Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Cundy, H. Davies a S. Matthews.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

5.

CYNLLUN BUSNES FFORWM LLEOL CYMRU GYDNERTH pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar weithrediad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a roddai drosolwg ar ei weithrediad, drwy'r broses cynllunio busnes, ynghyd â dealltwriaeth o Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 a goblygiadau hynny ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yn cynnwys esboniad o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys a rôl y cyngor ynddo, a hefyd yn ystyried y risgiau a'r bygythiadau a allai effeithio ar ardal Dyfed-Powys a sut oedd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn anelu at liniaru'r rheini.

 

Amlinellodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil gefndir y Ddeddf Argyfyngau Sifil a dywedodd ei bod yn diffinio argyfwng mewn tair ffordd:-

-        Digwyddiad sy'n bygwth niwed difrifol i Les Dynol rhywle yn y DU.

-        Digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i'r Amgylchedd rhywle yn y DU.

-        Rhyfel neu Derfysgaeth sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch y DU.

O ganlyniad i'r Ddeddf honno, rhaid i'r asiantaethau ymatebol ffurfio Fforymau wedi eu seilio ar ffiniau Heddluoedd. Yn Sir Gaerfyrddin, roedd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys wedi cael ei sefydlu a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr lefel uwch o bob un o'r awdurdodau ymatebol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedwyd bod Sir Gaerfyrddin yn sir amaethyddol, a gofynnwyd pa fesurau oedd ar waith i ddiogelu cynhyrchu a dosbarthu bwyd mewn argyfwng.

Dywedodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil fod dwy ran i'r Ddeddf Argyfyngau Sifil.  Roedd Rhan 1 yn canolbwyntio ar drefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil, gan sefydlu fframwaith statudol o rolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol. Roedd Rhan 2 yn canolbwyntio ar bwerau argyfwng, gan sefydlu fframwaith modern ar gyfer defnyddio mesurau deddfwriaethol arbennig a allai fod yn angenrheidiol i ymdrin ag effeithiau'r argyfyngau mwyaf difrifol. Byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno i ddiogelu materion megis darparu bwyd a seilwaith.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar ymgysylltu â chymunedau lleol fel rhan o'r broses, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hynny'n profi i fod yn anodd, er bod ymdrechion wedi cael eu gwneud o'r blaen i'r perwyl hwnnw. Fel rheol, dim ond pan fyddai argyfwng yn codi y gwelid cymunedau'n ymgysylltu, a byddai'r diddordeb hwnnw'n pylu ar ôl y digwyddiad, wrth i faterion dilynol gael eu hunioni.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar argyfyngau rhagataliol megis terfysgaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor y rhoddwyd gwybod i Fforymau Lleol Cymru Gydnerth am risgiau posibl yn eu hardaloedd ac y cynhelid digwyddiadau hyfforddiant a edrychai ar sefyllfaoedd gwahanol ac a baratoai ymatebion ôl-ddigwyddiad iddynt.

·        Mewn perthynas â strwythur rheolaeth y Fforymau a'u lleoliad, roedd tri strwythur rheolaeth nodedig sef Strategol (Aur), Tactegol (Arian) a Gweithredol (Efydd).Roedd y Rheolaeth Aur ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin. Roedd canolfannau Rheolaeth Arian (Technegol) wedi'u lleoli mewn gorsaf heddlu ym mhob ardal awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol ganolfannau arian hefyd, ac roedd un Sir Gaerfyrddin ym Mharc Myrddin. Roedd canolfannau efydd yn weithredol, ac, oherwydd eu natur, wedi'u lleoli yn safle unrhyw ddigwyddiad.

·        Cyfeiriwyd at Glwy'r Traed a'r Genau yn y Sir yn 2001 a mynegwyd safbwyntiau a oedd yn ffafrio ymdrin â digwyddiadau o'r fath  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2017. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £407k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £4,167k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £162k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        O ran y tanwariant arfaethedig o £50k ar Ddigartrefedd, dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod nifer o resymau dros y sefyllfa honno. Yn gyntaf, roedd trefniadau atal rhagweithiol yr Adran wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth o gymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd ynghynt, lle roedd diffyg o £0.5m o ran y gyllideb. Yn ail, roedd grant o £35k gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparu tai i bobl ddigartref wedi golygu nad oedd yn rhaid i'r Awdurdod wario ar y cynllun bond. O ganlyniad i'r cyllid hwnnw, byddai'r gyllideb yn cael ei hailbroffilio yn y flwyddyn ariannol nesaf.

·        O ran y gorwariant o £40k ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod costau staff asiantaeth wedi deillio o gyflwyno strwythurau newydd yn y parc ac o'r angen i gyflogi staff asiantaeth dros dro tra bo'r broses recriwtio briodol yn cael ei dilyn. Roedd y parc bellach wedi ei staffio'n llawn.

·        O ran gweithredu Parc Gwledig Pen-bre, gofynnwyd am eglurhad ar y rhagamcanion o ran gwneud elw yn y dyfodol. Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden fod y Parc wedi cynyddu ei incwm tua £0.25m dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf o achos y parc carafanau. Er mwyn cynnal a chynyddu'r potensial hwnnw i greu incwm, byddai angen buddsoddi yn y parc er mwyn gwella'r cyfleusterau presennol, er enghraifft cawodydd a chaffi newydd. Yn unol â hynny, roedd prif gynllun wedi ei ddatblygu a'i gymeradwyo ar gyfer y parc, ac roedd darpariaeth wedi ei gwneud yn rhaglen gyfalaf y Cyngor i gyllido'r gwelliannau hynny.

·        Cadarnhaodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, o ran digartrefedd, er nad oedd gan yr Awdurdod gysgodfan benodedig i'r digartref dros nos, fod ganddo amryw o fesurau i helpu pobl i gyflwyno'u hunain fel pobl ddigartref. Roedd y mesurau hynny'n cynnwys gallu cael mynediad i lety dros dro mewn argyfwng, a gweithrediad cynllun bond.

·        Dywedodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gais am eglurhad ar gost net gyfunol o £274k o ran gwasanaethau Canolfan Hamdden Sanclêr (£177k) a Chanolfan Grefftau Sanclêr (£97k), fod costau nad oedd modd eu rheoli yn ffactor a oedd wedi cyfrannu'n fawr at hyn. Roedd y rheiny'n cyfateb i £82k a £50k ac yn cynnwys costau corfforaethol ac ad-dalu benthyciadau cyfalaf i gyllido gwelliannau i'r cyfleusterau. Roedd yr adran yn ymwybodol iawn o'r angen i greu incwm/lleihau costau ar gyfer y cyfleusterau, ac roedd cyfarfod wedi'i gynnal yn ddiweddar ag aelodau lleol i drafod ffyrdd o gyflawni'r nod hwnnw. Fodd bynnag, roedd yn rhaid cydnabod er bod y cyfleusterau hamdden yn y trefi mwy o faint yn fwy cost-effeithiol, fod gan y cyfleusterau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD GWEITHREDU CRAFFU pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2018.

 

Cyfeiriwyd at Adroddiad Adfywio Tref Llanelli, i'w gyflwyno i'r cyfarfod nesaf a gwnaed awgrym bod adroddiad tebyg yn cael ei gyflwyno ar ganol trefi Caerfyrddin a Rhydaman. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cwestiwn tebyg wedi'i godi yng nghyfarfod y Cyngor ar 14 Chwefror, pryd y rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai adroddiad statws llawn ar gynnydd yr holl ddatblygiadau yn y sir yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 29 Mawrth, 2018. 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhesymau a roddwyd dros beidio â chyflwyno dau adroddiad craffu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau