Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18FED MAI 2021. pdf eicon PDF 292 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18 Mai, 2021 yn gofnod cywir.

 

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/Yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

 

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

 

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i benodiad i'r Pwyllgor Rheoli sy'n goruchwylio holl Unedau Cyfeirio Disgyblion Awdurdod Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

 

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Bigyn

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Andre McPherson

Ffederasiwn Llangain/Llansteffan a Bancyfelin

(4 lle gwag – 5 enwebiad)

Y Cynghorydd Carys Jones

Mr G. Edwards

Mr H Iorwerth

Mrs N Pejsak

Stebonheath

(2 le gwag – 2 enwebiad)

Mrs R De Filipo

Mrs K Marson

 

PENDERFYNWYD HEFYD wneud y penodiad canlynol i'r Pwyllgor Rheoli sy'n goruchwylio holl Unedau Cyfeirio Disgyblion Awdurdod Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin

 

Penodi Aelod o'r Awdurdod Lleol i Bwyllgor Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion

Penodiadau

Pwyllgor Rheoli sy'n goruchwylio holl Unedau Cyfeirio Disgyblion Awdurdod Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin

(1 lle gwag - 1 enwebiad - o 1 Medi 2021)

Ms J Antoniazzi – (Swyddog Arweiniol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion)

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau