Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Phlant (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 23ain Mawrth, 2018 9.30 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr ALl yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr Aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.

Hefyd nodwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y swydd yn wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn cael ei gynnwys yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaethai i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr ALl er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu:-

Ysgol Gynradd

Penodiadau

Bancffosfelen

(2 le gwag – 1 enwebiad)

Mr E. Bowen

Glanyfferi

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Y Cynghorydd Mair Stephens

Talacharn

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr R. Thomas

Llanmilo

 (1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs G. Cole

Llys Hywel

(2 le gwag - 2 enwebiad)

Miss M. James

 

Miss S. Thomas

Meidrim

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs A. Adams-Jones

Pen-y-groes

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mrs R.C. Mann

Dyffryn y Swistir

(1 lle gwag – 1 enwebiad)

Mr M. Christopher

Y Castell

(2 le gwag – 1 enwebiad

Y Cynghorydd Jeanette Gilasbey

 

 

3.

CYMERADWYO DYDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU YSGOL AR GYFER Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2019/20 pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fanylai ar ddyddiadau arfaethedig tymhorau a gwyliau'r ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20. Dywedwyd bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Deddf Addysg (Cymru) 2914 i wneud newidiadau deddfwriaethol i sut y pennir dyddiadau'r tymor er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ysgolion yn yr holl ysgolion a gynhelir.

 

O ganlyniad i'r newidiadau hyn roedd angen i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig gydweithio er mwyn sicrhau bod dyddiadau'r tymhorau yr un fath, neu cyn agosed ag y bo modd. Gallai ysgolion hefyd gael cyfarwyddyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch dyddiadau eu tymhorau, os nad oedd y dyddiadau hynny'n gyson, neu os oedd angen eu newid.

 

Gan roi sylw i ofynion y Ddeddf, yr oedd y dyddiadau arfaethedig canlynol wedi'u paratoi ar gyfer dyddiadau tymhorau a gwyliau'r ysgolion yn sgil eu trafod ac yn sgil ymgynghori'n gyffredinol â'r awdurdodau cyfagos:-

 

Tymor

Dechrau

Dechrau Hanner Tymor

Diwedd Hanner Tymor

Diwedd y Tymor

Hydref

Llun 2 Medi 2019

Llun 28 Hydref 2019

Gwener 1 Tachwedd 2019

Gwener 20 Rhagfyr 2019

Gwanwyn

Llun 6 Ionawr 2020

Llun 17 Chwefror 2020

Gwener 21 Chwefror 2020

Gwener 3 Ebrill 2020

Haf

Llun 20 Ebrill 2020

Llun 25 Mai 2020

Gwener 29 Mai 2020

Llun 20 Gorffennaf 2020

 

 

 

Sul y Pasg - Dydd Sul 12 Ebrill 2020;; Calan Mai - Dydd Llun 4 Mai 2020

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr ymarfer hysbysu yn ystod yr haf y llynedd wedi llwyddo i gysoni dyddiadau'r tymhorau bron yn llwyr, a phenderfyniad y Gweinidog oedd peidio â defnyddio'i phwerau disgresiwn i gysoni'r dyddiadau ac felly nid oedd angen ymgynghori. Fodd bynnag, disgwylir i bob Awdurdod Lleol gadarnhau'r dyddiadau yr oeddent wedi eu pennu'n amodol ar gyfer 2019/20, a oedd yr un peth ledled Cymru.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau'r Ysgolion ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2019/20.

 

 

 

4.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 25AIN IONAWR 2018 pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018, gan ei fod yn gywir.