Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 25ain Ionawr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25  Tachwedd 2021 yn gofnod cywir.

 

 

3.

PENODI AELODAU'R FFORWM DERBYNIADAU ADDYSG pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelod Cabinet adroddiad ynghylch penodi'r Aelodau Addysg i Fforwm Derbyn Sir Gaerfyrddin a oedd yn esbonio, yn unol â Chod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru 2013 ar gyfer Aelodau Fforwm Derbyn, ei bod yn ofynnol adolygu aelodau craidd ac aelodau ysgol y Fforwm bob 4 blynedd a bod yr adolygiad llawn diwethaf o aelodaeth wedi'i gynnal yn hydref 2017.

 

Nodwyd y byddai adnewyddu aelodaeth fel arfer yn digwydd ar y cyd ag ethol aelodau'r Cyngor Sir, ond oherwydd etholiadau Llywodraeth Cymru yn 2021, gohiriwyd etholiadau'r cynghorau lleol am flwyddyn tan 2022.   Felly, er mwyn cydymffurfio â Chod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru, roedd angen ailethol yr aelodau craidd am y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2021 a chyfnod yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022. 

 

Wrth gofnodi bod yr holl Aelodau craidd presennol wedi cadarnhau'n ysgrifenedig eu bod am gael eu hailethol hyd at fis Hydref, cynigiodd yr adroddiad fod yr Aelod Cabinet yn gwneud y penodiadau fel y'u nodwyd yn yr adroddiad am y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Hydref 2022.  Roedd y dull hwn wedi'i gefnogi gan Fforwm Derbyn Sir Gaerfyrddin yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd 2021.

 

Yn dilyn etholiadau'r Cyngor Sir ym mis Mai, cynhelir adolygiad llawn o aelodau'r Fforwm yn yr hydref ac wedyn bob pedair blynedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ailbenodi'r cynrychiolwyr presennol ar y Panel i'r Fforwm Derbyn hyd at fis Hydref 2022, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

4.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Ysgol Feithrin Rhydaman

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

O 2 Ebrill 2022

Mr. C. H. Jones

Bro Banw

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

O 6 Chwefror 2022

Y Cynghorydd D. Harries

Griffith Jones

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

O 6 Chwefror 2022

Mr. K. Jenkins

Yr Hendy

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. S. Evans

Meidrim

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

O 5 Ebrill 2022

Mrs. A. Jones

Parc Waundew

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Dr. K. Al-Maliki

Y Castell

(3 lle gwag – 1 enwebiad)

 

Y Cynghorydd J Gilasbey

 

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Bro Dinefwr

(3 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. M. Bond

Y Strade

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr. R. Bowen