Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 17eg Medi, 2018 1.30 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG Y BROSES BENDERFYNU YNGHYLCH TREFNIADAETH YSGOLION pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch diwygio Proses Benderfynu ynghylch Trefniadaeth Ysgolion y Cyngor yn sgil Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gyhoeddi.

 

Dywedwyd bod polisi trefniadaeth ysgolion presennol y Cyngor yn cynnwys proses 3 cham lle roedd gan y Bwrdd Gweithredol awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo Cam 1 (Caniatâd i ymgynghori) a Cham 2 (Caniatâd i hysbysu), a lle roedd y Cyngor yn cymeradwyo Cam 3 (Caniatâd i weithredu). Petai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r cynnig diwygiedig yn golygu cyflwyno pedwerydd cam, sef Cam 0 (fel y dangosir yn y siart llif esboniadol sydd wedi'i hatodi i'r adroddiad). Byddai hynny'n dechrau drwy gynnal ymarfer cwmpasu a chasglu gwybodaeth ynghylch yr ysgol(ion) sy'n cael ei/eu hadolygu. Ar ôl cwblhau hynny, byddai Adroddiad Adolygu Ysgol yn cael ei gyflwyno i Dîm Rheoli Adrannol y Gwasanaethau Addysg a Phlant i benderfynu a ddylid ymgysylltu â rhanddeiliaid.  Petai'r Tîm Rheoli Adrannol yn gwrthod rhoi caniatâd, byddai'r cynnig yn dod i ben bryd hynny. Fodd bynnag, petai caniatâd yn cael ei roi, yna byddai swyddogion yn ymgysylltu â'r aelod(au) lleol perthnasol, y Pennaeth (Penaethiaid) a Chadeirydd y Llywodraethwyr (ac unrhyw ysgol y byddai'r mater yn effeithio arni o bosibl) ynghylch opsiynau priodol ar gyfer yr ysgol(ion) sy'n cael ei/eu hadolygu. Wedyn byddai canlyniadau'r ymarfer ymgysylltu anffurfiol hwnnw yn cael eu cofnodi mewn Adroddiad Cynnig a fyddai'n cynnwys opsiwn a ffefrir ac adborth ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol er mwyn cael caniatâd i ymgynghori (Cam 1).

 

Credwyd y byddai cynnwys Cam 0 yn arwain at system fwy agored a thryloyw, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ac y byddai'n dangos bod yr Awdurdod wedi ystyried pob opsiwn posibl ar gyfer yr ysgol(ion) sy'n cael ei/eu hadolygu heb ragdybio y byddant yn cau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r broses ddiwygiedig o gyflwyno adolygiadau strategol a chynigion statudol, fel y nodir yn y siart llif esboniadol sydd wedi'i hatodi i'r adroddiad.

3.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Bancyfelin

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd J. Tustin

Carwe/Gwynfryn/Pont-henri

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr T. Jones

Stebonheath

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs L. Trinkwon

Y Fro

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr I. Jones

Ysgol Arbennig

Penodiadau

Heol Goffa

(1 lle gwag - 1 enwebiad o 21/11/18)

Ms W. Evans

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5ED GORFFENNAF, 2018 pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.