Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio - Dydd Gwener, 21ain Medi, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Cundy, S. Matthews, H. Shepardson a G. Thomas.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddigwyddiad beicio Taith Prydain diweddar, a ddechreuodd ym Mharc Pen-bre gyda'r Grand Depart, ac estynnodd ei gwerthfawrogiad i bawb a gyfranogodd at sicrhau ei lwyddiant gan gynnwys swyddogion y Cyngor, y beicwyr, y gwylwyr a'r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Cafwyd y datganiadau canlynol o fuddiant personol:-

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A Davies

5- Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 - Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a Fabwysiadwyd

Mae wedi cyflwyno cais i gynnwys safle yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.

A Vaughan-Owen

5- Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 - Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a Fabwysiadwyd

Mae perthynas wedi cyflwyno cais i gynnwys safle yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

Y PWYLLGOR CRAFFU - CYMUNEDAU ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN 2014/15 - DIWEDDARIAD - EIDDO GWAG YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r drafodaeth a gafwyd yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2018, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad PowerPoint am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen blaenorol yn 2014/15 ynghylch Eiddo Gwag yn Sir Gaerfyrddin, a oedd â'r prif nod o gyflawni'r canlynol:-

Ø  Nodi a gwerthuso'r gweithgareddau presennol a wneir gan yr Is-adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd;

Ø  Nodi gwelliannau posibl a modelau darparu eraill;

Ø  Llunio argymhellion i'w hystyried gan y Bwrdd Gweithredol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod y cyflwyniad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn am y costau atgyweirio o £49k i un eiddo a nodir yn yr adroddiad, amlinellodd y Cydgysylltydd Eiddo Gwag lefel y gwaith a wnaed yn yr eiddo dan sylw a dywedodd, er y gall wedi bod yn bosibl i unigolyn preifat gomisiynu'r rheiny ar gyfradd is, fod y Cyngor wedi llunio fframwaith contractwyr a Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau i'w defnyddio/dilyn wrth ddyfarnu contractau ar gyfer gwaith. Nodwyd bod Fframwaith Contractwyr y Cyngor wedi bod yn destun proses dendro gystadleuol a sicrhawyd bod y costau mor isel â phosibl.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am yr incwm Adran 106 posibl a ddefnyddir i adnewyddu eiddo gwag, dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y broses o ddyrannu'r incwm hwnnw yn amodol ar gyflwyno achos busnes. Os yw hynny'n llwyddiannus, mae'n rhaid defnyddio'r arian yn unol â pholisi'r Cyngor er mwyn prynu tai mewn ardaloedd lle mae angen.

·        O ran cwestiwn am ddefnyddio'r asiantaeth Gosod Syml, cadarnhawyd ei bod wedi'i sefydlu, a'i bod yn cael ei gweithredu gan y Cyngor i gynorthwyo darpar denantiaid i gael tenantiaethau. Hefyd, roedd yn hyrwyddo'r ethos o helpu pobl i helpu eu hunain drwy eu cyfeirio at asiantaethau gosod eraill.

·        Cyfeiriwyd at yr amserau amrywiol y gallai tai fod yn wag, sy'n amrywio o ychydig fisoedd i nifer o flynyddoedd a gofynnwyd a oedd unrhyw gymhellion ar gael i'r Cyngor annog perchenogion tai i leihau'r amser hwnnw, er enghraifft, drwy'r dreth gyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod y posibilrwydd hwnnw wedi'i drafod, roedd barn y gallai arwain at leihad yn refeniw'r dreth gyngor ar gyfer yr awdurdod, yn enwedig yn y tymor byr. Fodd bynnag, rhoddodd sicrwydd fod trafodaethau'n cael eu cynnal yn barhaus er mwyn nodi'r ffyrdd o leihau'r amserau hynny.

·        Mewn ymateb i gwestiwn am Fenthyciadau Gwella Cartrefi a'r Cynllun Troi Tai'n Gartrefi, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cael grantiau gan Lywodraeth Cymru gwerth cyfanswm o £1.9m, dros dri cham, a fydd yn galluogi 70 o eiddo i gael eu hadnewyddu. Mae pob benthyciad yn cael ei roi yn amodol ar gael ei ad-dalu o fewn cyfnod o 2 flynedd ac mae bron £1m wedi'i ad-dalu i'r gronfa hyd yn hyn, sydd wedi'i ailddefnyddio i roi mwy o fenthyciadau.

·       Fel rhan o'i ymchwiliadau, ymwelodd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen ag oddeutu 10 eiddo, a chadarnhawyd bod pob un ohonynt heblaw am y 4 y manylwyd arnynt yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2017/18 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018. Hwn oedd y trydydd adroddiad o'r fath a luniwyd yn unol â gofyniad Tabl y Fframwaith Perfformiad Cynllunio, ac yr oedd rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn i'w werthuso'n unol â'r dangosyddion a'r targedau a bennwyd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at yr arfer o 'bancio tir' lle gadawyd tir heb ei ddatblygu am nifer fawr o flynyddoedd, gan gynyddu ei werth ar gyfer ei berchenogion. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a allai'r adolygiad presennol o'r Cynllun Datblygu Lleol roi sylw i'r arfer hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y bydd caniatâd cynllunio'n ddilys am byth lle bo'r caniatâd hwnnw wedi'i roi a'r gwaith datblygu wedi dechrau. Fodd bynnag, lle bo safleoedd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol, ond heb gael eu symud ymlaen, a chafwyd ceisiadau i'w cynnwys yn y Cynllun diwygiedig, byddai rhaid i ddatblygwyr ddangos bod modd cyflawni eu datblygiad. Ni fyddai mynegi dymuniad i ddatblygu bellach yn ddigon. Os nad yw'r datblygwr yn dangos hyn, roedd posibilrwydd na fydd tir a gafodd ei gynnwys yn y cynlluniau blaenorol yn cael ei gynnwys i'w ddyrannu yn y Cynllun diwygiedig. Hynny yw, nid oedd safleoedd a ddyrennir yn bresennol yn cael eu hailgynnwys yn awtomatig, ac nad oedd sicrwydd o'u cynnwys o ran y CDLl diwygiedig.

 

·        Cyfeiriwyd at egwyddorion y CDLl diwygiedig o ran hyrwyddo cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy drwy hwyluso'r gwaith o greu cymunedau ac economïau lleol drwy roi mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol a lleihau'r angen am deithio. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r egwyddorion hynny'n cyd-fynd â chynlluniau datblygu eraill y sector cyhoeddus, er enghraifft, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio ei bod yn bwysig sicrhau bod y seilwaith priodol ar waith er mwyn cyflawni'r ethos cynaliadwy fel rhan o gynllun yr adolygiad, lle bynnag y bo'n bosibl. Fel rhan o'r broses honno, byddai'r Adran yn ymgynghori â'r holl brif bartneriaid megis y Bwrdd Iechyd a Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cael adborth ynghylch cynigion y cynllun.

·        Cyfeiriwyd at yr angen i adfywio economïau gwledig a gofynnwyd a oes cwmpas yn y CDLl diwygiedig i ofyn i gwmnïau seilwaith ddefnyddio traciau rheilffordd a adawyd i ddarparu cyfleusterau megis cyfathrebu ffeibr optig. Gellid defnyddio'r traciau hyn hefyd i gynyddu nifer y llwybrau beicio yn y sir.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod defnyddio hen draciau rheilffordd wedi'i ystyried yn flaenorol ac y gellid ei ailystyried fel rhan o'r broses adolygu, er na allai'r Cyngor roi gorchmynion i ddarparwyr seilwaith wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR fod y trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a'i argymhellion, yn cael ei gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A CHANMOLIAETH 2017/18 pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol y Cyngor ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 2017/18 gan dalu sylw penodol i Adrannau 9.4 a 9.6 a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y canlynol:-

·       nifer y cwynion yr ymchwiliwyd ac ymatebwyd iddynt rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 fesul adran,

·        ystadegau o ran negeseuon a gafwyd gan y Tîm Cwynion, ac a ailgyfeiriwyd. Roedd y rheiny'n ymwneud ag ymholiadau a cheisiadau am gymorth a oedd, ar ôl cael ei gyflwyno, yn cynnig cyfle i geisio datrys anawsterau cyn i g?ynion gael eu cyflwyno,

·       cwynion ynghylch unrhyw faterion o ran cydraddoldeb neu'r iaith Gymraeg,

·       cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt,

·       dadansoddiad o g?ynion a chanmoliaeth fesul adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer 2017/18.

 

 

7.

PWYLLGOR CRAFFU - CYMUNEDAU GRWP GORCHWYL A GORFFEN 2018/19 pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi penderfynu sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018 er mwyn archwilio'r Ddarpariaeth o Fyngalos Fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin ac er mwyn ceisio enwebiadau gan grwpiau gwleidyddol y Cyngor i aelodau'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau wasanaethu ar y Gr?p hwnnw. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau canlynol a ddaeth i law:-

 

3 - Gr?p Plaid Cymru

Y Cynghorwyr Gareth Thomas, Jeanette Gilasbey a Betsan Jones

 

2 - Gr?p Llafur

Y Cynghorwyr Deryk Cundy a Sharen Davies

 

1 - Y Gr?p Annibynnol

Y Cynghorydd Irfon Jones

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhai a enwebwyd uchod a phenodi'r aelodau i wasanaethu ar Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ynghylch Byngalos Fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 4 Hydref 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 4 Hydref 2018.

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

10.

LLOFNODI YN GOFNODAU CYWIR COFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 25AIN MEHEFIN, 2018 pdf eicon PDF 275 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.