Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 21ain Medi, 2021 9.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 9FED GORFFENNAF, 2021 pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9fed Gorffennaf 2021, gan ei fod yn gywir.

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Blaenau

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

O 6ed Rhagfyr 2021

Cyng. Dai Thomas

Bynea

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

0 4ydd Hydref 2021

Cyng. Deryk Cundy

Dafen

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Cyng. Rob Evans

Ysgol Gymraeg Llangennech

(2x lle gwag – 1 enwebiad)

0 13eg Tachwedd 2021

Cyng. Gwyneth Thomas

Tre Ioan

(2 x lle gwag – 2 enwebiad)

1 nawr a 1 o 4ydd Hydref 2021

Mr S Murphy

Mr R Pal

Llanybydder

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr K Patel

Maes Y Morfa

(2 x lle gwag – 2 enwebiad)

Cyng. John Prosser

Ms N Thomas

Y Bedol

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr W Morgan

 

Ysgol Uwchradd

Penodiadau

Bryngwyn / Glanymor

(1 lle gwag – 2 enwebiad)

Cyng. Rob Evans