Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.Cundy, S. Davies, J. Gilasbey, H.I. Jones a H. Shepardson.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

A. Vaughan Owen

Eitem 4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 i 2021/22

Deiliad Trwydded ar gyfer Neuadd Chwaraeon y Gwendraeth

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 i 2021/22 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli gostyngiad o 0.3% ar gyfartaledd ledled Cymru ar setliad 18/19, mae'r effaith ar Sir Gaerfyrddin, ar ôl cymryd i ystyriaeth ffactorau megis talu cost y dyfarniad cyflog athrawon a chymhwysedd o ran prydau ysgol am ddim, yn ostyngiad o 0.5%, sy'n cyfateb i £1.873m.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £28 miliwn o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. At hynny, roedd cynigion y gyllideb yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.89% ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol hefyd yn dilyn cyhoeddi cynigion cyllideb y Cyngor ar gyfer ymgynghori, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £13m yn ychwanegol i ychwanegu at y Grant Cynnal Refeniw Cymru ar gyfer 2019/20. Er bod manylion penodol am y cyhoeddiad eto i ddod i law, amcangyfrifwyd y byddai effaith hyn ar Sir Gaerfyrddin yn golygu gostyngiad yn y diffyg ariannol a ragwelwyd o 0.5% i 0.3% dros gyfnod setliad 18/19. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant ychwanegol o £7.5m ledled Cymru i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon yn rhannol; Fodd bynnag, yr oedd hyn ar gyfer un flwyddyn yn unig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor felly'r wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio (dim un ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad B – Y rhannu o'r gyllideb sy'n ymwneud â meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at arbedion effeithlonrwydd y Cyngor ac at y sefyllfa bresennol lle mae ysgolion cynradd yn gyfrifol am ariannu cost gwersi nofio, a oedd yn cael ei dalu yn y gorffennol gan y Gwasanaethau Hamdden. Roedd ysgolion yn wynebu gostyngiadau yn eu cyllidebau, ac roedd y gost o ddarparu gwersi yn achos pryder i rai, awgrymwyd bod y Bwrdd Gweithredol yn rhoi ystyriaeth i'r posibilrwydd o'r Cyngor yn ariannu'r gost yn uniongyrchol a amcangyfrifwyd yn £150k. Petai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2019/20 - 2022 pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2019/20 – 2022 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Hamdden. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar gyfer ei gwblhau erbyn Ebrill 2019.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at uchelgais y Cyngor o fod yn 'ganolbwynt beicio Cymru'. Er bod y ddarpariaeth bresennol o ran beicio ar y ffordd yn cael ei groesawu, gan gynnwys Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, Felodrom Caerfyrddin a'r gylchffordd gaeedig genedlaethol ym Mhen-bre, ceisiwyd cael eglurhad ynghylch a oedd y Strategaeth Feicio yn cynnwys darpariaeth ar gyfer beicio oddi ar y ffordd, er enghraifft, yng nghoedwig Brechfa.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod y strategaeth yn darparu ar gyfer pob math o ddisgyblaethau beicio, gan gynnwys beicio oddi ar y ffordd a bod cyfarfod wedi cael ei gynnal yn ddiweddar gyda Beicio Cymru i drafod y ddarpariaeth honno mewn lleoliadau amrywiol. Roedd y rhain yn cynnwys tir ym mherchnogaeth y Cyngor ym Mharc Gwledig Pen-bre a Mynydd Mawr a Choedwig Brechfa, a oedd yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru. Roedd Cynllun Teithio Llesol y Cyngor hefyd yn mynd i'r afael â darparu llwybrau beicio fel modd o gysylltu un gymuned â'r llall.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth a Seilwaith y byddai'r Cyngor yn cydgysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru a phartïon eraill â diddordeb ar y seilwaith beicio ledled y sir. Soniodd hefyd ynghylch un o ofynion y Cynllun Teithio Llesol sef gofyniad ar y Cyngor i gynhyrchu Map Teithio Rhwydwaith Integredig, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i'w ystyried. Fel rhan o'r Map hwnnw, roedd cynigion yn cael eu hystyried ar gyfer cysylltu llwybrau beicio presennol a'r posibilrwydd o gyflwyno llwybrau newydd a rennir a fyddai'n cysylltu Rhydaman â Cross Hands, a allai olygu defnyddio hen reilffyrdd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am arian o dan nawdd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar gyfer cynlluniau o fewn eu Cynlluniau Rhwydwaith Integredig. Ar gyfer 2019/20 roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig £23m i awdurdodau lleol roi cynnig amdano, ar yr amod bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol. Nodwyd hefyd efallai y byddai Llywodraeth Cymru yn rhyddhau arian ychwanegol yn ystod y flwyddyn.

 

·        Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth arlwyo gan Wasanaethau Hamdden yn ei leoliadau niferus e.e. canolfannau hamdden / theatrau a p'un a oedd y gwasanaeth yn dilyn ethos cynaliadwyedd a bwyta'n iach drwy leihau'r defnydd o blastig untro a lleihau bwyd a diod melys.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr Adran wedi mabwysiadu cyfres o egwyddorion i hyrwyddo cynaliadwyedd a bwyta'n iach gan gynnwys cynnych lleol sy'n gydnaws â'r amgylchedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau ar gyfer 2019/20 - 2022 yn cael ei dderbyn.

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2019/2022 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2018/19 – 2021 Adran y Prif Weithredwr mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Datblygu Economaidd ac Eiddo a Phrosiectau Mawr.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cadarnhaodd y Rheolwr Eiddo a Phrosiectau Mawr fod yr holl eiddo a gafodd eu prynu a'u hadnewyddu gan y Cyngor o fewn canol tref Llanelli bellach â thenantiaid, roedd rhai yn cynnwys cyn denantiaid y farchnad a oedd wedi uwchraddio i unedau siop.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2019/2022 yn cael ei dderbyn

 

7.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2019/20 - 2022 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2019/20 – 2022 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Cynllunio gan amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran dros gyfnod amser y Cynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2019/20 - 2022 yn cael ei dderbyn.

 

8.

CANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Ganllaw Dylunio Priffyrdd newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin i ddisodli'r canllaw presennol a fabwysiadwyd ym 1997. Nodwyd bod y canllaw newydd yn cynnwys nifer o newidiadau polisi lleol a chenedlaethol, templedi dylunio newydd, fel y nodir yn y Llawlyfr ar gyfer Strydoedd a'r Llawlyfr ar gyfer Strydoedd 2. Roedd yn nodi disgwyliadau'r Awdurdod ar gyfer dylunio seilwaith priffyrdd o ran datblygiadau yn y Sir a'r bwriad oedd darparu canllawiau i ddatblygwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill wrth baratoi seilwaith trafnidiaeth ac ymyriadau cysylltiedig sy'n ymwneud ag amrywiaeth eang o ddatblygiadau yn Sir Gaerfyrddin. Roedd hefyd wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad drwy sicrhau bod y broses gynllunio mor esmwyth, tryloyw, cyson a chywir â phosibl drwy ddarparu manylion ynghylch gofynion y Cyngor o ran pob agwedd ar effeithiau posibl y priffyrdd, dyluniad y priffyrdd a chymhwyso canllawiau polisi lleol a chenedlaethol priodol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad.

 

·        Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio y byddai'r Canllaw yn cael ei roi ar waith ar unwaith ar ôl ei fabwysiadu gan y Cyngor. Ar ôl hynny, y bwriad oedd i'w ddatblygu yn Ganllawiau Cynllunio Atodol gan ddechrau gydag ymgynghoriad yn ystod Gwanwyn 2019 a'i fabwysiadu yn ystod Hydref 2019, yna ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ar gyfer 2018-2033.

·        Fel rhan o'r drafodaeth ar y canllaw cafwyd sawl cyfeiriad y tu hwnt i gylch gwaith y Pwyllgor ac yn hynny o beth dywedwyd wrth y Pwyllgor:

Ø  Mewn perthynas â ffyrdd nad ydynt wedi'u mabwysiadu o fewn y Sir, nid oedd gofyniad deddfwriaethol ar ddatblygwyr i adeiladu ffyrdd i safon fabwysiadu nac i ofyn i'r Awdurdod Priffyrdd Lleol eu mabwysiadu. Er y derbyniwyd bod priffyrdd heb eu mabwysiadu yn achosi anawsterau i berchnogion tai, roedd hwn yn fater sifil iddynt hwy a'u cyfreithwyr i fynd i'r afael ag ef. Nodwyd hefyd bod y mater yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a oedd wedi cytuno i ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad lleol i ofyn i Lywodraeth Cymru i edrych ar y mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu ac i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn perchenogion cartrefi;

Ø  O ran y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a'r cyhoeddiad diweddar gan ddarparwr bws i dynnu'n ôl o gontract i ddarparu gwasanaethau yn y Sir, cadarnhawyd bod yr Awdurdod wedi gwahodd tendrau ar gyfer y gwasanaeth, ac roedd yr Awdurdod yn aros am ymateb. Nodwyd er ei bod yn anodd darparu gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig am nifer o resymau e.e. amser teithio, amlder, perchnogaeth car a lefel yr adnoddau sydd ar gael i roi cymhorthdal i fysiau mewn ardaloedd gwledig, mae'r awdurdod yn rhagweithiol yn ei ymagwedd at ddarparu llwybrau bysiau ac yn cyflwyno ceisiadau am grantiau lle bynnag y bo'n bosibl, ar gyfer prosiect Bwc-a-Bus er enghraifft;

Ø  Mewn perthynas â darparu pwyntiau gwefru i gerbydau trydan, roedd cais wedi'i gyflwyno ar y cyd â Phartneriaeth Ynni Sir Gâr i gyflogi cydgysylltydd cerbydau trydan i baratoi strategaeth ar gyfer eu darparu ledled y Sir, mewn cysylltiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Ionawr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 23 Ionawr 2019.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau