Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhian Lloyd 01267 224088
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 MAWRTH, 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021, gan ei fod yn gywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch gweithredu'r cynnig i ffedereiddio Ysgol Gynradd Llan-gain, Ysgol Gynradd Llansteffan ac Ysgol Gynradd Bancyfelin yn ffurfiol. Roedd hwn er mwyn cydymffurfio â chanllawiau a gweithdrefnau statudol mewn perthynas â chynigion ffedereiddio sy'n cael eu harwain gan yr Awdurdod Lleol, a hynny yn unol â "Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru - Canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol".
PENDERFYNWYD cymeradwyo gweithredu'r cynnig i ffedereiddio Ysgol Gynradd Llan-gain, Ysgol Gynradd Llansteffan ac Ysgol Gynradd Bancyfelin yn ffurfiol, yn weithredol o 1Medi, 2021 ymlaen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
Nodi, ers cyhoeddi'r Agenda, fod 2 o'r 3 enwebiad ar gyfer Ysgol Gynradd Llangynnwr wedi tynnu'n ôl; sef Geraint Bevan a Heather Lewis.
|