Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Cundy a H. Shepardson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

S. Davies

 

4 - Diweddariad - Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli;

Wedi'i chyflogi gan y GIG;

J. Edmunds

 

5 – Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a phennu rhent tai ar gyfer 2018/19;

Mae'n landlord preifat;

A. Vaughan Owen

7 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2018/19;

Deiliad Trwydded ar gyfer Neuadd Chwaraeon y Gwendraeth.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

DIWEDDARIAD - PENTREF GWYDDOR BYWYD A LLESIANT LLANELLI pdf eicon PDF 353 KB

Cofnodion:

Yngl?n â datganiad safbwynt y Prif Weithredwr ynghylch Pentref Llesiant Llanelli i'r Cyngor ar 12 Rhagfyr 2019 [gweler cofnod 3], rhoddodd y Pwyllgor ystyried i adroddiad a oedd â'r nod o roi rhagor o sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu Prosiect y Pentref, yn ystod y broses gaffael ac ar ôl llofnodi'r Cytundeb Cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings Limited. Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

·         Cynnydd Achos Busnes y Fargen Ddinesig;

·         Statws y pedwar adolygiad a oedd wedi dechrau a darpariaeth prosiect y Pentref;

·         Sicrwydd, drwy adolygiad cyfreithiol, y cynhaliwyd proses graffu gadarn;

·         Sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu'r prosiect;

·         Terfynu'r Cytundeb Cydweithio.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai canfyddiadau'r adolygiadau hyn yn cael eu rhannu ar ôl iddynt gael eu cwblhau. Yn ogystal, er bod y Cytundeb Cydweithio wedi'i derfynu, nodwyd bod angen perthynas waith gyda Phrifysgol Abertawe, a bod hwnnw yn parhau er mwyn sicrhau y gellir cael y buddion gorau. Mae'r prosiect yn parhau i wneud cynnydd, a'r nod yw cwblhau cam un o'r Pentref yn 2021.

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Gan ymateb i gwestiwn, pwysleisiwyd bod Adolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei gynnal ar gais y Cyngor;

·         Yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer y Datblygiad Llesiant a Gwyddor Bywyd, nodwyd bod gwerth y tir wedi cynyddu ac felly roedd buddsoddiad yr Awdurdod hyd yn hyn yn ddiogel;

·         Mynegwyd pryder y gellid peryglu'r 700 o leoedd is-raddedigion yr amcangyfrifir y bydd ar gael erbyn 2020 os byddai Prifysgol Abertawe yn ailystyried ei rhan yn y cynllun. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gobeithio y byddai rôl Prifysgol Abertawe yn y prosiect yn parhau. Byddai'r Awdurdod, fodd bynnag, yn barod i drafod modd arall o gyflawni'r prosiect pe byddai Prifysgol Abertawe yn ailystyried ei rhan; 

·         Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau nad oedd unrhyw berygl o lifogydd yn gysylltiedig â'r safle;

·         Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod nifer o sefydliadau ariannol wedi mynegi diddordeb yn y prosiect a byddai'r rhain yn cael sylw ar ôl i adolygiad annibynnol o'r Achos Busnes gael ei gwblhau a'i gyhoeddi; 

·         Atgoffwyd y Pwyllgor am yr elfennau hamdden a chymorth byw sydd wedi'u cynnwys yn y prosiect, yr oedd yna ddarpariaeth yn y rhaglen gyfalaf ar eu cyfer; 

·         Mewn ymateb i sylw, soniodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi am fanteision posibl yr hyn a ystyrir yn brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol i Sir Gaerfyrddin gyfan a thu hwnt.

Diolchwyd i'r swyddogion am y diweddariad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Yr oedd y Cynghorydd J. Edmunds wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, a nodai'r holl gynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2019/2020. Byddid yn cyflwyno'r adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ar 4 Chwefror 2019.

 

Er bod y Cyngor Sir wedi cymeradwyo rhoi'r Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol ar waith yn 2015, gan sicrhau cysondeb am 5 mlynedd, daeth hwn i ben yn 2018/19.  Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/2020 wrth ddisgwyl canlyniadau yr Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy. Dylai hyn arwain at ddatblygu polisi newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn 2020/21. Roedd y polisi interim yn galluogi awdurdodau lleol o fewn eu band rhent targed i godi rhent drwy MPD yn unig (roedd y Cyngor Sir ar y pryd hwnnw o fewn y band rhent targed o ychydig). Hysbyswyd mai 2.4% fyddai'r cynnydd o ran y rhent targed ar gyfer 2019/20. Roedd y gallu i gynyddu rhent ar gyfer yr eiddo hynny oedd yn is na'r rhent targed sef uchafswm cynnydd o £2 yr wythnos hyd nes y cyrhaeddwyd y rhent targed, wedi'i ddileu oni bai y byddai'r rhent cyfartalog cyfredol yn is na'r band rhent targed.

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch yr angen i helpu pobl i osgoi mynd i ddyled, cyfeiriodd y Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel at y gwaith o ddatblygu gwasanaeth cyn-denantiaeth er mwyn gallu rheoli tenantiaethau yn well.  Rhoddwyd sicrwydd i aelodau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gynnal tenantiaeth a bod y gyfradd troi allan wedi lleihau'n sylweddol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a'r cynigion canlynol i'w cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol:-

 

5.1 Cynyddu rhent tai cyfartalog yn unol â Pholisi Interim Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:

 

·         Bydd cynydd o 2.4% yn berthnasol i eiddo 'rhent targed'

·         Bydd y rhent hwnnw sy'n uwch na'r targed yn cael ei rewi hyd nes ei fod yn unol â'r targed;

 

gan arwain felly at gynnydd yn y rhent cyfartalog o 2.4% neu £2.05 a fydd yn llunio Cynllun Busnes cynaliadwy sy'n cynnal STSG+ ac yn darparu adnoddau i'r rhaglen Tai Fforddiadwy, fel y cefnogir gan Gr?p Llywio STSG+;

 

5.2 Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

 

5.3 Rhoi'r polisi taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael budd o wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

 

5.4 Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gweithfeydd trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhent.

 

6.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2019-2022 pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2018-21, a oedd â phwrpas triphlyg. Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, ar sail y rhagdybiaethau presennol ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd nesaf ac yn drydydd, lluniai gynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2018/19, a oedd yn cyfateb i £6.1 miliwn.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Gan ymateb i sylw, dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y dylai nifer yr eiddo gwag leihau dros y 6-12 mis nesaf;

·         Dywedwyd bod angen gwneud prynwyr cartrefi fforddiadwy yn fwy ymwybodol o'r amodau

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL:

·         bod gweledigaeth STSG+, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ariannol ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau;

·         bod y bwriad i gyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2018/19 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Hydref 2018. Nodwyd bod y gyllideb refeniw yn dangos amrywiant net o £243k a bod Gwasanaeth Tai y Cyfrif Refeniw Tai yn dangos amrywiant o £269k o gymharu â chyllidebau cymeradwy 2018/19. Dangosai'r rhaglen gyfalaf amrywiant o -£1,580k o gymharu â chyllideb gymeradwy 2018/19. 

 

Mewn ymateb i'r pryderon niferus ynghylch diffyg gweithredol ar gyfer Canolfan Hamdden Sanclêr, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden fod yr adran yn datblygu arfarniad ynghylch opsiynau ar gyfer y ganolfan gyda golwg ar gynyddu refeniw/cyfraddau cyfranogi ond bod angen buddsoddi'n sylweddol yn y cyfleuster.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

 

8.

EIN DULL O RAN CYNNWYS TENANTIAID pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar ddatblygu dull newydd o gynnwys tenantiaid drwy herio'r ffordd y mae'r Awdurdod yn darparu gwasanaethau a'i gwneud yn haws iddynt gymryd rhan. Er mwyn cynorthwyo i ddatblygu'r cynllun cyfranogiad tenantiaid newydd, comisiynwyd TPAS Cymru [Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid] i gynnal adolygiad sylfaenol o gyfranogiad tenantiaid ac ymgysylltiad preswylwyr. Roedd yr adolygiad wedi rhoi sylw i ddull presennol yr Awdurdod a herio a oedd ein cynlluniau presennol yn unol â'r arferion gorau, ac a oedd gweithgareddau cyfranogi wedi llwyddo i annog tenantiaid i gymryd rhan. Fel rhan o'r adroddiad, gofynnwyd i TPAS ymgynghori â thenantiaid, gofyn am eu barn, ac awgrymu'r meysydd yr oedd angen i'r Awdurdod ganolbwyntio arnynt.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddent bob amser yn cyfathrebu â thenantiaid yn eu dull dewisol, boed yn ddigidol neu ar bapur.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Cynllun Cynnwys Tenantiaid yn cael ei gymeradwyo.

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 44 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno tri adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 14 Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 14 Chwefror 2019.

 

11.

COFNODION

11.1

23AIN TACHWEDD, 2018 pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018 yn gywir.

 

11.2

13EG RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau