Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd B.A.L Roberts a G.B. Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Aled Vaughan Owen

5 - Ymgynghoriad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 – 2020/21

Deiliad Trwydded - Neuadd Chwaraeon y Gwendraeth

Hugh Shepardson

5 - Ymgynghoriad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 – 2020/21

Deiliad Tocyn Tymor ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre

Shirley Matthews

5 - Ymgynghoriad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 – 2020/21

Deiliad Tocyn Tymor ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre

Ann Davies

6 - Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau 2018/19 – 2021

Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn effeithio ar dir y mae hi'n ei ffermio

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr S. Matthews, H. Shepardson ac A. Vaughan-Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 hyd at 2020/21 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/2019, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/2020 a 2020/2021. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, er bod y setliad dros dro o -0.5% a gyhoeddwyd yn llawer gwell na'r hyn a ragwelwyd, sef -2%, roedd yn dal i olygu ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod nodi arbedion effeithlonrwydd o £8.544m ar gyfer 2018/19 o gymharu â'r swm cychwynnol o £12.527m a byddai'n dal i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £25.6 miliwn o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.12% ar gyfer 2018/19 a symudiad o 1% yn lefelau'r Dreth Gyngor a oedd yn cyfateb i +/-£820k.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w gylch gorchwyl:

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio (dim un ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Cynllunio a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai;

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at yr effaith y byddai costau Ymddeol yn Gynnar yn Wirfoddol a dileu swyddi mewn ysgolion yn ei chael ar y gyllideb a pha fesurau oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r rheiny.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol eu bod yn cael eu harchwilio fel rhan o Bolisïau Adnoddau Dynol y Cyngor ac roeddent yn cynnwys y posibilrwydd fod staff sy'n wynebu colli eu swyddi yn cael eu hadleoli i ysgol arall sy'n chwilio am staff i'w cyflogi.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r Gyllideb Adfywio Ffisegol, dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi fod y cynnydd yn y gyllideb i'w dadogi'n rhannol i'r ffaith fod y cyfrifon yn cynnwys gwerth asedau eiddo'r Cyngor, gan gynnwys caffaeliadau diweddar yng Nghanol Tref Llanelli.

·        Cyfeiriwyd at gynnig a wnaed yn y gorffennol i gyflwyno Tocyn Cyffredinol ar gyfer trigolion y Sir er mwyn iddynt gael mynediad i barciau gwledig y Cyngor ac atyniadau eraill a gofynnwyd am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRAN CYMUNEDAU 2018/19 - 2021 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2018/19 – 2021 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Hamdden. Nodwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar y drafft ar ôl i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Gweithredol gynnig sylwadau ac ymgysylltu.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at boblogrwydd cynyddol beicio a ph'un a oedd gan yr Awdurdod/p'un a allai gynhyrchu mapiau o lwybrau beicio'r sir er mwyn eu rhoi mewn Canolfannau Croeso a lleoliadau priodol eraill.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden mai Adran yr Amgylchedd, ar y cyd â SUSTRANS, oedd yn gyfrifol am hyrwyddo'r llwybrau hynny, ond bod yr Is-adran Gwasanaethau Hamdden wrthi'n paratoi adroddiad ar strategaeth feicio newydd i'w chyflwyno i'r Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi y byddai'n canfod pa wybodaeth oedd ar gael ar hyn o bryd am lwybrau beicio o fewn y Sir, ac yn trefnu bod y rhain yn cael eu harddangos ar wefan y Cyngor os oes modd.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â'r amserlen ddatblygu ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi, hysbyswyd y Pwyllgor ei bod, er iddi gael ei rhaglennu'n wreiddiol i'w datblygu o fewn Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd y Cyngor, bellach wedi'i rhaglennu er mwyn ei chwblhau ymhen tair blynedd yn amodol ar nifer o ffactorau gan gynnwys trafodaethau ynghylch caffael tir a chyllid.

·        Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cynnig i ddathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin trwy sefydlu digwyddiad Gwobr Diwylliant Flynyddol.

 

Cadarnhawyd y byddai'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar 6 Ebrill 2018 yn Theatr y Ffwrnes a'i nod fyddai rhoi cyfle i ddathlu diwylliant Sir Gaerfyrddin. Byddai'r digwyddiad yn cynnwys anrhydeddu unigolion ynghyd â Seremoni Wobrwyo yn cwmpasu chwe chategori.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau ar gyfer 2018/19 - 2021 yn cael ei dderbyn.

7.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2018/19 - 2021 pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2018/19 – 2021 Adran y Prif Weithredwr mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Datblygu Economaidd ac Eiddo a Phrosiectau Mawr.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi drosolwg o'r gwaith a wnaed yn ystod 2017/18 a'r cynigion dros gyfnod y cynllun gan gynnwys y cyfrifoldeb dros lywodraethu gwerth £476m o gyllid o'r Fargen Ddinesig, datblygu'r Ganolfan Llesiant, creu swyddi, Cam 2 Datblygiad Cross Hands a gwerthuso effaith bosibl Brexit ar y Sir.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at ddyfodol Swyddfeydd Parc Amanwy'r Cyngor a chadarnhawyd, o ganlyniad i fynegiant o ddiddordeb gan y sector preifat mewn meddiannu'r eiddo, bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r opsiynau sydd ar gael i'r Cyngor o ran darparu lle i'r staff sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli yn yr adeilad, gan gynnwys eu hadleoli ac arferion gweithio ystwyth. Cadarnhawyd nad oedd yr eiddo'n cau.

·        Mynegwyd pryder yngl?n ag effaith banciau'n cau, yn enwedig o safbwynt denu pobl i drefi a phentrefi gwledig yn y sir. Dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi fod y pwynt yn cael ei gydnabod, a bod effeithiau o'r fath yn cael eu hystyried fel rhan o Fenter Trefi Gwledig yn y dyfodol i gefnogi cymunedau y mae colledion fel hyn yn effeithio arnynt. Roedd sefyllfa debyg wedi codi mewn perthynas â chau swyddfeydd post lle cafodd y Swyddfa Bost ei hannog i ddarparu ei gwasanaethau mewn partneriaeth â busnesau eraill, a hwyrach bod yna gyfle i'r banciau fabwysiadu trefn debyg. Fodd bynnag, yn y pen draw penderfyniad masnachol gan y banciau oedd eu cau fel hyn, ac nid oedd gan y Cyngor fel awdurdod lleol fawr ddim dylanwad ar eu penderfyniadau.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynigion ar gyfer datblygu Un Sir Gâr ymhellach trwy ddefnyddio ‘faniau allgymorth’, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi fod y cynigion yn mynd rhagddynt er mwyn eu cyflwyno yn 2018 yng nghanol y tair prif dref trwy ddefnyddio'r cerbydau llyfrgell deithiol presennol.

·        Cyfeiriwyd at hyrwyddo'r Gymraeg ar safleoedd datblygu strategol a pha ddylanwad oedd gan y Cyngor ar annog y busnesau hynny i hyrwyddo'r Iaith.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi mai ychydig ddylanwad oedd gan y Cyngor ar fusnes preifat, ond er hynny bod unrhyw gymorth ar ffurf grant busnes a ddyfernir gan y Cyngor yn amodol ar fod y derbynnydd yn cydymffurfio â'i Bolisi Iaith Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2018/19 - 2021 yn cael ei dderbyn  

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2018/19 - 2021 pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ar Gynllun Busnes 2018/19 – 2021 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Gwasanaethau Cynllunio ac Eiddo gan amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran dros ffrâm amser y Cynllun. 

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar bwysigrwydd cysylltu cynllunio ag Amcanion Llesiant y Cyngor, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod materion cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy yn cael eu cynnwys yn y prosesau cynllunio.

·        Mynegwyd pryder yngl?n â'r effaith y gallai'r datblygiadau mawr a gaiff eu cynllunio yn ardal Llanelli ei chael ar yr isadeiledd a'r gwasanaethau lleol/yr effaith yr oeddent eisoes yn ei chael. Cydnabyddai'r Rheolwr Blaen-gynllunio fod anawsterau wedi codi yn y gorffennol yng nghyswllt datblygiadau o'r fath a chadarnhaodd fod yr Is-adran Cynllunio bellach yn rhoi pwyslais ar dynnu amrywiol bartïon ynghyd ar ddechrau datblygiad e.e. y Bwrdd Iechyd Lleol, Addysg a Phriffyrdd i drafod y goblygiadau posibl o safbwynt yr isadeiledd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2018/19 - 2021 yn cael ei dderbyn.

9.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2006-2021 - ADRODDIAD ADOLYGU pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynigion ar gyfer adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn unol â phenderfyniad y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 (gweler cofnod 10.3). Nodwyd bod yr Adroddiad Adolygu yn manylu ynghylch maint y newidiadau oedd angen eu gwneud i'r Cynllun Datblygu Lleol ynghyd â'r weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer cyfnod cynllun hyd at 31 Mawrth 2033. Cafodd yr Adroddiad Adolygu ei lywio gan ganfyddiadau'r Adroddiadau Monitro Blynyddol blaenorol (gan gynnwys adborth ar weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol) ac arolygon parhaus. Argymhellwyd bod adolygiad llawn o'r cynllun yn cael ei gynnal am y prif resymau canlynol:-

-        Sicrhau bod y cynllun diwygiedig yn cael ei fabwysiadu cyn i'r Cynllun Datblygu Lleol presennol ddod i ben ar ddiwedd 2021;

-        Cydnabod canlyniadau'r Adroddiadau Monitro Blynyddol, yn benodol lle'r oedd yn nodi methiannau yn y gwaith o gyflawni strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol, y fframwaith aneddiadau a dosbarthiad gofodol twf. Yn hynny o beth roedd angen ystyried lefel y twf a'i ddosbarthiad gofodol er mwyn sefydlu p'un ai'r strategaeth bresennol oedd yr un fwyaf priodol ar gyfer cyflawni twf hyd at 31 Mawrth 2033;

-        Sicrhau bod goblygiadau Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd Is-genedlaethol yr Awdurdod Lleol ar sail 2014 a'r amrywiant sylweddol mewn newid yn y boblogaeth a gofynion aelwydydd a nodwyd yn cael eu hystyried yn drylwyr. Roedd angen deall goblygiadau'r rhagamcanion diwygiedig hyn, a'u hystyried yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin a chreu swyddi, twf a mewnfuddsoddi (gan gynnwys adfywio trwy'r Fargen Ddinesig). Byddai cyflawni hynny yn golygu adolygu'r dull strategol a gyflwynwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at bwysigrwydd adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol a mynegwyd y farn y dylid gofyn i'r Bwrdd Gweithredol drefnu bod aelodau yn cael cyflwyniad ar y cynigion.

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith fod y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn darparu ar gyfer 15,187 o dai a bod rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn lleihau'r ffigur hwnnw i 3,000. Mynegwyd pryder ynghylch lefel y lleihad a ph'un a oedd rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn gywir, gyda golwg ar lefel y datblygu arfaethedig ar gyfer y sir, yn enwedig yn ardal Llanelli gyda'r gwaith o greu'r Ganolfan Llesiant a datblygiadau arfaethedig eraill sydd, gyda'i gilydd, yn dod i gyfanswm o dros 1800 o unedau.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, tra bod rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar dueddiadau ac nad oeddent yn rhoi ystyriaeth i ymyriadau polisi gan y Cyngor, bod modd i'r Cyngor herio'r rheiny a ffurfio ffigurau mwy priodol ar gyfer y sir.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd at y dyraniad arfaethedig a dywedodd, tra bod y ffigur yn seiliedig ar ddemograffeg, nad oedd yn cynrychioli'r angen yn y sir am dai preswyl/ymddeol a gwahanol fathau o ddeiliadaeth. Fel awdurdod tai lleol roedd y Cyngor yn asesu'r farchnad dai leol yn rheolaidd i gael gwell dealltwriaeth o'r mathau o dai sydd eu hangen, sydd wedyn yn cael ei hadlewyrchu mewn cynlluniau strategol.

 

Mynegodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr eglurhad a roddwyd dros beidio â chyflwyno adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

11.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN DIWYGIEDIG 2018 - 2033 - CYTUNDEB CYFLENWI DRAFFT YNGHYD Â'R FETHODOLEG ASESU SAFLEOEDD DRAFFT pdf eicon PDF 282 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 - Cytundeb Cyflawni Drafft a Methodoleg Safleoedd a gynhyrchwyd fel rhan o benderfyniad y Cyngor ym mis Medi 2017 i adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol yn llawn neu'n rhannol. Nodwyd bod y Cytundeb Cyflawni Drafft yn manylu ynghylch yr amserlen ar gyfer paratoi'r Cynllun, a'r Cynllun Cynnwys Cymunedau, mewn perthynas ag ymgynghori ac ymgysylltu.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Cyfeiriwyd at y ffaith na fyddai'r safleoedd tai a ddyrannwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y Cynllun diwygiedig, ac y byddai rhaid i dirfeddianwyr wneud cais o'r newydd er mwyn eu cynnwys. Gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd y tirfeddianwyr hynny wedi cael gwybod yn unol â hyn.

 

      Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod yr holl dirfeddianwyr/datblygwyr wedi cael gwybod bod angen iddynt ailgofrestru eu safleoedd 12 mis yn gynharach. Byddai hysbysiadau hefyd yn cael eu rhoi cyn hir yn rhoi gwybod iddynt fod angen iddynt archwilio'r Adroddiad Adolygu, bod yn ymwybodol o'r broses ar gyfer ymgeisydd safle a pha wybodaeth fyddai'n ofynnol fel rhan o unrhyw gais am gynnwys safle yn y Cynllun.

·        Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod angen paratoi'r Cytundeb Drafft/Methodoleg Safleoedd fel rhan o brosesau'r Cynllun i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn eu cymeradwyo i gael dechrau'r Adolygiad. Rhagwelid y byddai'r cynllun diwygiedig yn destun archwiliad ffurfiol gan arolygydd wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru yn 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR fod yr adroddiadau ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018- 2033 - Cytundeb Cyflawni Drafft a Methodoleg Asesu Safleoedd Drafft yn cael eu mabwysiadu.   

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor restr o eitemau arfaethedig a oedd i'w hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar y dyddiad diwygiedig sef 30 Ionawr 2018 a nodwyd bod yr adroddiad arfaethedig ar Wasanaethau Theatr Gweledigaeth Newydd wedi cael ei ohirio tan ei gyfarfod ym mis Chwefror.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y diwygiad uchod, fod y rhestr o eitemau i'w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a oedd i'w gynnal ar 30 Ionawr 2018 yn cael ei derbyn. 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau