Chymorth Digidol i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Fodd bynnag, petai aelod o'r cyhoedd yn gofyn am Gymorth Digidol yn un o lyfrgelloedd y Cyngor hyd at 31 Mawrth, 2019 byddai'r cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu ar y cyd â'r Adain Budd-daliadau.

·        Cyfeiriwyd at ddyfarnu'r contract Cymorth Digidol a pha effaith y gallai hynny ei chael ar berthynas a chysylltiadau'r Cyngor â'r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cwrdd â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i roi cynllun ar waith i roi cymorth cyfannol i hawlwyr Credyd Cynhwysol. Er y byddai'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth hyd at daliad llawn cyntaf Credyd Cynhwysol yn unig, byddai'r Cyngor yn parhau i ddarparu amrywiaeth o gymorth, er enghraifft cyllidebu personol a Thaliadau Tai yn ôl Disgresiwn.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gweithredu 'Porth Landlordiaid Dibynadwy' a chyn gynted ag y rhoddir gwybod bod un o denantiaid landlord yn trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol byddai swyddog tai yn cysylltu ag ef/hi i gynnig cyngor a chymorth. Byddai hynny ar ffurf galwad ffôn ac ymweliad cartref, os bydd angen, lle y gellid darparu cymorth digidol heb fod angen cyfeirio rhywun at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

·        Cyfeiriodd yr adroddiad at 160 o denantiaid y Cyngor sy'n cael Credyd Cynhwysol, a oedd wedyn yn cynyddu i 200 o denantiaid. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oeddent wedi dod ar draws unrhyw anhawster o ran y system newydd.

 

Dywedwyd, er mwyn paratoi ar gyfer y dyddiad trosglwyddo ar 12  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLI DIOGELWCH TÂN MEWN TAI GWARCHOD A BLOCIAU O FFLATIAU ANGHENION CYFFREDINOL pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 6.1 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr, 2018 cafodd y Pwyllgor adroddiad trosolwg ynghylch diogelwch tân o ran stoc tai gwarchod ac anghenion cyffredinol y Cyngor.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at y tân diweddar yn Nh?r Grenfell a'r cyngor a roddwyd ar y pryd i denantiaid aros yn eu fflatiau. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd asesydd risg tân y Cyngor wedi argymell yr un strategaeth ar gyfer stoc y Cyngor.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn gosod systemau rhybudd cynnar yn ei holl eiddo preswyl priodol ar hyn o bryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu symud o'r eiddo cyn gynted â phosibl. Nodwyd bod system ar waith mewn canolfannau tai gwarchod sy'n cynnwys cymysgedd o drefniadau o ran gadael yr adeilad ac aros yno h.y. symud i le diogel ar y safle, lolfa fel arfer, ac aros yno hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol. Petai tân yn yr ardal honno, byddai pobl yn cael eu symud i'r tu allan yn uniongyrchol.

           

   Mewn perthynas â blociau o fflatiau, cawsant eu dylunio ar yr egwyddor 'aros yn yr unfan' a oedd yn dibynnu ar adrannu'r fflatiau. Petai hynny'n methu, a'r tân yn ymledu, byddai angen gwacáu'r adeilad yn llawn.

·        Cadarnhawyd bod y rhan fwyaf o'r larymau tân yn stoc tai'r Cyngor yn synwyryddion carbon monocsid, mwg a gwres gwifredig. Er bod nifer fach o denantiaid wedi gwrthod y gwaith hwnnw, roedd yr adran yn cydgysylltu â nhw ar hyn o bryd i fynnu bod y larymau yn cael eu gosod.

·        Cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei wneud i gyhoeddi taflen wybodaeth ynghylch tân ar gyfer tenantiaid ac y gallai swyddogion ystyried a fyddai modd cynnwys y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau yn ystod y cyfarfod e.e. atgoffa tenantiaid i gofrestru offer trydanol â'r gweithgynhyrchwyr, prynu yswiriant cynnwys cartref a gadael allweddi mewn lle hawdd ei gyrraedd i helpu i adael yr adeilad yn hwylus os bydd tân.

·        Cadarnhawyd er bod y Cyngor yn cynnal 'Profion Offer Cludadwy' ar offer trydanol yr oedd yn ei ddarparu yn ei ganolfannau tai gwarchod / preswyl ac ati, na fyddai modd ymestyn hynny i gynnwys profion ar gyfer offer trydanol personol tenantiaid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 42 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 28 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 28 Mawrth, 2019.

 

9.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23AIN IONAWR 2019 pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau