Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWYR AWDURDOD LLEOL PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y lleoedd gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Nodwyd bod gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi ei roi i Gadeirydd y Llywodraethwyr, i'r Pennaeth ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd. Hefyd dywedwyd bod Llywodraethwyr ALl yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi. Eglurodd y Pen Swyddog Llywodraethu Ysgolion, yn dilyn etholiadau diweddar y Cyngor Sir, fod yr holl Gynghorwyr Sir a oedd newydd eu hethol wedi cael eu gwahodd i enwebu'r Cyrff Llywodraethu yr oeddent yn dymuno cynrychioli'r awdurdod lleol arnynt. Mae'n bolisi sirol y gall yr holl gynghorwyr sir ar ôl cael eu hethol bennu ar ba gyrff llywodraethu ysgolion y byddant yn eistedd a bydd eu penderfyniad yn cael blaenoriaeth dros lywodraethwyr awdurdod lleol na chafodd eu hethol. O ganlyniad, gall cynghorwyr sirol enwebu i wasanaethu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar ysgolion lle nad oes lle gwag ar hyn o bryd. Os bydd y categori hwn o ran swydd llywodraethwr wedi'i ordanysgrifio, yna mae rheoliadau llywodraethu yn datgan bod yn rhaid i'r Llywodraethwr Awdurdod Lleol sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod byrraf roi'r gorau i'r swydd. PENDERFYNWYD, er mwyn bodloni'r rhwymedigaethau statudol o ran llenwi lleoedd gwag ar Gyrff Llywodraethu ac ar ôl ystyried y ceisiadau a ddaeth i law, benodi'r canlynol yn Llywodraethwyr Awdurdod Lleol:-
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 15 Mehefin, 2017 yn gofnod cywir.
|