Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd. Hefyd nodwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y swydd yn wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, roedd nodyn ynghylch hynny yn cael ei gynnwys yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi. PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-
|
|||||||||||||||||||||
CYMERADWYO DYDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU YSGOL AR GYFER Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2020/21. PDF 166 KB Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar ddyddiadau arfaethedig tymhorau a gwyliau'r ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21. Dywedwyd bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Deddf Addysg (Cymru) 2914 i wneud newidiadau deddfwriaethol i sut y pennir dyddiadau'r tymor er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ysgolion yn yr holl ysgolion a gynhelir.
O ganlyniad i'r newidiadau hyn roedd angen i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig gydweithio er mwyn sicrhau bod dyddiadau'r tymhorau'r un fath, neu cyn agosed ag y bo modd. Gallai ysgolion hefyd gael cyfarwyddyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch dyddiadau eu tymhorau, os nad oedd y dyddiadau hynny'n gyson, neu os oedd angen eu newid.
Gan roi sylw i ofynion y Ddeddf, yr oedd y dyddiadau arfaethedig canlynol wedi'u paratoi ar gyfer dyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgolion yn sgil eu trafod ac yn sgil ymgynghori'n gyffredinol â'r awdurdodau cyfagos:-
Sul y Pasg - Dydd Sul 4 Ebrill 2021; Calan Mai - Dydd Llun 3 Mai 2021.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, petai'r dyddiadau yn cael eu cymeradwyo, y byddent yn amodol ar y trefniadau cysoni y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad ac felly ni fyddai modd eu cadarnhau'n derfynol hyd nes y ceir cadarnhad gan Weinidogion Cymru.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau'r Ysgolion ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2020/21.
|
|||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 4 Mehefin, 2018 yn gofnod cywir.
|