Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H. Davies a H. Shepardson.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S. Matthews

5 – Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2018/19

Mae'n breswylydd yn Nhai Gwarchod y Cyngor

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI 2018/19 – REFENIW A CHYFALAF pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Lefelau'r Rhenti Tai ar gyfer 2018/19 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb. Roedd yn tynnu ynghyd y cynigion diweddaraf a gynhwyswyd yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn Ymrwymiad yr Awdurdod i Dai Fforddiadwy. 

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o'r blaen, gyda golwg ar symud ymlaen i'r rhent targed pwynt canol. Ar gyfer 2018/19 roedd Llywodraeth Cymru wedi hysbysu awdurdodau lleol mai'r Mynegai Prisiau Defnyddiwr, sef 3%, fydd y cynnydd o ran rhent targed, ynghyd â 1.5%, gan greu cyfanswm o 4.5%. Ar gyfer y rheiny o dan y rhent targed byddai cynnydd o hyd at £2 yr wythnos yn cael ei weithredu hyd nes y bydd y rhent targed wedi'i gyrraedd, gan gyfateb i gynnydd o 5.49% i denantiaid y Cyngor. Fodd bynnag, er nad oedd y polisi hwnnw wedi newid, roedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cam anarferol o ddweud wrth awdurdodau lleol y byddai'n syniad iddynt ddefnyddio opsiwn is ar gyfer 2018/19, oherwydd bod y Mynegai Prisiau Defnyddiwr o 3% yn gymharol uchel. 

 

O gofio'r sylw hwn gan Lywodraeth Cymru, a chan gydnabod y pwysau ariannol ar aelwydydd am nad yw codiadau cyflog wedi bod yn cyfateb â'r twf mewn chwyddiant, cynigiwyd bod yr Awdurdod yn codi ei rent i'r graddau lleiaf posib ar gyfer 2018/19, gan ddefnyddio'r hyblygrwydd a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru a chan gydymffurfio â'i pholisi hi o ran band rhent targed. Pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig hwnnw byddai'n golygu y byddai'r rhent yn cael ei bennu ar y lefel isaf posib, sef cynnydd o 3.5% i bob tenant yn ogystal â chynnydd gostyngedig o £1.62 i greu rhent cyfartalog o £85.27, gan arwain at gynnydd o 4.34% neu £3.55.  

 

Os byddai'r Pwyllgor yn penderfynu cymeradwyo argymhellion yr adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y dylai nodi, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol pan gynyddwyd rhenti garejis/sylfeini garejis, nad yw strategaeth gyfredol y gyllideb yn cynnwys unrhyw gynigion i'w cynyddu yn 2018/19.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.5% ar gyfer pob tenant, a chynnydd uwch na hynny ar gyfer rhai, yn arwain at daliadau uwch ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2018-21 pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2018-21, a oedd â phwrpas triphlyg.  Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, ar sail y rhagdybiaethau presennol ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd nesaf ac yn drydydd, lluniai gynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2018/19, a oedd yn cyfateb i £6.1 miliwn.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch faint o gymorth a roddid i denantiaid o dan y pwynt bwled canlynol, “Rhoi pwyslais ar ddarparu mwy o gyngor a chymorth i denantiaid i reoli eu cyllidebau misol. Byddwn yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i helpu tenantiaid i ymdopi â'r newid diwylliannol a ddaw yn sgil Credyd Cynhwysol, a lliniaru'r effaith cymaint ag y gallwn”.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y Cyngor wedi tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai rhai o'i denantiaid wynebu trafferthion ariannol dros y 18 mis nesaf o ganlyniad i gyflwyno'r Credyd Cynhwysol. O ganlyniad, cyflwynwyd mesurau i geisio lliniaru ei effaith ar denantiaid a oedd yn cynnwys, er enghraifft:

 

-       gweithio gyda'r Asiantaeth Budd-daliadau a thîm Budd-daliadau'r Cyngor i dargedu'r tenantiaid hynny oedd yn fwyaf tebygol o gael trafferthion ariannol.

-       Cyflwyno trafodaethau cyn tenantiaeth i sicrhau bod darpar denantiaid wedi'u paratoi ar gyfer cael tenantiaeth

-       Mabwysiadu Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol

-       Buddsoddi mewn meddalwedd i nodi a thargedu'r tenantiaid y bernid eu bod yn fwy tebygol o fod mewn perygl ac i roi cymorth priodol iddynt.

 

Er bod y Cyngor wedi cydnabod a chyflwyno gwahanol fesurau i helpu tenantiaid yr effeithir arnynt gan Gredyd Cynhwysol, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai un maes a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor oedd agwedd posibl y sector preifat, gyda phosibilrwydd y byddai rhai landlordiaid yn gwrthod derbyn tenantiaid a oedd yn cael y Credyd Cynhwysol. Un ffordd bosibl o fynd i'r afael â hynny oedd y byddai'r Cyngor yn rheoli cartrefi sector preifat ar ran landlordiaid.

 

Cafodd y pryderon hyn eu hadlewyrchu yng Nghynllun Busnes y Cyngor.

 

·         Tynnwyd sylw at ddatganiad yn yr adroddiad ynghylch sefydlu cwmni tai lleol a oedd yn cyfeirio at ddarparu cymysgedd o dai fforddiadwy newydd i'w prynu neu i'w rhentu. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y datganiad hwnnw a oedd yn mynd yn groes i bolisi presennol y Cyngor o beidio gwerthu tai cyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod polisi'r Cyngor yn gwahardd gwerthu unrhyw un o blith y 9,000+ o dai ac eiddo a oedd yn berchen iddo ar hyn o bryd, ac nad oedd y polisi hwnnw wedi newid. Roedd y datganiad uchod yn cyfeirio at sefydlu'r cwmni tai lleol arfaethedig fel cyfrwng i hwyluso'r gwaith o adeiladu tai o safon yn Sir Gaerfyrddin, a hynny drwy  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol 2016/17 Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn gosod dyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i ‘ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol’ ac ar Weinidogion Cymru i  ‘oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella’ gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.  Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei asesiad o ffurflen flynyddol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2016/2017, a bodlonodd Sir Gaerfyrddin bob un o'r 18 hawliad craidd yn llawn. Ar ben hynny, o blith y saith dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni chwech yn llawn a'r llall wedi'i fodloni'n rhannol. Roedd hwnnw'n ymwneud â lefelau staffio ar 31 Mawrth 2017 pan oedd gan y gwasanaeth bum swydd wag, ond eir i'r afael â'r rheiny.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i ddatganiad a wnaed ynghylch rhai anawsterau gyda chyflwyno fflyd gerbydau newydd y llyfrgell deithiol, dywedodd Uwch-reolwr y Gwasanaethau Diwylliannol fod y gwasanaeth wedi ymaddasu yn dilyn cyflwyno'r fflyd. Roedd adolygiad wrthi'n cael ei gynnal ar ei waith gyda golwg ar gyflwyno newidiadau priodol a allai gynnwys pa mor aml yr ymwelir â gwahanol gymunedau a lleoliad y cerbydau er mwyn cael y gwasanaeth band eang gorau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

LEFELAU SALWCH YMYSG STAFF pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 8 o'i gyfarfod ar 5 Hydref 2017, cafodd y Pwyllgor gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, parthed y pryderon am y cynnydd a welwyd o ran lefelau salwch staff yr Awdurdod. Cofnododd y cofnodion hynny fod y Pwyllgor hwnnw, yn yr un cyfarfod, wedi ystyried adroddiad ar reoli salwch a oedd yn rhoi'r ffigurau ar gyfer absenoldeb salwch yn yr ail chwarter ynghyd â thablau meincnodi a safleoedd perfformiad, a dadansoddiad o'r prif resymau am absenoldeb.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod y rheolwyr yn cael eu herio'n rheolaidd ynghylch sut maent yn rheoli lefelau salwch a'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â hynny. Roedd hyn yn cynnwys cydweithio'n agos ag is-adran Adnoddau Dynol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 29 Mawrth 2018. Cyfeiriwyd at sylwadau cynharaf y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel yng Nghofnod 6, ynghylch bod yr Awdurdod yn mabwysiadu Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol, ac awgrymwyd bod copi ohono yn cael ei roi gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 29 Mawrth 2018 yn amodol ar gynnwys y Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol.

 

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

11.

24AIN TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 349 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2017 yn gywir.

 

12.

14EG RHAGFYR 2017 pdf eicon PDF 293 KB

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at Gofnod 7 o'r cyfarfod uchod ynghylch Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2018/19 – 2021 ac at ddatganiad y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi ynghylch hyrwyddo'r Gymraeg ar safleoedd datblygu. Mynegwyd y farn y dylid ymhelaethu'r cofnod drwy gynnwys y paragraff ychwanegol hwn:

 

‘Cydnabu'r Cyfarwyddwr y gallai Cyngor Sir Caerfyrddin wneud mwy i annog y sector preifat i fod yn ddwyieithog ac adlewyrchu iaith y sir a'i bod hi'n ymrwymo i sicrhau fod pob adran yn cydweithio'n agos â'i gilydd ac â sefydliadau allanol i hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat yn Sir Gaerfyrddin’.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2017 yn gywir, yn amodol ar y newid uchod.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau